Mae'r rhaglenni wedi'u hanelu at reolwyr proffesiynol o ystod eang o sectorau busnes a diwydiant ac fel rheol mae'n ofynnol i ymgeiswyr arwain prosiect rheoli strategol sylweddol. Mae'r DBA yn gyfwerth â PhD ond mae’n canolbwyntio'n bennaf ar nodi sut y bydd arferion proffesiynol yn newid o ganlyniad i'r wybodaeth newydd a ddatblygir ac a gynhyrchir yn sgil y rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol. Oherwydd natur y rhaglen a'r angen i ddangos cyfraniad clir ac amlwg i arfer proffesiynol, dim ond ar sail Rhan-amser y cynigir y rhaglenni.