Hafan>Ymchwil>CSAD DEng

Doethur mewn Peirianneg (DEng)

Mae'r DEng wedi'i strwythuro i gefnogi newid cam wrth gam o safbwynt datrys problemau a/neu wella perfformiad datrysiad sy'n bodoli eisoes, gan arwain at newid gwreiddiol neu sylweddol yn arfer y Proffesiynau Peirianneg neu sefydliadau Peirianyddol. Gweinyddir y DEng gan CSAD gyda chefnogaeth gan CSM a PDR. Gwahoddir ceisiadau gan Beirianwyr Siartredig, ymarferwyr Peirianneg a Gweithwyr Proffesiynol sy'n gweithio ym maes ymgynghori, y diwydiant Peirianneg neu sefydliadau academaidd. Yn benodol, Peirianneg Bensaernïol, Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Peirianneg Dylunio, Peirianneg Rheoli Dylunio, Peirianneg Drydanol ac Electroneg, Polisi Peirianneg, Peirianneg Amgylcheddol, Peirianneg Gweithgynhyrchu, Peirianneg Dyfeisiau Meddygol, Peirianneg Fecanyddol, a Pheirianneg Cynnyrch. Yn ogystal, gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr nad oes ganddynt gymwysterau Peirianneg o bosibl, ond sydd eisoes yn gweithio o fewn y byd Peirianneg mewn diwydiant neu sefydliad academaidd, neu'r ymarferwyr hynny sy'n dymuno newid gyrfa a throi at beirianneg neu amgylchedd Peirianyddol. Mae’n berthnasol hefyd ar gyfer ymarferwyr neu eu sefydliadau sy'n ymwneud â Gwerthuso Perfformiad Adeiladu.

Mae'r DEng yn CSAD, CSM & PDR yn galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar sut y dylai eu harfer eu hunain ac arfer eu cyfoedion newid (addasu) fel y gall eu datrysiadau peirianneg (newydd a phresennol) fod yn fwy effeithlon, effeithiol, gwydn a chynaliadwy er mwyn diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Gallai prosiectau yn CSAD, CSM a PDR ganolbwyntio ar newid sylweddol i adeiladau, eu cydrannau, deunyddiau, rheolyddion a systemau; cynhyrchion, eu dyluniad, eu prosesau gweithgynhyrchu a'u cadwyni cyflenwi; adnoddau fel ynni, ynni adnewyddadwy neu leihau defnydd dŵr ac ailgylchu.

Mae'r ffocws ar newid arfer neu newid sefydliadol, neu'r ddau yn hyblyg yn cynnwys yn fras un o dri math, sef: cynnig, gweithredu a gwerthuso newid yn y cyd-destun proffesiynol; gwerthuso newid sydd eisoes yn digwydd o fewn y cyd-destun proffesiynol; neu ennill gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun proffesiynol er mwyn cynnig newid.

​ ​

Pam gwneud DEng?

 

Os yw unigolyn yn dymuno newid arferion neu yn arfer y sefydliad y mae'n gweithio neu'n cydweithredu ag ef, neu os yw'n dymuno cynnal prosiect ymchwil a datblygu sefydliadol, neu os yw eisoes yn ymwneud â phrosiect ymchwil a allai gynnwys newidiadau arloesol o sfabwynt arferion peirianyddol, yna mae ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol yn un llwybr i gyflawni'r fath amcan ac uchelgais – o dan arweiniad a goruchwyliaeth. Caiff pob ymgeisydd o fewn y cyrisau CSAD, CSM a PDR eu tywys a'u goruchwylio gan ddau aelod o staff sydd naill ai'n Beirianwyr neu'n Ymarferwyr sy'n defnyddio egwyddorion Peirianneg yn eu gwaith a/neu'r proffesiynau Peirianyddol; neu bydd ganddynt arbenigedd ymchwil cymwys arall o fewn, neu o ysgolion eraill yn y Brifysgol.

Dyluniwyd y DEng i gynnig dilyniant i gymwysterau Meistr, gan gynnwys PGDip, MPhil, MA ac MSc o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sefydliadau academaidd eraill y DU a'r tu allan i'r DU. Yn nodweddiadol, bydd gan ymgeiswyr gymhwyster Meistr o ddisgyblaethau gan gynnwys: Yr Amgylchedd Adeiledig, Dylunio, Peirianneg, Gweithgynhyrchu, neu Dechnoleg. O fewn CSAD a CSM, gall ymgeiswyr symud ymlaen o'r MSc Dylunio Cynnyrch, neu MSc Rheoli Peirianneg Cynhyrchu neu Reoli Cadwyn Gyflenwi a Logisteg Ryngwladol MSc.

Mae amrywiaeth eang o brosiectau ar gael, ond gallent gynnwys: Datblygu, gweithredu a mireinio dangosyddion perfformiad allweddol neu ddulliau arloesol i leihau'r defnydd o adnoddau, costau ac allyriadau carbon yn y broses weithgynhyrchu cynnyrch penodol. Datblygu a phrofi system ynni adnewyddadwy arloesol neu system arall i oeri, gwresogi, goleuo, pweru neu awyru adeiladau – mewn nifer o astudiaethau achos. Datblygu a phrofi dull arloesol o fonitro'r defnydd o ynni a dŵr a ffyrdd o leihau hynny. Ymchwilio i rwystrau i'r farchnad o safbwynt datrysiadau peirianyddol, a phrofi atebion posibl ar gyfer masnacheiddio'r farchnad. Ymchwilio i wybodaeth a gwendidau peirianyddol staff o fewn sefydliad a gweithredu rhaglen hyfforddi i wella effeithlonrwydd yn y gwasanaethau a'r cynhyrchion a ddarperir. Datblygu a phrofi dulliau arloesol i ailgylchu dŵr o wastraff, a phrofi ailddefnydd o'r dŵr.

Dylai Doethuriaeth Broffesiynol gael ei llywio gan wybodaeth a/neu theori sydd eisoes yn bodoli, gan arwain at gyfraniad gwreiddiol a sylweddol at newid mewn arfer proffesiynol neu arfer sefydliadol; o fewn cyd-destun Peirianyddol.

Mae ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r DEng a llwybrau Doethuriaeth Broffesiynol eraill, yn cyfeirio at gydnabyddiaeth ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol ehangach iddynt hwy eu hunain a'r sefydliadau y maent yn gweithio gyda nhw. Yn ogystal, mae ymgeiswyr yn cynnig sylwadau ar wella eu sgiliau a'u profiad yn ogystal â’u cyfleoedd datblygu gyrfa gyda'u cyflogwyr presennol a chyflogwyr eraill. Mewn rhai achosion, mae ymgeiswyr wedi cael cynnig dyrchafiad. Ymhellach, mae ymgeiswyr yn cyfeirio at y gallu i 'feddwl y tu allan i'r bocs' ac i wneud eu gwaith gydag agwedd mwy beirniadol, trefnus a hunan-fyfyriol.

Strwythur Rhaglen

 

 

Tystebau

 

"Rwyf wedi bod yn fodlon iawn ar fy nghynnydd ar y cwrs doethuriaeth broffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r dull modiwlaidd ac ymgysylltiad a chefnogaeth fanwl gan y staff wedi fy helpu i gydbwyso fy astudiaethau â gofynion prysur fy swydd fel darlithydd ac ymchwilydd. Mae'r dull seiliedig ar ymarfer wedi caniatáu i mi ddyfnhau fy ymwneud â byd Diwydiant o safbwynt systemau deallus ar gyfer cynhyrchu ac effeithlonrwydd adnoddau. Mae parhau â’r Ddoethuriaeth mewn Peirianneg (DEng) wedi bod yn fodd i ategu at fy nghymwysterau a’m profiad presennol ym maes peirianneg ac wedi arwain at fwy o gyhoeddiadau a chyllid ar gyfer fy mhrosiectau ymchwil. "


John Cosgrove
Pennaeth Adran Peirianneg Drydanol
Sefydliad Technoleg Limerick

Contact Information 

Dr John Littlewood
Cydlynydd Doethuriaeth Professiona CSAD: Arweinydd Llwybr ar gyfer DEng, DProf, DSBE
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhodfa’r Gorllewin
Llandaf
CF5 2YB
E: jlittlewood@cardiffmet.ac.uk
T: 02920 416646

​​​​​​Dychwelyd i dudalen hafan Doethuriaeth Broffesiynol​​