Mae'r Doethur Ymarfer Proffesiynol yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd yn rhaglen gradd ymchwil ar yr un lefel â PhD traddodiadol (Lefel 8) lle mae myfyrwyr yn gweithredu'n annibynnol. Mae'r pwyslais ar ddatblygu dulliau newydd neu ddatblygedig o arfer proffesiynol yn y diwydiant chwaraeon. Fe'i cynlluniwyd ar sail y cysyniad o ddatblygu, hwyluso, gweithredu a/neu werthuso newid i naill ai arfer cyfredol unigolyn neu arfer sefydliad cyfan. Fe'i hanelir at weithwyr proffesiynol sy'n dymuno gwneud newid sylweddol yn y ffordd y maent hwy neu eu sefydliad yn gweithredu. Mae elfennau a addysgir yn cyd-fynd â gweithgareddau ymchwil annibynnol a chefnogir myfyrwyr gan oruchwyliwr a'u hannog i ystyried eu harfer eu hunain trwy ddatblygu sgiliau ymarfer myfyriol. Mae myfyrwyr yn astudio ac yn dilyn arferion gwaith bob dydd yr un pryd gan roi cyfle i ddatblygu gwell dealltwriaeth ddamcaniaethol o arferion gwaith cyfredol, pam y gallai fod angen newid a sut y gellir hwyluso newid ac asesu ei effeithiolrwydd.