Trefnydd a chynullydd: Dr Louise Allen-Walker (LAllen-Walker@cardiffmet.ac.uk)
Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Dr Jenny Mercer [CSSHS] (JMercer@cardiffmet.ac.uk)
Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:
- Dr Louise Allen-Walker
- Dr Laura Rees-Davies
- Dr Emma McDonald
- Dr Joann Warner
- Dr Christina Thatcher (Prifysgol Caerdydd)
- Dr Lucy Windridge
- Dr Jennie Clement
- Sian Sarwar
- Dr Tom Breeze
- Sandra Dumitrescu
- Dan Williams
- Dr Emily Abbinett
- Dr Cheryl Ellis
- Paul Brooks
- Dr Jennie Mercer (CSSHS)
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Nod y grŵp ymchwil hwn yw: archwilio cymwysiadau seicoleg mewn addysg a’r gymuned. Mae’r meysydd diddordeb arbennig yn cynnwys: chwalu mythau a chamsyniadau sy’n gysylltiedig â seicoleg yn y proffesiwn addysgu ac ymyriadau i helpu ymarferwyr addysg i deimlo’n hyderus i ddefnyddio ac i ddysgu am seicoleg; hyfforddi a mentora ymyriadau mewn addysg sydd wedi’u hymgorffori mewn theori seicoleg; hybu llesiant a chydnerthedd mewn cyd-destunau addysgol a chymunedol gan ddefnyddio ymyriadau seicolegol; a chymhwyso seicoleg yn y gymuned, yn benodol grwpiau ysgrifennu cymunedol a phrosiectau plismona cymunedol.
Mae ein grŵp rhyngddisgyblaethol yn cynnwys seicolegwyr, gydag arbenigeddau o fewn y maes; arbenigwyr mewn addysg sydd â phrofiad o grwpiau ysgrifennu cymunedol a phlismona cymunedol. O fewn ein grŵp, rydym yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i archwilio i effeithiolrwydd ymyriadau seicolegol mewn cyd-destunau addysgol a chymunedol.