Mae'r rhaglenni DProf wedi'u hanelu at ymarferwyr o ystod eang o sectorau byd busnes a diwydiant ac fel rheol mae'n ofynnol i ymgeiswyr arwain prosiect rheoli strategol sylweddol. Mae'r DProf yn gyfwerth â PhD yn canolbwyntio'n bennaf ar nodi sut y gall arferion proffesiynol newid o ganlyniad i'r wybodaeth newydd a ddatblygwyd ac a gynhyrchir fel rhan o’r rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol. Oherwydd natur y rhaglen a'r angen i ddangos cyfraniad clir ac amlwg o safbwynt arferion proffesiynol, dim ond ar sail Rhan-amser y cynigir y rhaglenni.