Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Ymchwil>Grŵp Ymchwil Canolfan Ryngwladol Arweinyddiaeth mewn Addysg Caerdydd

Grŵp Ymchwil Canolfan Ryngwladol Arweinyddiaeth mewn Addysg Caerdydd

Trefnydd a chynullydd: Yr Athro Julia Longville (JLongville@cardiffmet.ac.uk), a’r Athro Alma Harris (AHarris@cardiffmet.ac.uk)

Arweinydd Ymchwil Cyswllt: Yr Athro Alma Harris

Mae aelodau’r Grŵp (dangosol) yn cynnwys:

  • Yr Athro Julia Longville
  • Yr Athro Alma Harris
  • Yr Athro Steve Cooper
  • Rhys Lloyd
  • Rhian Crooks-Williams
  • Dr James Snook
  • Rhian Wyn Griffiths
  • Academyddion eraill ym Met Caerdydd (Busnes, Rheoli, Chwaraeon, ac Iechyd)
  • Cysylltiadau â chydweithwyr yn Academi Fyd-eang ar gyfer y Gwyddorau Iechyd a Pherfformiad Dynol
  • Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Nod y grŵp ymchwil hwn yw: bod yn ffynhonnell o dystiolaeth ymchwil arloesol a chyfoes drwy ymgysylltu ag ysgolheigion mewn addysg, a disgyblaethau eraill, ledled y byd. Mae gan y Ganolfan gysylltiadau â chanolfannau rhagoriaeth yn fyd-eang, a’i phrif nod yw cynhyrchu gwybodaeth newydd, syniadau newydd, ar arferion newydd sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth mewn addysg yn benodol, ac arweinyddiaeth mewn disgyblaethau eraill, yn fwy cyffredinol. Mae gwaith y ganolfan ymchwil wedi’i seilio ar ymchwil ac yn cael ei lywio gan ymchwil.

Mae gan y Ganolfan bartneriaethau cryf yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei chysylltiadau â Chanolfan Hume yn y Swistir yn enghraifft o sut mae’r Ganolfan yn meithrin cysylltiadau â chanolfannau rhagoriaeth eraill, yn yr achos hwn, i ddatblygu gwybodaeth newydd ac i redeg rhaglenni sy’n rhoi pwyslais ar sicrhau cydraddoldeb mewn addysg.

Mae gan y Ganolfan gysylltiadau cryf yn genedlaethol drwy’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru. Mae cysylltiadau o’r fath yn sicrhau bod ei gwaith wedi ymwreiddio yn y realiti cyfoes sy’n wynebu arweinyddion ar bob lefel yn y system addysg yng Nghymru.

Mae gan y Ganolfan gysylltiadau cryf yn rhyngwladol wrth iddi wneud cysylltiadau ag ystod o ysgolheigion ag enw da’n rhyngwladol o Awstralia, Canada, Hong Kong, yr Alban, Singapore, a’r UDA. Mae presenoldeb y Ganolfan a’i chyrhaeddiad mewn cylchoedd ymchwil a pholisi, mewn nifer o wledydd, yn sicrhau bod ei gwaith ymchwil o’r safon uchaf ac â pherthnasedd cyfoes i bob arweinydd, boed mewn addysg neu mewn disgyblaethau eraill.

Mae gwaith ymchwil y Ganolfan yn rhyngddisgyblaethol ac â chysylltiad â mentrau Academïau Byd-eang Prifysgol Metropolitan Caerdydd: yr Academi Fyd-eang Iechyd a Gwyddorau Dynol presennol; a’r Academi Fyd-eang Pobl a Lleoedd Cydnerth newydd, sy’n cynnwys arbenigedd rhai sy’n gweithio yn y meysydd busnes, rheoli, chwaraeon, ac iechyd i lywio ei gwaith ymchwil a’i datblygiad.