Hafan>Ymchwil>Uniondeb a Llywodraethu Ymchwil

Uniondeb a Llywodraethu Ymchwil

​​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ymddygiad proffesiynol ym mhob gweithgaredd prifysgol ac ymchwil.  

Mae Fframwaith Llywodraethu Ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn berthnasol i bob aelod o staff a myfyriwr sy'n ymwneud ag ymchwil boed y gwaith ymchwil yn cael ei wneud o fewn neu y tu allan i Met Caerdydd. Mae'r Fframwaith hefyd yn berthnasol i unigolion nad ydynt yn aelodau o Met Caerdydd ond a allai fod yn gwneud gwaith ymchwil o fewn adeiladau Met Caerdydd. 

Mae'r fframwaith yn cynnwys set o ddisgwyliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n ymwneud ag ymchwil gynnal safonau rhagorol o ymarfer academaidd a gonestrwydd ym mhob agwedd ar ymchwil trwy ddarllen, deall ac ymgorffori'r egwyddorion a'r arferion a nodir yn y Fframwaith yn eu gwaith bob dydd. Mae hefyd yn cyfeirio'r darllenydd at bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amrywiol agweddau ar lywodraethu ymchwil ym Met Caerdydd. 

Adolygir y Fframwaith bob dwy flynedd, ac fe gymeradwywyd y fersiwn gyfredol ym mis Rhagfyr 2017.  

Mae'r Polisi Camymddwyn ym maes Ymchwil Met Caerdydd yn berthnasol i bob unigolyn sy'n ymwneud ag ymchwil ym Met Caerdydd. Mae unigolion o'r fath yn cynnwys staff, myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn aelodau o Met Caerdydd, ond a allai fod yn gwneud gwaith ymchwil o fewn adeiladau Met Caerdydd. 

Mae'r polisi'n mynnu bod honiadau o gamymddwyn ymchwil yn cael eu gwneud yn ysgrifenedig i Gyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol a fydd yn pennu a oes achos camymddwyn prima facie yn bodoli.  

Adolygir y Polisi bob dwy flynedd, ac fe gymeradwywyd y fersiwn gyfredol ym mis Rhagfyr 2021. 

Datganiadau Blynyddol ar Uniondeb Ymcwhil   

Goruchwylio Uniondeb a Llwyodraethau Ymchwil 

Cyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol yw'r uwch arweinydd academaidd ar gyfer materion sy'n ymwneud ag uniondeb a llywodraethu ymchwil, gan gynnwys moeseg ymchwil ac fe'i cefnogir gan Reolwr REF a Pholisi’r Brifysgol, sydd wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS).  

Cysylltwch

Am unrhyw ymholiad yn ymwneud ag Uniondeb Ymchwil a Llywodraethu ym Met Caerdydd, gan gynnwys pryderon sy'n ymwneud â chamymddwyn ymchwil posibl, cysylltwch yn y lle cyntaf gyda: 

Kate Jefferies, kajefferies@cardiffmet.ac.uk, Rheolwr REF a Pholisi