Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu nifer o gyfleoedd i ymgymryd ag
ymchwil gan arwain at naill ai gymhwyster Meistr Athroniaeth (MPhil) neu Doethur mewn Athroniaeth (PhD) . Rydym hefyd yn cynnig sawl
Doethuriaeth Proffesiynol o safon uchel. Pa bynnag lwybr a gymerwch, bydd ein staff yn ymdrechu i ddarparu'r cymhelliant, y gefnogaeth a'r anogaeth briodol.
Lleiafswm arferol y gofynion mynediad ar gyfer astudio ar gyfer MPhil neu PhD yw gradd israddedig anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uchel o sefydliad addysg uwch cydnabyddedig, neu gymhwyster ôl-raddedig y mae Met Caerdydd yn ei ystyried yn gyfwerth â'r lefel hon. Lleiafswm arferol y gofynion mynediad ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol yw Diploma Ôl-raddedig a addysgir, neu'r hyn sy'n cyfateb i flwyddyn o waith ôl-radd dan oruchwyliaeth amser llawn mewn maes pwnc cysylltiedig./p>
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 o leiaf (lleiafswm 6.5 yn y cydrannau darllen ac ysgrifennu) neu gyfwerth, oni nodir yn wahanol o fewn gofynion mynediad y rhaglen.
Canllawiau Cynnig Ymchwil
YSGOL GELF A DYLUNIO
Ewch i dudalen
Ymchwil CSAD i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ofynion cynnig, cyngor ymgeiswyr a therfynau amser.
YSGOL ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL
Darparwch gynnig ymchwil amlinellol o oddeutu 1000 -1500 gair. Dylai eich cynnig gynnwys teitl, esboniad clir o'r maes ymchwil a'r cyd-destun gan gyfeirio at lenyddiaeth allweddol, eich nodau a'ch amcanion/cwestiynau ymchwil arfaethedig, ac amlinelliad o'r fframwaith methodolegol a'r dulliau sydd i'w mabwysiadu. Cofiwch gynnwys rhesymeg dros eich dewis o bwnc, gan gynnwys syniad o sut y byddai'r ymchwil yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth. Dylai ymgeiswyr Doethuriaeth Broffesiynol (EdD) nodi sut mae'r ymchwil yn gysylltiedig â'u cyd-destun proffesiynol eu hunain a sut y gallai effeithio ar bolisi/arfer. Dyfynnwch bob geirda gan ddefnyddio arddull gyfeirio gymeradwy. Bydd y cynnig yn cael ei farnu yn ôl ei berthnasedd i broffil ymchwil ac arbenigedd goruchwylio'r Ysgol yn ogystal ag ar ei ansawdd a'r potensial fel astudiaeth ymchwil.
GWYDDONIAETH IECHYD (YSGOL GWYDDONIAETH CHWARAEON AC IECHYD)
Darparwch gynnig ymchwil amlinellol (uchafswm 1000 -1500 gair). Dylai eich cynnig gynnwys teitl, rhywfaint o wybodaeth gefndir ar y pwnc, prif nodau eich cwestiwn ymchwil, y prif ddulliau i'w mabwysiadu (gan gynnwys unrhyw ofynion offer arbenigol lle bo hynny'n hysbys) ac unrhyw faterion moesegol sy'n gysylltiedig â'ch ymchwil. Dyfynnwch gyfeiriadau yn y cefndir a rhestrwch yr holl gyfeiriadau a ddyfynnwyd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau bod y cynnig yn cyd-fynd â phroffil ymchwil yr Ysgol a bod yr offer a'r arbenigedd goruchwylio angenrheidiol ar gael.
YSGOL REOLAETH
Dylid disgrifio'ch cynnig mewn uchafswm o 2,000 o eiriau, gan ddefnyddio'r is-benawdau canlynol: 'Cwestiwn Ymchwil' a 'Sut mae'ch cynnig yn ymwneud â gwaith cyhoeddedig yn y maes hwn'. Dylech hefyd gyflwyno 'Adran Gyfeirio', nad yw wedi'i chynnwys yn y nifer geiriau. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ofynion
yma.
CHWARAEON (YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD)
Cyflwynwch amlinelliad o'ch maes ymchwil arfaethedig. Dylech nodi'r rhesymeg dros y prosiect, y prif gwestiwn neu'r rhagdybiaethau ymchwil a'r dyluniad ymchwil y byddech chi'n ei ddilyn. Dylech hefyd gynnwys y dulliau methodolegol cysylltiedig y byddech chi'n eu cymryd a chyfeirio at y llenyddiaeth allweddol yn y maes hwn. Dylai hyn fod oddeutu 1500 gair a bydd yn sail ar gyfer trafodaeth gyda darpar oruchwylwyr.
Y GANOLFAN GENEDLAETHOL AR GYFER DYLUNIO CYNNYRCH AC YMCHWIL DATBLYGIEDIG (PDR)
Rhowch amlinelliad byr o'ch pwnc / pwnc ymchwil. Dylai'r cynnig fod hyd at 1000 o eiriau a dylai ddisgrifio'r pwnc / cwestiwn ymchwil rydych chi'n debygol o ganolbwyntio arno ac amlinelliad o'r ddadl/maes pwnc y bydd eich ymchwil wedi'i leoli ynddo (gan wneud arwyddocâd eich diddordeb ymchwil yn glir). Dylech hefyd gynnwys Adran Gyfeirio (heb ei chynnwys yn y nifer geiriau) a'ch rhesymau proffesiynol a/neu bersonol dros fod eisiau ymgymryd â'r ymchwil hon.
Gwneud Cais
Gallwch chwilio a gwneud cais am y cwrs o'ch dewis yn ein
System Hunan Wasanaeth ar-lein. Os ydych chi'n chwilio am MPhil/PhD, bydd "Research" yn y bar chwilio. Cysylltwch â Derbyniadau os hoffech chi lenwi ffurflen gais drwy gyfrwng y Gymraeg.
Trwy Hunanwasanaeth gallwch gyflwyno cais yn uniongyrchol i'r brifysgol, ac mae'n caniatáu i chi atodi dogfennau ategol a dogfennau ategol eraill fel cymwysterau (rydym yn cynghori eich bod yn uwchlwytho cymwysterau, os cânt eu cwblhau, gyda'ch cais). Rhaid i chi uwchlwytho Cynnig Ymchwil a
Dogfen Ategol cyn cyflwyno pob cais ymchwil.
* Sylwer, os mai cais am y Ddoethuriaeth mewn Hyfforddi Chwaraeon yn unig, mae angen datganiad personol a CV yn ystod y cam ymgeisio.
Gallwch arbed eich cais a dychwelyd i'w gyflwyno’n ddiweddarach, ond nodwch y bydd cyfrifon lle na chyflwynwyd cais o fewn cyfnod o 6 mis yn cael eu diddymu. Ar ôl ei gyflwyno, gallwch fewngofnodi a gwirio statws eich cais.
Os yw Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn berthnasol i'ch cais, ewch i'n tudalen wybodaeth cyn ei chyflwyno gan y bydd angen cychwyn y broses hon mewn da bryd cyn dechrau'r rhaglen
Rydym yn annog ceisiadau Hunanwasanaeth ar-lein gan ei fod yn ffordd gyflymach a mwy effeithlon o wneud cais am raglen. Fodd bynnag, os ydych chi'n cael anawsterau, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch:
directapplications@cardiffmet.ac.uk
Ail-ymgeisio
Dyledwyr
Bydd y rhai sydd mewn dyled i'r Brifysgol a sy'n gwneud cais newydd yn cael eu hystyried ar yr amod bod y gofynion mynediad yn cael eu bodloni, yn cael cynnig lle. Fodd bynnag, bydd y cynnig hwn yn dibynnu naill ai ar glirio'r ddyled cyn dechrau'r rhaglen, neu drwy ddod i gytundeb ynghylch talu gyda Cyllid.
Gall ymgeiswyr gysylltu â Cyllid ynghylch dyled sy'n ddyledus naill ai drwy ebostio:
E-bost:
finance@cardiffmet.ac.uk ; neu ffonio Ffôn: 029 2041 6083
Am wwybodaeth bellach am Bolisi a Gweithdrefn Dyledwr y Brifysgol, cliciwch yma.
Sefyllfa Academaidd Anffafriol
Disgwylir i ymgeiswyr sydd wedi gadael y Brifysgol dan gwmwl academaidd h.y. heb gwblhau'r flwyddyn astudio y cawsant eu cofrestru arni, hysbysu'r Uned Dderbyn wrth ystyried ailymgeisio, cyn cyflwyno cais. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried unwaith y bydd y wybodaeth am y statws academaidd gwael wedi'i derbyn a'i gwirio. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried unwaith y bydd y wybodaeth am y statws academaidd anffafriol wedi'i derbyn a'i gwirio. Gwneir y penderfyniad terfynol ar dderbyn gan y ddau Gyfarwyddwr Rhaglen sy'n ymwneud â'ch astudiaeth flaenorol ac arfaethedig.
Derbyniadau Cofrestru
Os ydych yn ystyried ymgeisio ar gyfer MPhil/PhD, Doethuriaeth Broffesiynol neu PhD trwy Weithiau Cyhoeddedig, mae gennym
dau derbyniad ymchwil ym mhob blwyddyn academaidd. Dylech ymgeisio ar gyfer y dyddiad dechrau sy'n well gennych a byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni eich cais.
Fodd bynnag, sylwch nad yw
pob cwrs ar gael ar
bob dyddiad. Os oes angen, dylech gysylltu â'r Cydlynydd Astudiaethau Graddedig perthnasol i gael manylion. Ymgeisiwch ar gyfer y dyddiad dechrau sy'n well gennych a byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni eich cais.
Gallai hefyd fod opsiwn o dderbyniad mis Ionawr, ond peidiwch a gwenud cais am hyn oni bai eich bod wedi eich hysbysu i wneud hyn.
DYDDIADAU DECHRAU AR GYFER 2022/23
Cofrestru
24ain Ebrill 2023: i'w ddilyn gan
Cwrdd a Chyfarch ar 10fed Fai 2023 ac
Ymsefydlu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 22ain Fai 2023.
29ain Medi 2023: i'w ddilyn gan
Cwrdd a Chyfarch ar 11fed Hydref 2023 ac
Ymsefydlu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 23ain Hydref 2023.
31ain Ionawr 2024: i'w ddilyn gan
Cwrdd a Chyfarch ar 14eg Chwefror 2024 ac
Ymsefydlu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 26ain Chwefror 2024.
30ain Ebrill 2024: i'w ddilyn gan
Cwrdd a Chyfarch ar 15eg Fai 2024 ac
Ymsefydlu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 27ain Fai 2024.
Dim ond un pwynt mynediad a gynigir gan yr Ysgol Gelf a Dylunio, sef mis Medi.
Mae'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yn cynnig dau bwynt mynediad y flwyddyn, mis Medi a Mai.
Mae Doethuriaethau Proffesiynol yn cynnig dau bwynt mynediad y flwyddyn, mis Medi a Mai.
Cofrestru a Sefydlu: Tymor y Gwanwyn a Thymor yr Hydref
Ewch i
Cofrestru Academaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran dyddiadau tymor a chofrestru.
Sylwch fod yn rhaid eich bod wedi gwneud cais ac wedi derbyn cynnig cyn y gallwch gofrestru.
Ffioedd a Chyllid
Mae benthyciadau myfyrwyr bellach yn cael eu cyflwyno ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, gyda chyfyngiadau. Gweler gwybodaeth bellach ar dudalen
Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig, Rhan Amser ac Ymchwil. Yma gallwch hefyd ddod o hyd i'r tablau ffioedd diweddaraf a chyngor cyllid.
Newidiadau a Dod â Rhaglenni i ben
Gwna’r Brifysgol bob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr ar raglenni a gynigir mor gywir a chyfredol â phosibl. Fodd bynnag, caiff rhaglenni astudio'r Brifysgol eu hadolygu'n barhaus ac mae'n ddigon posibl y bydd rhai newidiadau rhwng yr amser cyhoeddi a’r amser y mae myfyriwr yn cychwyn y rhaglen. Mae rhedeg rhaglenni Prifysgol hefyd yn ddibynnol ar niferoedd, h.y. mae angen i nifer penodol o fyfyrwyr ymgymryd â'r rhaglen er mwyn iddi fod yn hyfyw.
Pan wneir newidiadau neu pan wneir penderfyniad i ddirwyn rhaglen i ben, hysbysir ymgeiswyr o hyn cyn gynted â phosibl, fel bod cyfle i ystyried rhaglen arall o fewn y sefydliad neu rywle arall. Os penderfynir dirwyn rhaglen i ben ar ôl i ymgeiswyr gael cynnig lle, bydd yr Uned Dderbyniadau yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewisiadau perthnasoleraill a darparu cymorth i ymgeiswyr ddod o hyd i'r dewis arall hwnnw.
Os cynigir lle iddynt ar raglen y mae ei dyfodol yn ansicr, ni fydd ymgeiswyr â chynigion diamod yn gallu cofrestru nes bod hyfywedd y cyfnod astudio a gynigir yn cael ei gadarnhau. Bydd ymgeiswyr yr effeithir arnynt yn derbyn diweddariadau a chadarnhad ynghylch pryd y gallant hunan-gofrestru.
Telerau ac Amodau