Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Ymchwil>Grŵp Ymchwil Llenyddiaeth Saesneg a'r Byd-eang

Grŵp Ymchwil Llenyddiaeth Saesneg a'r Byd-eang

​​

Trefnydd a chynullydd: Dr Nick Taylor-Collins (NTaylor-Collins@cardiffmet.ac.uk)

Arweinydd Ymchwil Cysywllt: Dr Carmen Casaliggi (CCasaliggi@cardiffmet.ac.uk)

Mae aelodau’r grŵp (dangosol) yn cynnwys:

  • Dr Carmen Casaliggi (Darllenydd mewn Llenyddiaeth Saesneg, CSESP)
  • Dr Elizabeth English (Uwch Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg, CSESP)
  • Dr Ben Fergusson (Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, CSESP)
  • Dr Sabrin Hasbun (Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, CSESP)
  • Dr Jan Huyton (Uwch Ddarlithydd mewn Addysg, CSESP)
  • Dr Nina Jones (Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau, CSESP)
  • Dr Nik Konstantakis (Uwch Ddarlithydd mewn Addysg, CSESP)
  • Dr Nick Taylor-Collins (Uwch Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg, CSESP)
  • Yr Athro Jeff Wallace (Athro Emeritws Llenyddiaeth Saesneg, CSESP)
  • Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Nod y grŵp ymchwil hwn yw: canolbwyntio ei ymchwil ar fod yn wreiddiol yn ei gwmpas, ac yn fyd-eang yn ei gyd-destunau ehangach. Rydym eisoes yn gweithio â chydweithwyr yn Ewrop a De America, ac mae ein myfyrwyr ymchwil yn cynnwys rhai sy’n cael eu goruchwylio ar y cyd â chydweithwyr yn Saudi Arabia, ac mae ein myfyrwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru’n cynnwys rhai sy’n edrych ar ysgrifennu o Japan. Mae’r dulliau a’r pwyslais hwn ar y byd-eang – sydd wedi’i hymgorffori o fewn cymuned ymchwil Llenyddiaeth Saesneg y CSESP – yn cyfrannu’n fwyaf arbennig at Strategaeth Ymchwil y Brifysgol fel y dangosir yn Academïau Byd-eang Met Caerdydd. Rydym yn bwriadu ehangu’r Academïau Byd-eang drwy ein hymchwil, ac i ddangos arwyddocâd darllen llenyddiaeth yn Saesneg i helpu i archwilio i’r gymuned fyd-eang.