Mae'r DSBE wedi'i strwythuro i gefnogi newid arfer cam wrth gam o fewn y proffesiynau neu'r sefydliadau, neu'r ddau, sy'n ymwneud â chreu, adeiladu a datblygu, gwella, cynnal, cynhyrchu, cynllunio, adnewyddu neu ôl-ffitio, arolygu a phrofi'r amgylchedd adeiledig; gyda ffocws ar gynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae cynaliadwyedd yng nghyd-destun y DSBE yn ymdrin ag agweddau sy'n ymwneud â chymuned, y maes economaidd, amgylcheddol, neu gymdeithasol, neu'r pedwar.
Mae'r DSBE yn galluogi ystod eang o ddisgyblaethau proffesiynol i ymwneud â meistroli newid mewn arfer, gan arwain at well amgylchedd adeiledig cynaliadwy; canolbwyntir ar adeiladau, y dirwedd ar gyfer leoli adeiladau, neu gydrannau o fewn adeiladau neu'r dirwedd, neu yn wir y bobl sy'n defnyddio'r amgylchedd adeiledig a'u hiechyd, diogelwch a lles.
Mae'r ffocws ar newid arfer neu newid sefydliadol, neu'r ddau, yn hyblyg ac yn cynnwys, yn fras, un o dri math, sef: cynnig, gweithredu a gwerthuso newid yn y cyd-destun proffesiynol; gwerthuso newid sydd eisoes yn digwydd o fewn y cyd-destun proffesiynol; neu ennill gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun proffesiynol i gynnig newid.
Er mwyn i'r Amgylchedd Adeiledig fod yn gynaliadwy rhaid iddo fod yn wydn er mwyn ymdopi ag anghenion cyfnewidiol, yr hinsawdd, polisïau, adnoddau a defnyddwyr. Yn wir, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl ar hyd y raddfa o adeilad hyd at gymdogaeth a thref – rhaid i ddyluniad adeiladau, adeiladwaith a'u systemau fod yn hyblyg ac yn ddigonol o safbwynt gwrthsefyll trychinebau naturiol a dynol, yn ogystal â newid amgylcheddol. Ymhellach, dylai’r defnydd o adnoddau a’u rheolaeth anelu at ailgylchu ac ailddefnyddio. Caiff yr ethos hwn ei gymhwyso ar gyfer llawer o wahanol fathau o gyfleusterau: tai, ysgolion, ysbytai, swyddfeydd, adnoddau.