Trefnydd a chynullydd: Dr Merris Griffiths (MGriffiths4@cardiffmet.ac.uk) a Dr Jo Aubrey (JAubrey@cardiffmet.ac.uk)
Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Dr Merris Griffiths
Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:
- Dr Jennie Clement
- Louise Cook
- Sandra Dumitrescu
- Dr Edith England
- Chantelle Haughton
- Cez James
- Dr Leanne McCarthy-Cotter
- Julia Rooney
- Sian Sarwar
- Kirsten Stevens-Wood
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Nod y grŵp ymchwil hwn yw: dwyn ynghyd amrywiaeth o arbenigedd amlddisgyblaethol o sbectrwm eang o weithgarwch ysgolheigaidd, i ymchwilio, ffurfio cysyniadau, ateb problemau, a thrawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae ‘plentyndod’ ac ‘ieuenctid’ yn cael eu ffurfio, eu llunio a’u cynnal mewn cymdeithas gyfoes.
Gan droi at nifer o feysydd ymchwil astudiaethau plentyndod, y Dyniaethau, a pholisi cymdeithasol, mae’r grŵp yn ymdrechu i annog cysylltiadau rhwng disgyblaethau. Mae ein hymchwil, sy’n cynnwys gwaith ‘traddodiadol’ a ‘chymhwysol’, yn ceisio datblygu syniadau ystyrlon am blentyndod ac ieuenctid. Mae ein diddordebau amrywiol i’w cael o fewn maes cymdeithaseg, ac maent yn cynnwys adeiladwaith cymdeithasol, cynrychiolaeth, a llunio polisïau, ac mae ein cylch gorchwyl sy’n fwriadol eang yn ceisio cynhyrchu gwybodaeth newydd sy’n pontio ffiniau disgyblaethau mewn ffyrdd newydd.
Fel rhan o’n hymrwymiad i barchu a gwrando ar leisiau pobl ifanc, a sicrhau bod y rhain yn ysbrydoli, goleuo, ac yn hybu ein hymchwil, mae ein grŵp yn cynnwys is-banel o blant a phobl ifanc sy’n gweithredu fel cynghorwyr, cymheiriaid sy’n ymchwilwyr, a chyfranogwyr. Hefyd, mae ein grŵp yn gweithio i ddatblygu gwasanaethau ymgynghori, gwerthuso, a hyfforddi arbenigol er budd amrywiaeth o sefydliadau sy’n ymwneud â phlentyndod ac ieuenctid yng Nghymru a thu hwnt.