Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Ymchwil>Grŵp Ymchwil Pontio-Trawsnewidiadau Addysgol Gydol Oes/Educational Transitions Across the Lifespan (Pontio-ETAL)

Grŵp Ymchwil Pontio-Trawsnewidiadau Addysgol Gydol Oes/Educational Transitions Across the Lifespan (Pontio-ETAL)

Trefnydd a chynullydd: Dr Rhiannon Packer (RAJPacker@cardiffmet.ac.uk)

Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Dr Nigel Newton (NNewton@cardiffmet.ac.uk) and Dr Rhiannon Packer

Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:

  • Dr Emily Abbinett (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
  • Christine Faulkner (Arweinydd Strategol Pontio, CSESP)
  • Dr Kieran Hodgkin (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
  • Dr Jan Huyton (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
  • Dyddgu Hywel (Arweinydd Iaith Strategol y Gymraeg, Pg-R)
  • Dr Nigel Newton (Darlithydd, CSESP)
  • Dr Nick Young (Uwch Ddarlithydd, CSESP)
  • Dr Paul Smith (Uwch Ddarlithydd, CSHSS)
  • Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Nod y grŵp ymchwil hwn yw: datblygu cynrychiolaeth gydlynus a throsolwg torfol o wahanol ddulliau a safbwyntiau ar bontio addysgol. Mae ein prif bwyslais ar ddatblygu arbenigedd trawsddisgyblaethol i edrych ar yr effaith y gall pontio mewn addysg ei gael ar blant, pobl ifanc, ac oedolion, yn enwedig mewn meysydd nad ydynt wedi’u hastudio hyd yma, fel plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed a dan anfantais.

Mae’r prif amcanion yn cynnwys datblygu a sefydlu rhwydweithiau cydweithredol yng Nghymru a thu hwnt, wrth ymchwilio i agweddau ar bontio addysgol a fydd yn sail i arferion gorau ac yn gwella dealltwriaeth o’r broses bontio mewn addysg o safbwynt cyfannol.

Rydym yn gobeithio cynorthwyo cydweithwyr sy’n awyddus i gael gwell dealltwriaeth o bontio addysgol a chymhwyso’r wybodaeth hon yn eu meysydd astudio ac ymchwilio eu hunain. Mae’r grŵp yn cynnal cyfarfodydd, seminarau a gweithdai rheolaidd.