Mae DSpace, storfa ddigidol Met Caerdydd, yn cadw manylion ymchwil ac allbwn ysgolheigaidd y sefydliad. Ymhlith y cynnwys mae:
• erthyglau cyfnodolion
• papurau cynhadledd
• penodau mewn llyfrau
• traethodau ymchwil
• papurau gwaith
• taflenni arddangosfa
Mae'r storfa’n arddangos gweithgareddau ymchwil Met Caerdydd ac, os yn bosibl, mae'n gwneud testunau llawn ymchwil yn hygyrch ac yn agored i unrhyw un, unrhyw le yn y byd.
Cliciwch yma i gael arweiniad defnyddiwr ar sut i ddod o hyd i ymchwil ar DSpace.
Dylai staff Met Caerdydd ymgynghori â thudalennau Cymorth Ymchwil y Llyfrgell i gael mwy o wybodaeth am y storfa a chyhoeddi mynediad agored.
Am wybodaeth bellach, dylid cysylltu â thîm y cwrs.