Ymchwil Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

​​

Mae Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd (CSESP) wedi’i chydnabod am ei rhagoriaeth mewn addysgeg ac ymgysylltiad rhagweithiol â datblygiad addysg ers 1962. Rydym wedi gwneud cynnydd pwysig i ddatblygu amgylchedd ymchwil cryf a chynaliadwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi cyflawni hyn drwy gynnydd systematig ym maint, ansawdd, effaith a chapasiti ein hymchwil. Hwyluswyd hyn drwy ddatblygu seilwaith, buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ein hymchwil ag effaith, datblygu ein hymchwil gydweithredol, a datblygu diwylliant ymchwil mynediad agored, sy’n seiliedig ar uniondeb.

Mae gan ein staff ystod eang o ddiddordebau ymchwil sy’n cynnwys arbenigeddau mewn ymchwil ac ymarfer addysg, llenyddiaeth Saesneg, ysgrifennu creadigol, polisi cymdeithasol, tai, gwaith ieuenctid, plismona proffesiynol a throseddeg. Yn ogystal â llawer o staff sydd â phroffiliau ymchwil sefydledig ac sy’n amlygu eu hunain, mae cyfran sylweddol o’n darlithwyr hefyd yn gwneud graddau uwch ac yn datblygu diddordebau ymchwil ychwanegol i gyfrannu at bortffolio’r Ysgol. Mae gan y CSESP hefyd gysylltiadau ymchwil addysgol cryf ag Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ac Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd sydd cynnig pwyslais rhyngddisgyblaethol wedi’u hadeiladu ar y cyd.

Rydym wedi cydlynu elfennau o’n hymdrechion ymchwil, ac wedi goruchwylio ymchwil, wedi’u seilio ar sawl Grŵp Ymchwil. Fodd bynnag, yn sgil dychwelyd i REF2021, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyfansoddi rhai o’r grwpiau hyn, ac mae grwpiau eraill yn cael eu cynnig a’u cymeradwyo. Ar ôl eu cyfansoddi, bydd y Grwpiau Ymchwil hyn yn cael eu harwain gan uwch ymchwilydd a fydd yn cydweithio’n glos â staff eraill sy’n ymchwilwyr ar ganol eu gyrfa neu’n gynnar yn eu gyrfa, yn ogystal â’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig (PhD, DProf, ac EdD) ac mae eu gwaith yn gysylltiedig â chylch dylanwad y Grŵp Ymchwil penodol hwnnw. Nod sylfaenol ein holl Grwpiau Ymchwil yw manteisio ar y gymysgedd o brofiad o fewn y grŵp i feithrin galluedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Wrth i’r Grwpiau Ymchwil hyn gael eu cymeradwyo neu eu hailgyfansoddi, byddant yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon.

Mae’r CSESP hefyd yn cynnal Cyfres o Seminarau Ymchwil bywiog, cyffrous, poblogaidd gyda chyflwyniadau wythnosol gan siaradwyr gwadd, staff yr Ysgol, a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.


Cyrsiau

​Mae manylion astudiaeth Ôl-raddedig yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol i’w gweld ar y dudalen cyrsiau.

Digwyddiadau

​Gweld Rhaglen Seminar yr Ysgol. Ewch i’r tudalennau Menter ar gyfer cynadleddau eraill.

Proffiliau Staff

​Darganfyddwch fwy am staff yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Gweld y Proffiliau Staff.

Cysylltu â Ni

Am rhagor o wybodaeth am ymchwil yn y CSESP, cysylltwch â’r Deon Ymchwil Cyswllt, Yr Athro Steve Cooper.

Am rhagor o wybodaeth am raglenni ymchwil doethurol yn y CSESP, ar gyfer PhD, cysylltwch â’r Cydlynydd Astudiaethau Graddedig, Dr Kate North, ac ar gyfer DProfs/EdDs cysylltwch Arweinydd y Llwybr EdD, Dr Sue Davis.