Mae llwybr Ed.D y Ddoethuriaeth Broffesiynol wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysgol profiadol a'i nod yw datblygu eu gwybodaeth feirniadol o faterion addysgol cyfredol. Mae astudio ar lefel doethuriaeth yn ysgogi ac yn trawsnewid meddwl proffesiynol ac arferion bob dydd myfyrwyr, wrth ddatblygu dealltwriaeth ddofn o sefyllfaoedd proffesiynol bywyd go iawn. Gwna myfyrwyr gyfraniad sylweddol a gwreiddiol at ddatblygu gwybodaeth addysgol mewn perthynas â'u diddordebau addysgol unigol eu hunain.