Mae'r Ddoethuriaeth Ymarfer Proffesiynol (DProf) wedi'i lleoli yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd, un o brif ddarparwyr addysg ôl-raddedig ac ymchwil yn y gwyddorau iechyd yng Nghymru.
Mae Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd yn Ysgol amlddisgyblaethol gyda'r prif feysydd gweithgaredd ymchwil yn y Gwyddorau Iechyd yn cynnwys: seicoleg gymhwysol, ymchwil fiofeddygol, diogelwch bwyd a maeth ac iechyd y cyhoedd. Ymhellach, mae gennym arbenigwyr mewn amrywiaeth o agweddau ar ddulliau ymchwilio a dylunio. Mae gan yr Ysgol ddiwylliant ôl-raddedig ac ymchwil bywiog, a hanes cryf o ymchwil gymhwysol. Gellir cynnig y DProf i weithwyr proffesiynol o nifer o ddisgyblaethau cysylltiedig gyda chefnogaeth goruchwylwyr sy'n ymwneud agosaf â’r gofynion pwnc.
"Yn wreiddiol, dechreuais ar lwybr Doethuriaeth broffesiynol mewn sefydliad arall, ond roedd y strwythur a lefel y gefnogaeth yn golygu fod datblygiad yn anodd. Pan ddaeth cyfle gyrfa i mi adleoli i Gaerdydd, penderfynais drosglwyddo i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd hynny’n ddewis rhagorol, a'r gefnogaeth a gefais yn ail-danio fy mrwdfrydedd yn fy nghwaith ymchwil a’m helpu i gael dealltwriaeth gliriach o sut i ddylunio a gweithredu fy mhrosiect. Mae dyluniad y rhaglen wedi fy ngalluogi i ystyried fy effeithiolrwydd o safbwynt newid arferion proffesiynol o fewn fy nisgyblaeth. Mae hyn wedi'i hwyluso gan strwythur rhaglen clir sydd hefyd yn darparu cyfleoedd i bwyso a mesur a chanolbwyntio ar faterion proffesiynol fel rhan o'r broses asesu. Rwy'n teimlo bod hon yn rhaglen sydd wedi'i dylunio'n dda a'i chyflwyno’n broffesiynol a byddwn yn argymell y ddoethuriaeth broffesiynol yn frwd i unrhyw un sy'n ystyried astudio ar y lefel hon. "
Joanne FawcettDProfYsgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd
Dr Jenny MercerCydlynydd Astudiaethau GraddedigYsgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd CaerdyddPrifysgol Metropolitan CaerdyddRhodfa’r GorllewinLlandafCF5 2YBE: jmercer@cardiffmet.ac.ukT: 029 2041 6862