Hafan>Ymchwil>Graddau Ymchwil

Graddau Ymchwil

Mae yna lawer o resymau pam y gallai llwybr astudiaeth ôl-raddedig fod yn addas ar eich cyfer chi, p'un ai er mwyn gwella'ch rhagolygon cyflogaeth, ennill dealltwriaeth ddyfnach o bwnc rydych chi'n teimlo'n gryf amdano, neu eich hysgogi i wneud newid yn eich bywyd.

Gyda chymuned ymchwil ôl-raddedig lewyrchus yn astudio ar draws amrywiaeth eang o bynciau, mae Met Caerdydd wedi ymrwymo'n gryf i gynnal a chefnogi ymchwil sydd ar flaen y gad o ran archwilio gwybodaeth.

Mae graddau ymchwil yn canolbwyntio ar astudiaeth annibynnol ac mae ymgeiswyr yn gweithio gyda'u goruchwylwyr i nodi'r rhaglen astudio fwyaf addas. Y cam cyntaf felly yw cysylltu â'r Cydlynydd Astudiaethau Graddedig yn eich maes ymchwil arfaethedig i sicrhau bod gennym yr arbenigedd perthnasol i'ch cefnogi. Mae manylion ein hysgolion academaidd a'r cysylltiadau perthnasol i'w gweld isod:

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Cyswllt: Arweinydd Academaidd Astudiaethau Graddedig: Dr Stephen Thompson

Gwefan CSAD

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Cyswllt: Cydlynydd Astudiaethau Graddedig: Dr Kate North

Gwefan CSE

Ysgol Reolaeth Caerdydd

Cyswllt: Cydlynydd Astudiaethau Graddedig: Dr Rachel Mason-Jones

Gwefan CSM

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Cyswllt Chwaraeon: Cydlynydd Astudiaethau Graddedig: Dr Rhodri Lloyd neu ar gyfer ymholiadau ymchwil ôl-raddedig cyffredinol, e-bostiwch: ESSHResearchDegrees@cardiffmet.ac.uk

Ysgoloriaethau Gradd Ymchwil

Cyswllt Iechyd: Cydlynydd Astudiaethau Graddedig: Dr Jenny Mercer​

Gwefan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Ysgol Dechnolegau

PDR (Canolfan Ryngwladol Dylunio ac Ymchwil)

Cyswllt: Cyfarwyddwr Ymchwil: Dr Andrew Walters

Gwefan PDR

Mae Met Caerdydd yn cynnig nifer o lwybrau astudio ymchwil ôl-raddedig ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae opsiynau astudio llawn amser a rhan amser ar gael.

Yn dilyn llwybr traddodiadol, gallech astudio at gyfer dyfarniad MPhil neu PhD. Mae'r MPhil yn cynnig cyfle i chi werthuso corff o wybodaeth yn feirniadol neu wneud cyfraniad gwreiddiol i'ch maes o'ch dewis. Mae'r PhD yn cynnig cyfle i chi ymgymryd â rhaglen waith systematig tuag at ddatblygu gwybodaeth newydd, a chyfuno’r wybodaeth hon o fewn y sylfaen lenyddiaeth bresennol.

Fel arall, efallai y byddwch yn penderfynu dilyn Doethuriaeth Broffesiynol (rhan amser yn unig) sy'n cyfuno cydran a addysgir â chynhyrchu prosiect terfynol sy'n canolbwyntio ar wella ymarfer. Mae'r gyfres o ddyfarniadau Doethuriaethau Proffesiynol a gynigir ym Met Caerdydd yn eang ac yn cwmpasu diddordebau ymchwil o bob rhan o'r sefydliad. Mae rhestr lawn o raglenni Doethuriaeth Broffesiynol wedi'i chynnwys yn y prosbectws Ôl-raddedig.

I'r rhai sydd â chysylltiadau presennol â Met Caerdydd, ac sydd wedi casglu portffolio ymchwil sylweddol, yna efallai y bydd PhD trwy Weithiau Cyhoeddedig yn llwybr mwy addas. Darperir rhagor o ganllawiau ar y gofynion yn yr adran Cais.