Trefnydd a chynullydd: Yr Athro David Egan (DEgan@cardiffmet.ac.uk) a Dr Anne Hodgson (AHodgson2@cardiffmet.ac.uk)
Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Professor David Egan
Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:
- Dr Susan Davis
- Yr Athro Emeritws David Egan FLSW, FRSA, FCCT
- Dr Clare Glennan (CSSHS)
- Dr Anne Hodgson
- Chantelle Haughton
- Dr Jan Huyton
- Dr Kristina Kelly
- Dr Leanne McCarthy-Cotter
- Dr Alex McInch (CSSHS)
- Dr Nigel Newton
- Gemma Mitchell
- Dr Rhiannon Packer
- Dr Mirain Rhys (CSSHS)
- Marjorie Thomas (myfyriwr Pg-R)
- Paula Webber
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Nod y grŵp ymchwil hwn yw: rhoi pwyslais ar bob math o anghydraddoldeb addysgol, gan gynnwys effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, gwrth-hiliaeth, anghenion dysgu ychwanegol, datblygu ysgolion bro. Mae’n ymddiddori yn holl gwmpas addysg a dysgu gydol oes a’r rhyngweithio rhwng addysg a chymdeithas yn gyffredinol. Mae ei bwyslais ar ymchwil agos at ymarfer sydd â’r potensial i effeithio ar bolisi ac ymarfer.
Er mai prif gyd-destun gwaith y grŵp yw system addysg Cymru, mae hefyd yn ymddiddori yng nghyd-destunau ehangach y DU ac yn rhyngwladol ac mae’n ymdrechu i ddylanwadu ar wybodaeth ac ymarfer yn y parthau hynny.
Bydd y grŵp yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol gydag aelodau’r grŵp yn dod o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd, meysydd arbenigol a chefndiroedd. Cafodd partneriaethau allanol eu ffurfio â sefydliadau academaidd blaenllaw gan gynnwys Prifysgol Glasgow, cyrff polisi fel yr Education Endowment Foundation a sefydliadau sector ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Bydd y grŵp yn mabwysiadu dulliau ymchwil cymysg, gan ddefnyddio ystod o ddulliau ansoddol a meintiol i ymgymryd ag astudiaethau agos at ymarfer. Mae gan y grŵp arbenigedd mewn ystod o feysydd arbenigol gan gynnwys ymchwil i oresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ysgolion bro, anghenion dysgu ychwanegol, cyflawniad pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, a llesiant dysgwyr.