Cyhoeddiadau

 

Mae cyhoeddiadau gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd i'w gweld isod. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am gyhoeddiadau aelodau o staff ar eu Proffiliau Staff.

Gellir prynu e-Gyhoeddiadau papurau ymchwil trwy Cardiff Met Press.


An Evaluation of iPad Implementation:

Crynodeb gweithredol

 

Geiriau allweddol: ipads, ysgol gynradd, technoleg symudol, hyfforddiant, cymhelliant, annibyniaeth, asesu, rhieni, disgyblion, athrawon.

Mae'r adroddiad hwn yn gwerthuso gweithrediad iPads mewn chwe ysgol gynradd sydd â dalgylchoedd amrywiol ledled Caerdydd. Prif ffocws yr astudiaeth oedd archwilio sut y cyflwynwyd a gweithredwyd yr iPads, ynghyd ag asesu'r effaith a gawsant ar agweddau a chymhellion athrawon, rhieni a disgyblion.

Casglwyd data trwy arolygon a chyfweliadau. Cwblhawyd arolygon ar-lein gan 52 o rieni o bedair ysgol a 70 o athrawon o bump o'r ysgolion. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfweliadau grŵp bach gyda 120 o ddisgyblion blynyddoedd 1, 3, 5 a 6 a 23 o athrawon o bob un o'r chwe ysgol.

 Dadansoddwyd data i nodi sawl thema allweddol gan gynnwys: pwysigrwydd dulliau anffurfiol a ffurfiol o hyfforddiant iPad; lefelau uchel o frwdfrydedd a chymhelliant athrawon, disgyblion a rhieni; rhwyddineb defnydd; - gwella annibyniaeth disgyblion; a sut mae'r iPad yn cefnogi amrywiol ddulliau asesu. Yn ogystal, ymatebodd pob athro yn gadarnhaol i'r disgyblion yn eu cynorthwyo gyda'r iPads ac mewn sawl achos fe'u hanogwyd i gefnogi disgyblion eraill yn y dosbarth hefyd.

Cynigir casgliadau ac argymhellion i wella addysgu a dysgu gyda'r iPad yn ogystal â darparu tystiolaeth i'r Awdurdod Lleol i gefnogi datblygiad strategol defnydd TGCh yn ysgolion Caerdydd.

Mae copi o'r adroddiad ar gael yma

An Early Evaluation of the Cardiff Local Authority Literacy Strategy: Final Report to the Welsh Government New Ideas Fund

 

Mae adroddiad hwn o 2011 yn darparu gwerthusiad cynnar o ddatblygiad a gweithrediad Strategaeth Llythrennedd Caerdydd (2009 - 2012) a oedd yn cael ei dreialu mewn nifer o ysgolion yn Awdurdod Lleol Caerdydd.
Mae copi o'r adroddiad ar gael yma

Adroddiad Musical Futures:

Rhwng mis Medi 2011 a mis Gorffennaf 2012, cymerodd un ar bymtheg o ysgolion yng Nghymru ran mewn peilot Musical Futures lle gweithredodd athrawon ddulliau dysgu anffurfiol ac an-ffurfiol mewn gwersi cerdd Cyfnod Allweddol 3.  Ers hynny, mae ysgolion wedi parhau i weithredu'r dulliau ac wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach sydd wedi cyflwyno gweithdai lleisiol ac wedi archwilio'r defnydd o dechnoleg symudol.

Dolen i'r adroddiad: Musical Futures

Dolen i'r papur academaidd cysylltiedig: Music Education Research