Trefnydd a chynullydd: Dr Sue Davis (SDavis@cardiffmet.ac.uk)
Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Dr Sue Davis
Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:
- Dr Susan Davis
- Chantelle Houghton
- Alysean Banks
- Mark Pryce Williams
- Jo Farag
- Dr Gabriel Roberts
- Dr Kristina Kelly
- Dr John Fernandes
- Dr Aylwin Yafele
- Kumbirai Mabwe
- Sharne Watkins
- Eve Oliver
- Ameira Bahadur-Kutkut
- Anna Stembridge
- Dr Alun Hardman
- Dr Rom Okeke
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Nod y grŵp ymchwil hwn yw: mae pwyslais ar ymchwilio i bob math o anghydraddoldeb a sut yr ydym yn deall ac yn adeiladu diwylliant o ddealltwriaeth; ac un lle mae cynhwysiant yn cael ei weld fel y norm. Byddai ein hegwyddorion yn cynnwys dealltwriaeth a chefnu ar ragfarnau diarwybod a defnyddio dulliau meddyliol sy’n datblygu diwylliant sy’n anrhydeddu egwyddorion amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae’r grŵp yn ymddiddori ym mhob cyfnod o addysg a dysgu gydol oes, a’r rhyngweithio rhwng addysg a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’r pwyslais ar ymchwil agos i ymarfer sydd â’r potensial i effeithio ar bolisi ac ymarfer, ac er mai prif gyd-destun gwaith y grŵp yw system addysg Cymru, mae hefyd yn ymddiddori yng nghyd-destunau ehangach y DU ac yn rhyngwladol ac mae’n ymdrechu i ddylanwadu ar wybodaeth ac ymarfer yn y parthau hynny.
Bydd y grŵp yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol gydag aelodau’r grŵp yn dod o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd, meysydd arbenigol a chefndiroedd. Cafodd partneriaethau allanol eu ffurfio â sefydliadau academaidd a sefydliadau blaenllaw.
Bydd y grŵp yn mabwysiadu dulliau ymchwil cymysg, gan ddefnyddio ystod o ddulliau ansoddol a meintiol i ymgymryd ag astudiaethau agos at ymarfer. Mae gan y grŵp arbenigedd mewn ystod o feysydd arbenigol gan gynnwys – amrywiaeth a chydraddoldeb, ymarfer a meddwl gwrth-hiliol, astudiaethau LGBTQ+, astudiaethau rhywedd a chynhwysiant sy’n ymgorffori ystod o feysydd fel anghenion dysgu ychwanegol ac astudiaethau awtistiaeth.