Os ydych chi’n raddedig sy’n angerddol am eich pwnc arbenigol ac yn dymuno ysbrydoli pobl ifanc, dyma’r cwrs i chi! Mae’r radd TAR Addysg Uwchradd yn gwrs blwyddyn sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig. Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus, arloesol, sy'n myfyrio'n feirniadol ac sy'n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.
Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant proffesiynol i raddedigion sy’n dymuno addysgu’r meysydd pwnc canlynol:
Noder: Mae cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru wedi bod yn destun proses achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cyrsiau AGA TAR Cynradd a TAR Uwchradd fel rhan o
Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon.
Nodweddion Unigryw y Radd Hon
- 60 credyd ar lefel Meistr y gellir eu rhoi tuag at MA mewn Addysg.
- Profiadau yn y brifysgol a'r ysgol sy’n paratoi athrawon dan hyfforddiant i addysgu'r Cwricwlwm i Gymru ar draws ystod oedran lawn yr ysgol uwchradd.
- Caiff myfyrwyr eu paratoi ar gyfer cymhwyster TAR a gydnabyddir yn eang ledled Prydain a gweddill y byd.
- Arfer clinigol sy'n seiliedig ar ymchwil, lle mae cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio damcaniaeth i herio arfer ac arfer i herio damcaniaeth.
- Diwylliant dysgu cefnogol a chydweithredol.
- Diwrnodau hyfforddiant dan arweiniad ysgolion sydd wedi’u nodi fel prif ddarparwyr addysg a datblygiad proffesiynol.
- ‘Diwrnod dychwelyd’ i’r brifysgol a/neu ysgolion partner arweiniol bob wythnos i gyfnerthu a chydlynu dysgu.
- Cyfleoedd ar gyfer dysgu ar draws cyfnodau gyda’n rhaglen TAR Cynradd.
- Cyfleoedd cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolion i feithrin cryfderau a datblygu sgiliau arwain a dysgu proffesiynol, arloesol a chydweithredol.
- Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg yr holl athrawon dan hyfforddiant yn seiliedig ar eu profiadau a’u hanghenion unigol.
Partneriaeth Caerdydd Ar Gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae hyfforddi i addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle cyffrous i addysgu ym
Mhartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, sef yr unig ddarparwr hyfforddiant TAR yn y de-ddwyrain i gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’i hysgolion cysylltiedig, gan weithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Chyngor Dinas Caerdydd. Gyda’i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig, gydag addysg broffesiynol o ansawdd sy'n hynod ymarferol ac yn ddeallusol heriol.
Bydd graddedigion yn datblygu’r gwerthoedd a’r tueddiadau a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn, ac yn barod i ateb gofynion yr ystafell ddosbarth.
Gallwch ddysgu rhagor am Bartneriaeth Caerdydd
yma.
Cynnwys y Cwrs
Bydd cyfanswm o 120 diwrnod yn cael eu cyflawni yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn TAR Uwchradd. Bydd 15 o’r diwrnodau’n digwydd mewn ysgolion/cynghreiriau partner arweiniol (LPS/A) lle bydd modd i athrawon dan hyfforddiant ganolbwyntio ar agweddau allweddol o addysgeg a ddarperir gan ddarparwyr arweiniol ym maes addysg a datblygiad proffesiynol yn y sector cynradd. Bydd profiadau dysgu yn y gwaith a’r Brifysgol yn cael eu hintegreiddio’n agos, a bydd strwythur y rhaglen (diwrnod yr wythnos yn y brifysgol/LPS/A a phedwar diwrnod yr wythnos mewn arfer clinigol) yn hwyluso hyn.
Mae’r rhaglen TAR Uwchradd yn cynnwys tri modiwl:
Arfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 1 (30 credyd ar lefel 6)
Mae’r modiwl hwn yn yr ysgol yn bennaf, ac fe’i cynhelir yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn academaidd. Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu mewn tîm ac yn annibynnol am oddeutu 45% o’r amser. Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd i arsylwi, ymchwilio ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu. Mae’r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg.
Arfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 2 (30 credyd ar lefel 6)
Safbwyntiau mewn Dysgu ac Addysgu (60 credyd ar lefel 7)
Mae’r modiwl blwyddyn o hyd hwn yn cynnwys 8 prif agwedd:
- Astudiaethau Craidd
- Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg
- Meysydd Dysgu a Phrofiad
- Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
- Astudiaethau Pwnc
- Datblygiad iaith Gymraeg
- Lles, gan gynnwys Datblygiad Personol a Chynllunio Ymarfer Clinigol
- Cefnogaeth Ymchwil ac Ymholiad;
Bydd y modiwl mawr hwn yn ystyried yn benodol ystod o ddamcaniaethau, ymchwil ac adnoddau deallusol eraill, ynghyd â phrofiad uniongyrchol yr athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth am ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn cynnwys agweddau fel datblygiad dynol; y cwricwlwm a’r system addysg; anghenion dysgu ychwanegol; defnyddio data ac asesu; a rheoli a threfnu ystafelloedd dosbarth. Ynghyd â datblygu gwybodaeth am addysgeg a chwricwlwm y pwnc o’u dewis yn y modiwl hwn, bydd athrawon dan hyfforddiant yn archwilio cyfleoedd i weithio’n greadigol ac ar y cyd ar draws ffiniau pynciol. Mae o leiaf hanner y modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â Saesneg.
Datblygiad iaith Gymraeg
Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysgu uniongyrchol i ddatblygu eu Cymraeg.
Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn mynd i’r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg, a bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu cyfarwyddo ar ddulliau sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a’u dealltwriaeth o gefndiroedd ieithyddol-gymdeithasol dysgwyr.
Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr newydd yn cael eu haddysgu mewn grwpiau wedi’u ffrydio ar sail profiad a chymhwyster blaenorol, a byddant yn cael cyflwyniad cadarn i’r Gymraeg yn seiliedig ar eu lefel cymhwysedd. Bydd pawb yn datblygu lefel sylfaenol o Lafaredd o leiaf.
Ymrwymiad amser gofynnol
Rhaglen lawn amser yw hon, ac yn ystod elfen lleoliad y cwrs mae gofyn bod athrawon dan hyfforddiant yn yr ysgol ar gyfer y diwrnod ysgol arferol, ynghyd ag amser ychwanegol cyn ac ar ôl ysgol ar gyfer paratoi a chyfarfodydd. Mae gofyn ymrwymiad proffesiynol tebyg gan athrawon dan hyfforddiant pan fyddan nhw’n cyflawni’r elfen o’r cwrs sydd yn y brifysgol.
Dysgu ac Addysgu
Mae cyfleoedd addysgu a dysgu yn y brifysgol ac yn yr ysgol wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r naill a'r llall er mwyn sicrhau'r cynnydd gorau posib i’r myfyrwyr. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn hwyluso sgiliau datblygu beirniadol athrawon dan hyfforddiant, ac yn ymwneud ag integreiddio ymchwil ac ymholiad, arfer a damcaniaeth. Yn y Brifysgol ac yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant fel arfer yn profi dulliau dysgu dan arweiniad y tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan ddatblygu annibyniaeth ac ystyriaeth gynyddol wrth iddyn nhw wneud cynnydd drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd rheolaidd drwy gydol y cwrs i athrawon dan hyfforddiant adolygu eu cynnydd personol gyda’u tiwtoriaid a chymryd cyfrifoldeb dros gynllunio a chyflawni eu dysgu eu hunain.
Yn y brifysgol, gallai’r dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, oll wedi’u cefnogi gan ddefnydd o rith-amgylchedd dysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mewn llawer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a fydd yn cael eu defnyddio yw'r rhai sydd â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o effaith ar ddysgu athrawon dan hyfforddiant a chyrhaeddiad disgyblion e.e. micro-addysgu, arfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrthdro. Lle bo’n bosib, bydd gweithdai’n cael eu darparu mewn ystod o barthau traws-gyfnodol, trawsgwricwlaidd ac un pwnc, gan gynnig digon o gyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddysgu gan brofiadau amrywiol ei gilydd.
Wrth ddysgu yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu harwain gan ymagweddau addysgu tîm ac yn addysgu'n annibynnol, a bydd gofyn iddynt gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu annibynnol yn y dosbarth, neu ddosbarthiadau, dros gyfnod parhaus a sylweddol. Bydd Arfer Clinigol yn cynnwys amser cyfeiriedig ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad; addysgu annibynnol a thîm; a chynllunio, paratoi ac asesu. Yn ogystal, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael 15 diwrnod o hyfforddiant dan arweiniad Ysgolion/Cynghreiriau Partner Arweiniol. Yn ystod y diwrnodau hyn, bydd amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu yn cael eu defnyddio, gan gynnwys archwilio dogfennaeth ysgol, rowndiau dysgu, deialog fyfyriol wedi’i chymell gan fideo, teithiau cerdded a dysgu, sgyrsiau dysgu gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau.
Asesu
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau aseiniad ysgrifenedig ar lefel 7 sydd wedi’u gwasgaru dros y flwyddyn. Mae’r ddau aseiniad yn meithrin gallu’r athrawon dan hyfforddiant i fyfyrio’n feirniadol a gwerthuso addysgeg ac arfer, gan wella eu gallu i fodloni elfennau o Safonau’r Statws Athro Cymwysedig. Yn ogystal, mae’r aseiniadau wedi’u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil athrawon dan hyfforddiant, gan roi’r cyfle iddynt gysylltu damcaniaeth ag arfer mewn ffordd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, gwelliant ysgol, a’u harfer proffesiynol eu hunain. Bydd y Mentoriaid yn yr ysgol a’r Tiwtoriaid Prifysgol yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i gwblhau’r aseiniadau hyn. Bydd cydweithio gydag athrawon eraill dan hyfforddiant yn nodwedd hanfodol ar un o’r aseiniadau.
Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael ei asesu yn erbyn y Safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig, ac mae’n rhaid iddynt lwyddo ym mhob Safon i gael Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod yr arfer clinigol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael adborth ffurfiannol ysgrifenedig a llafar parhaus, ynghyd ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o’r cwrs, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu tystiolaeth sy’n dangos eu cyrhaeddiad a’u cyflawniad, a bydd yn cael ei roi i’r Tiwtoriaid Personol fel bod modd iddynt fonitro cynnydd yn rheolaidd. Caiff gwybodaeth bynciol yr athrawon dan hyfforddiant ei harchwilio ar ddechrau’r rhaglen, ac yna bydd y myfyriwr, gyda chymorth Tiwtoriaid Prifysgol, yn cynhyrchu cynllun gweithredu unigol er mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth bynciol. Wedi hynny, bydd ystod o fesurau’n cael eu defnyddio i sicrhau yr eir i’r afael â phob bwlch a nodir, gan gynnwys gweithdai gwybodaeth bynciol, ymchwil bynciol gyda mentoriaid yn yr ysgol, neu hunan-astudio cyfeiriedig.
O ystyried pa mor ganolog yw llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yng nghwricwlwm Cymru, bydd pob athro dan hyfforddiant hefyd yn cwblhau archwiliadau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar ddechrau a diwedd y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn er mwyn helpu i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu, ac i gyflawni astudiaeth er mwyn llenwi’r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau. Bydd myfyrwyr dan hyfforddiant a allai elwa ar gymorth pellach yn cael sesiynau cymorth ychwanegol.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC), ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ar lefel uwchradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, Prydain a thramor.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddarparu ystod eang o brofiadau a fydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i’n graddedigion i’w paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith. Mae Ysgolion Partner Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi’u nodi fel darparwyr addysg a datblygiad proffesiynol arweiniol yng Nghymru, ac felly mae’r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac yn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai’r datblygiad gyrfaol o athro dan hyfforddiant i Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan
Darganfod Addysgu.
Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i’n dechrau addysgu?
Mae gwybodaeth ar gael o wefan
yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.
Datblygiad Proffesiynol:
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig mantais tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy roi 60 credyd ar lefel Meistr. Gellir cario’r credydau hyn ymlaen i gymhwyster Meistr llawn drwy astudiaeth lawn amser neu ran amser.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
MA mewn Addysg (gyda Llwybrau).
Gofynion Mynediad
Meini Prawf Hanfodol
Bydd gofyn i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS, drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Yna bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen berthnasol, a bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar sail y wybodaeth hon.
Dylai pob ymgeisydd feddu ar y canlynol:
- cefndir addysg blaenorol sy’n darparu sylfaen angenrheidiol i weithio fel athro yn y cyfnod perthnasol a’r arbenigedd pwnc;
- y ddawn, y gallu a’r gwytnwch i fodloni canlyniadau gofynnol Statws Athro Cymwysedig erbyn diwedd eu rhaglen AGA;
- y cymwysterau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr ardderchog;
- sgiliau darllen effeithiol a sgiliau cyfathrebu clir a chywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg a/neu Saesneg.
- cefndir troseddol clir, heb hanes a allai eu hatal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc sy’n agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg, ac ni ddylent fod wedi’u hatal neu eu heithrio’n flaenorol rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (mae gofyn i athrawon dan hyfforddiant drefnu Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS));
- sgiliau gweithredol personol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol y mae modd eu cymhwyso i gyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol, i’w ddangos ar y cam cyfweld;
- y gallu i ddangos eu haddasrwydd i ddod yn athrawon ardderchog;
- y gallu i fodloni gofynion
Safonau Iechyd Addys (2004)*, Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau eu hiechyd a’u gallu corfforol i gyflawni cyfrifoldebau athro.
Gofynion TGAU:
Gradd TGAU B/gradd 5 neu uwch mewn Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf), Llenyddiaeth Gymraeg, Saesneg Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg, a Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd (neu gyfwerth safonol).
Ar gyfer Addysg Gorfforol yn unig, mae’n rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â TGAU Gwyddoniaeth (neu gyfwerth safonol) gradd C/gradd 4 neu uwch.
Lle cyflawnir gradd sydd gyfwerth â gradd B/gradd 5 un ai mewn Llenyddiaeth Gymraeg neu Lenyddiaeth Saesneg, mae’n rhaid cyflawni o leiaf gradd C/gradd 4 yn yr arholiad cyfatebol TGAU mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael gradd D neu uwch mewn TGAU (neu gyfwerth) Saesneg Iaith a Mathemateg wrth wneud cais yn cael eu hystyried am gyfweliad (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr).
Bydd hefyd angen i fyfyrwyr sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg fod â TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Ailsefyll TGAU:
Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi gwneud trefniadau i ailsefyll y TGAU er mwyn cael gradd B a dangos hyn ar eu cais Hyfforddiant Athrawon UCAS. Os yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd yr ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn amodol ar gael gradd B.
Cyfwerthoedd TGAU:
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig
arholiad cyfwerth mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg er mwyn bodloni gofynion gradd B.
Cynigir arholiad cyfwerth ar gyfer y rhai â gradd D mewn Gwyddoniaeth. Rydyn ni hefyd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer gofynion TGAU, sy’n cynnwys arholiadau a gyflawnwyd gydag Equivalency Testing, Prifysgol De Cymru, y National Extension College ac
A Star Equivalency. O Brifysgol Aberystwyth, rydyn ni hefyd yn derbyn y modiwl cyfwerthedd Mathemateg
(Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) ) a’r modiwl cyfwerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).
Gwiriwch
ofynion Met Caerdydd ar gyfwerthoedd gradd B TGAU (neu edrychwch ar y ddogfen yma yn
Cymraeg).
Gofynion Gradd Gychwynnol:
Er y disgwylir y bydd cynnwys eich gradd yn cynnwys cyfran sylweddol o'r pwnc rydych chi’n dymuno hyfforddi i’w addysgu, rydyn ni’n ffafrio ymgeiswyr sydd â graddau mewn pwnc sydd â chysylltiad agos. Bydd eich cais a’ch cyfweliad (pe baech chi’n cael eich dewis) yn cael eu hasesu ar sail eich potensial i gyflawni lefel SAC o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy’n gysylltiedig â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau pynciol, a’r graddau y gall y rhain fod yn sylfaen llwyddiannus i’ch arfer fel athro pwnc penodol, yn cynnwys addysgu Safon Uwch a chwricwla ôl-16 arall.
Pwnc |
Lleiafswm dosbarthiad gradd ar gyfer mynediad (Graddau Anrhydedd) |
Addysg Gorfforol1 | 2:1 |
Celf a Dylunio Technoleg Dylunio Drama Saesneg Daearyddiaeth Hanes TGCh a Chyfrifiadureg Mathemateg2 Ieithoedd Tramor Modern33 Cerddoriaeth Gwyddoniaeth: Bioleg Gwyddoniaeth: Cemeg Gwyddoniaeth: Ffiseg Addysg Grefyddol Cymraeg | 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 2:2 |
1 Gofynnir i ymgeiswyr TAR Addysg Gorfforol ddangos tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn adran Chwaraeon ysgol uwchradd, ond deallwn efallai nad yw hyn yn bosib oherwydd y sefyllfa bresennol. Gofynnwn i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth, os oes modd iddynt wneud hynny, yn eu cais UCAS a’u datganiad personol.
2 Bydd gofyn i ymgeiswyr TAR Mathemateg fod â Safon Uwch mewn Mathemateg ynghyd â gradd berthnasol hefyd.
3 Mae llefydd cyfyngedig ar gyfer Sbaeneg ar ei phen ei hunan a Ffrangeg/Eidaleg ar gael.
Mae’n bosib y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer pynciau Uwchradd penodol gan y rhai sydd wedi cael gradd Anrhydedd is na 2:2 os cafwyd cymwysterau uwch a/neu brofiad perthnasol e.e. Meistr neu PhD.
Gwiriad Cofnodion Troseddol/y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:
Mae mynediad hefyd yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael drwy www.cardiffmet.ac.uk/dbs.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen lleiafswm sgôr gyffredinol IELTS o 7.5, heb ddim un is-sgôr is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth) er mwyn cael eu derbyn i’r rhaglen. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn drwy
UCAS.
Yn anffodus, oherwydd niferoedd cyfyngedig, mae'n bosibl na fydd ymgeiswyr sy'n dewis y brifysgol fel eu dewis yswiriant yn sicr o gael lle.
Codau Ymgeisio UCAS:
Mae’r cwrs hwn yn cynnig y llwybrau astudio canlynol, a dylid defnyddio’r cod ymgeisio TAR cysylltiedig ar eich ffurflen gais UCAS:
Celf a Dylunio | W1X1 | W1XX |
Bioleg gyda Gwyddoniaeth | C1X1 | C1XX |
Cemeg gyda Gwyddoniaeth | F1X1 | F1XX |
Dylunio a Thechnoleg | W9X1 | W92X |
Drama | W4X1 | W4XX |
Saesneg | Q3X1 | Q3XX |
Daearyddiaeth | 3CLN | 3CLP |
Hanes | V1X1 | V1XX |
TGCh a Chyfrifiadureg | G5X1 | IX1X |
Mathemateg | G1X1 | G11X |
Ieithoedd Tramor Modern | R9X1 | R9XX |
Cerddoriaeth | W3X1 | W3XX |
Addysg Gorfforol | X9C6 | C6XX |
Ffiseg gyda Gwyddoniaeth | F3X1 | F31X |
Addysg Grefyddol | 3CLQ | 3CLR |
Cymraeg | Amherthnasol | Q5X1 |
Gwybodaeth Am Y Cyfweliad
Cynhelir cyfweliadau ar-lein drwy
MS Teams. ar hyn o bryd. Byddwch chi’n cael eich hysbysu am ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Yna, byddwch chi’n cael gwahoddiad drwy MS Teams, gydag amser penodol eich cyfweliad, gan dîm y rhaglen. Bydd y cyfweliad yn para oddeutu
30 munud.
Gwybodaeth Ychwanegol am y Cyfweliad ar gyfer TAR Uwchradd Addysg Gorfforol
Gofynnir i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol, a rhoi gwybod i’r Tîm Derbyniadau cyn gynted â phosib, os ydynt yn dymuno cael cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Profion - Llythrennedd, Rhifedd A Chymwhysedd Digidol
Bydd y Profion sgiliau a gynhelir fel rhan o’ch diwrnod cyfweliad fel arfer bellach yn cael eu cynnal ar ddechrau eich cwrs fel archwiliad o ble mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi. Nid yw’r profion hyn yn ffurfio rhan o’r meini prawf dethol bellach, ond argymhellwn eich bod yn cyflawni’r gwaith adolygu priodol o’r wybodaeth yn y dolenni a ddarperir isod.
Profion Llythrennedd:
Bydd
dau brawf
1. Bydd y prawf cyntaf yn canolbwyntio ar sillafu, atalnodi, gramadeg a deall. Bydd y prawf hwn yn cael ei gwblhau’n electronig ar ddiwrnod y cyfweliad, ond mae copi enghreifftiol i’w argraffu o’r papur ar gael yma.
Bydd y prawf hwn yn para 30 munud.
Paratoi:
2. Bydd yr ail brawf yn canolbwyntio ar sgiliau darllen ac ysgrifennu. Bydd yn canolbwyntio ar erthygl cyfnodolion a fydd yn cael ei hanfon atoch cyn y cyfweliad.
Bydd y prawf hwn yn para 30 munud.
Paratoi:
- Darllenwch yr erthygl yn ofalus nifer o weithiau.
- Chwiliwch am unrhyw eiriau anghyfarwydd
- Ceisiwch ddeall ystyr yr erthygl
- Ystyriwch pa negeseuon mae’r awdur yn ceisio eu cyfleu
- Meddyliwch a ydych chi’n cytuno gyda’r awdur
Yn y cyfweliad, byddwch chi’n cael copi o’r un erthygl a dau gwestiwn i’w hateb. Bydd disgwyl i chi ysgrifennu tua 300 gair.
Bydd y dasg yn asesu’ch gallu i wneud y canlynol:
- dod o hyd i wybodaeth a chyfeirio’n briodol at y deunydd darllen
- dangos dealltwriaeth glir a dehongliad o’r deunydd darllen
- cyfleu eich syniadau’n glir mewn arddull briodol
- cyflwyno ysgrifennu cydlynus a strwythuredig
- defnyddio sillafu, atalnodi a gramadeg â lefel dda o gywirdeb
Prawf Rhifedd:
Prawf Cymhwysedd Digidol:
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau tasg 30 munud wedi’i chynllunio i ddangos tystiolaeth o’u sgiliau digidol personol ar lefel sylfaenol. Diben hyn yw fod angen i bob athro yng Nghymru allu cyfnerthu a datblygu sgiliau digidol y disgyblion maen nhw’n eu haddysgu, ynghyd â defnyddio technoleg ddigidol i gynnal eu dyletswyddau proffesiynol eu hunain.
Bydd y prawf yn cynnwys defnyddio sgiliau sylfaenol Microsoft Office, gan gynnwys addasu cynnwys yn ymwneud ag addysg yn Word, Excel a PowerPoint.
Cynghorir ymgeiswyr i sicrhau bod ganddyn nhw’r gallu sylfaenol sydd ei angen er mwyn, er enghraifft, newid maint ffont, rhoi themâu ar gyflwyniadau PowerPoint, a defnyddio fformiwlâu syml yn Excel fel SUM ac AVERAGE.
Gwybodaeth ychwanegol i ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg:
Bydd ymgeiswyr sy’n gwneud cais i hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg yn cael eu rhoi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod y weithdrefn gyfweld, bydd eich gallu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei asesu.
Profion Llythrennedd
Bydd pob ymgeisydd yn cwblhau’r prawf llythrennedd cyntaf yn Saesneg (gweler uchod am ragor o fanylion), a bydd ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg hefyd yn cwblhau prawf sgiliau llythrennedd yn Gymraeg (15 munud), sy’n gofyn i ymgeiswyr ddangos eu dealltwriaeth o ramadeg Cymraeg. Wrth baratoi ar gyfer y prawf hwn, argymhellwn eich bod yn edrych ar y
papur enghreifftiol a ddarperir yma ac yn cyfeirio at y testun defnyddiol canlynol. Breese, N., Clement, B. (2011) Seren Iaith. Ceredigion Atebol Cyfyngedig. ISBN 978-1-907004-85-8 (£5.99). Yr adrannau canlynol fydd y mwyaf defnyddiol: Chwilio'r gwallau 1 tt.6-105 a tt.166-197.
Bydd pob ymgeisydd cyfrwng Cymraeg yn cwblhau ail brawf llythrennedd fel uchod (darperir y fersiynau Cymraeg a Saesneg), a bydd gofyn iddynt ddangos eu gallu i ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg yn y prawf hwn.
Prawf Rhifedd
Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg y papur cwestiwn yn cael eu darparu. Gall ymgeiswyr ddewis ateb yn yr iaith o’u dewis.
Cwestiynau Cyffredin
Cymwysterau
Does gen i ddim TGAU gradd B/gradd 5 neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg – alla i wneud cais am y cwrs TAR?
Bydd ymgeiswyr â gradd D/gradd 4 neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd (neu gyfwerth) yn cael eu hystyried am gyfweliad. Serch hynny, bydd angen i’r ymgeisydd fod wedi gwneud trefniadau i ailsefyll y TGAU (neu gyfwerth derbyniol) er mwyn cael y radd B, a nodi hynny yn eu cais UCAS. Os byddan nhw’n llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn amodol ar gael gradd B.
A yw Met Caerdydd yn cynnig arholiad cyfwerthedd mewnol a gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg?
Mae Met Caerdydd yn cynnig
arholiad cyfwerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae’r profion wedi’u cynllunio i fodloni gofynion gradd B TGAU ar gyfer mynediad i raglenni AGA Met Caerdydd yn unig. Er mwyn bod yn gymwys i sefyll yr arholiad, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael cynnig ac wedi ateb, neu’n bwriadu ateb, ‘Firm’. Nid oes ffi am sefyll yr arholiadau cyfwerthedd, a chaniateir ymgeiswyr i ailsefyll pob arholiad unwaith yn ystod y flwyddyn maen nhw’n ymgeisio.
A yw fy nghymwysterau’n dderbyniol?
Pennir cyfwerthedd cymwysterau dramor gan
UK NARIC.
Os ydych chi’n fyfyriwr Rhyngwladol, dylech gysylltu â UK NARIC. Os ydych chi’n ymgeisydd Cartref/Undeb Ewropeaidd, cysylltwch â’n Tîm Derbyniadau a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach ar eich cymwysterau.
Ymgeisio
Ydych chi’n cynnal Diwrnodau Agored?
Rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth am TAR drwy’r flwyddyn. Ewch i’n tudalen Diwrnodau Agored a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.
Hefyd, er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb, rydyn ni’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r TAR ar y wefan, ac mae bob amser croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio neu e-bostio.
Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio?
Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau: Bydd rhaglenni’n cau pan fydd y cwrs yn llawn. Mae cystadleuaeth uchel iawn ar gyfer llefydd ar y cwrs TAR Cynradd ac Uwchradd, felly argymhellwn eich bod yn ymgeisio’n gynnar yn y flwyddyn academaidd er mwyn osgoi cael eich siomi.
Ddylwn i wneud cais yn uniongyrchol i Met Caerdydd?
Na – mae’n rhaid gwneud pob cais ar gyfer TAR Cynradd ac Uwchradd drwy UCAS. Mae gwybodaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ymgeisio ac am wneud cais ar gael drwy: www.ucas.com.
A fydd rhaid i fi gwblhau Gwiriad Cofnodion Troseddol?
Mae mynediad yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael www.cardiffmet.ac.uk/dbs.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n ymgeisydd cyfrwng Cymraeg?
Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg wneud cais ar gyfer y llwybr perthnasol drwy UCAS. Mae’r codau ymgeisio wedi’u rhestru uchod yn yr adran Sut i Wneud Cais. Byddwch yn cael eich rhoi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y weithdrefn gyfweld, bydd eich gallu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei asesu.
Cyfweliadau
Sut bydda i’n cael gwybodaeth am y cyfweliad?
Mae modd gweld dyddiad eich cyfweliad drwy system Hwb UCAS. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei hanfon drwy e-bost gan Met Caerdydd.
Pa mor aml cynhelir cyfweliadau? Oes dyddiadau penodol?
Does dim dyddiadau penodol. Serch hynny, byddwch chi’n cael digon o rybudd cyn eich cyfweliad.
Cyllid
Faint mae’r cwrs TAR yn ei gostio?
Ewch i’n
tudalen Ffioedd a Chyllid i gael rhagor o fanylion.
Fydda i’n cael bwrsariaeth?
Mae’n bosib bod cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd yn ddibynnol ar ddosbarthiad eich gradd israddedig a’ch llwybr. Ewch i
wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion.
Oes cyllid arall ar gael?
Mae myfyrwyr TAR sy’n byw yng Nghymru sy’n dewis aros ac astudio yng Nghymru hefyd yn gymwys i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Ffioedd Dysgu. I gael rhagor o wybodaeth am y grant ac i gael mynediad at y ffurflen PN1 berthnasol
ewch i:
Gwybodaeth am y Cwrs
Pryd mae’r cwrs TAR yn dechrau ac yn gorffen?
Ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23, dyddiad cychwyn y cwrs TAR yw Medi 12fed 2022. Daw’r cwrs i ben ar 26ain Mehefin 2023.
Pryd bydda i’n clywed am leoliadau yn yr ysgol? Ble byddan nhw? Alla i drefnu lleoliad fy hunan?
Cyflawnir y gydran lleoliad mewn ysgolion yn yr ystod o ysgolion 'Partneriaeth Caerdydd', a bydd lleoliadau yn bennaf yn y rhanbarthau sy’n gysylltiedig â Chonsortiwm Canolbarth y De a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Chewch chi ddim trefnu eich lleoliad eich hun.
Alla i ohirio fy lle?
Yn anffodus, does dim modd i ni ganiatáu gohirio ar ein rhaglenni hyfforddi athrawon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael,
Ewch i
Mae’n bosib bod cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd yn ddibynnol ar ddosbarthiad eich gradd israddedig. Ewch i
wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Er mwyn cynyddu profiad myfyrwyr, bydd diwrnod gwaith maes yn cael ei drefnu fel rhan o raglen TAR Daearyddiaeth ym mis Mawrth 2021. Cost ychwanegol o £25.
Cysylltu  Ni