Fel myfyriwr ôl-raddedig, ymchwil neu ran-amser, bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n dewis ei astudio. Bydd rhai rhaglenni hefyd yn wynebu costau ychwanegol at ffi’r cwrs a manylir ar y wybodaeth hon ar dudalen Costau Cwrs Ychwanegol.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r rhestr lawn o ffioedd ar gyfer rhaglenni amser llawn a rhan-amser. Cyfeiriwch at Ganllaw Ffioedd Dysgu i gael rhagor o wybodaeth.
Cyllid Israddedig Rhan-Amser
Benthyciadau Myfyrwyr Ôl-raddedig
Am y gefnogaeth gyfredol sydd ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr, gellir dod o hyd i wybodaeth ar y tudalennau gwe isod:
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Cyllid Myfyrwyr Lloegr
Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon
Asiantaeth Gwobrau Myfyrwyr yr Alban
Byddwch yn ymwybodol - diffyg cymhwysedd
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y Benthyciad Myfyriwr PG os ydych chi'n trosglwyddo'ch credydau blaenorol gan ddefnyddio credydau Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (DBC) neu Ddysgu Blaenorol Achrededig (DBA), neu ychwanegiad mewn perthynas â'ch cwrs astudio. (Cyfeiriwch at ein tudalen gwe DBC i gael rhagor o wybodaeth am Ddysgu Blaenorol Cydnabyddedig.)
Os byddwch yn derbyn bwrsari GIG ar gyfer eich rhaglen astudio ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am fenthyciad.
Hefyd, byddwch yn ymwybodol, os canfyddir bod eich cais cyllid myfyriwr yn anghymwys yn ystod y cam ymgeisio neu ar ôl cofrestru, mae'n ofynnol i ni hysbysu'r SLC a gellir tynnu'ch benthyciad myfyriwr yn ôl.
Am gyngor pellach, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Met Caerdydd gan ddefnyddio financeadvice@cardiffmet.ac.uk
Grantiau Hyfforddi Athrawon (ar gyfer Cyrsiau TAR)
Efallai y bydd grantiau hyfforddi'r llywodraeth ar gael ar gyfer TAR Cynradd a rhai meysydd pwnc uwchradd TAR. Nid oes angen ceisio am y grantiau gan eu bod ynghlwm yn awtomatig â'ch lle os ydych chi'n gymwys. Byddwch yn derbyn eich rhandal cyntaf yn mis Rhagfyr ac yna'n fis Mawrth, gyda rhandal dwbl terfynol ym mis Mehefin. Am wybodaeth bellach ewch i:
Darganfod Addysgu - Cymhellion.
Ysgoloriaethau a Chyllid Ymchwil
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig ystod o ysgoloriaethau doethuriaeth i helpu myfyrwyr sy'n gwneud ymchwil i ariannu eu hastudiaethau. I ddarganfod rhagor am y rhain, ewch i'n tudalennau ymchwil yma.
O ran benthyciadau ymchwil, bydd y PGL ar gyfer Cymru a Lloegr yn berthnasol i'r rheini sy'n astudio rhaglen MPhil 2 flynedd (amser llawn), ond ni fydd y rhai sy'n astudio MPhil rhan-amser neu MPhil sy'n arwain at PhD yn gymwys. Y bwriad yw cyflwyno benthyciadau doethuriaeth ar gyfer myfyrwyr PhD ar gyfer 2018, ond nid yw'r manylion wedi'u cwblhau eto.
Gwasanaeth Cyngor Ariannol Myfyrwyr:
Mae ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth pe bai gennych unrhyw gwestiynau am gymorth posibl a allai fod ar gael i chi wrth ichi astudio. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma neu e-bostiwch: financeadvice@cardiffmet.ac.uk.
Mae gwefannau ac adnoddau defnyddiol eraill ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwil sy'n chwilio am gyfleoedd cyllido yn cynnwys:
Postgrad Solutions
Target Postgrad
Find a Masters
Prospects