Trefnydd a chynullydd: Dr Leanne McCarthy-Cotter (LMcCarthy-Cotter@cardiffmet.ac.uk), a Dr Helen Taylor (HTaylor@cardiffmet.ac.uk)
Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Dr Leanne McCarthy-Cotter and Dr Helen Taylor
Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:
- Dr Leanne McCarthy-Cotter (Uwch Ddarlithydd a Chydlynydd REF, CSESP)
- Dr Helen Taylor (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Dr Alex Vickery (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Dr Jan Huyton (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Dr Jo Aubrey (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Dr Kate Attfield (Darlithydd, CSESP)
- Dr Joann Warner (Darlithydd, CSESP)
- Dr Edith England (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Dr Laura Rees-Davies (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Julia Swallow-Edwards (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
- Dr Mark Lang (Tiwtor Cyswllt, CSESP ac Ymchwilydd Annibynnol)
- Dr Elizabeth Cotton (Uwch Ddarlithydd, CSM)
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Nod y grŵp ymchwil hwn yw: creu gofod i ymchwilwyr i rannu syniadau, meithrin galluoedd, a chreu ymchwil ddylanwadol mewn cyd-destun amlddisgyblaethol. Gan fanteisio ar arbenigedd yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol (Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai, Gwaith Cymdeithasol, Plismona, a Gwaith Ieuenctid), mae’r grŵp yn datblygu strategaeth i rannu a chynhyrchu ymchwil i bynciau fel iechyd, polisi teulu, llesiant, tai, ymgysylltu cymunedol, phroffesiynoldeb a’r ddarpariaeth llesiant. Rydym yn ymgysylltu â phartneriaid o’n rhwydweithiau o’r tu allan i’r brifysgol i sicrhau bod yr agenda ymchwil a chynhyrchu o fewn y grŵp yn ymateb i flaenoriaethau polisi cymdeithasol brys yng Nghymru, y DU, ac mewn cyd-destun rhyngwladol.
Mae gan y Grŵp gysylltiad â’r Ganolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles fel rhan o’r Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol ym Met Caerdydd. Y tu allan i’r Brifysgol, mae’r Grŵp mewn sefyllfa gref i ymgysylltu ac i lywio trafodaethau ar bolisi cymdeithasol ar lefelau Llywodraethau’r DU a Chymru. Mae’r gwaith a ddatblygwyd a’r ffyrdd o weithio’n adlewyrchu agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r grŵp yn cynnal cyfarfodydd, seminarau a gweithdai rheolaidd. Ein nod yw grŵp ymchwil sy’n cael ei redeg gan Met Caerdydd, ond gydag aelodau o sefydliadau ymarfer a phrifysgolion o bob rhan o Gymru, y DU, ac yn rhyngwladol.