Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA
Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (EAS), a Chyngor Dinas Caerdydd.
Gyda'i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithredu er mwyn sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy'n drylwyr yn ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol.