Mae creu, perfformio ac ymateb i ddrama a theatr yn ein helpu i ddeall a gwneud synnwyr o’r byd. Mewn gwersi drama yng nghyd-destun ysgolion uwchradd, mae plant a phobl ifanc yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad fel perfformwyr, dylunwyr, beirniaid ac aelodau o’r gynulleidfa. Mae’n bwnc cyfoethog, heriol ac atyniadol sy’n cynnig ffyrdd arbennig o weithio a dysgu. Mae disgyblion yn cydweithio, yn meddwl yn feirniadol, yn creu ac yn rhannu profiadau theatrig sydd, yn eu tro, yn datblygu sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy sy’n hanfodol ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.
Fel athro drama, byddwch yn rhannu eich brwdfrydedd at ddrama a theatr gyda phobl ifanc ac yn meithrin eu doniau creadigol fel y gallant hwythau hefyd elwa ar y buddion aruthrol sydd gan y pwnc i’w cynnig. Byddwch hefyd yn gweithio gyda disgyblion mewn cyd-destunau allgyrsiol, gan eu gwylio’n ffynnu wrth iddynt gyfrannu at a pherfformio mewn cynyrchiadau ysgol gyfan, a gwylio eu hymatebion i brofiadau theatrig bythgofiadwy.