Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn amlinellu'r telerau ac amodau rhwng y Brifysgol ac Ymgeiswyr i'n rhaglenni astudio. Ffurfir contract rhwymol rhwng y Brifysgol a'r Ymgeisydd pan fydd yr Ymgeisydd yn derbyn cynnig lle yn y brifysgol, felly mae'n bwysig eich bod chi'n darllen y wybodaeth hon gan ei bod yn sail i'r berthynas rhyngoch chi â Met Caerdydd.
Rydym hefyd yn argymell bod ymgeiswyr yn gwneud eu hunain yn ymwybodol o'r wybodaeth yn y Llawlyfr Myfyrwyr, a chynnwys y cwrs a geir ar y Tudalennau Cwrs ac yn eu Manyleb Rhaglen.
Nid ydym yn disgwyl i chi wybod yr holl wybodaeth yn fanwl, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol ohoni a'i pherthnasedd i chi. Efallai y bydd gennych hefyd drefniadau cytundebol eraill gyda sefydliadau eraill megis gyda darparwr llety neu'r cwmni benthyciadau myfyrwyr, felly byddem yn argymell eich bod hefyd yn deall eu hamodau.
Ein nod yw gwneud y wybodaeth hon yn hygyrch ac yn hawdd ei deall felly os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau ynghylch unrhyw agwedd, cysylltwch â Lisa Bowen, Pennaeth Derbyniadau ar 029 2041 6014 neu e-bostiwch LBowen@cardiffmet.ac. uk.
I lawrlwytho fersiwn PDF o'r Telerau ac Amodau cliciwch yma. I weld y ddogfen hon yn Gymraeg, cliciwch yma.
Derbyniadau
Bydd eich lle gyda'r Brifysgol yn amodol arnoch yn cyflawni'r broses ymgeisio ac yn cofrestru ar ddechrau eich rhaglen. Bydd eich lle yn ddibynnol ar y telerau ac amodau a nodir yn eich llythyr cynnig, y wybodaeth a gynhwysir ym mhrosbectws a/neu wefan berthnasol y Brifysgol, a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol (sydd ar gael ar y wefan), y cyfeirir atynt yn y llawlyfr myfyrwyr a’r siarter myfyrwyr, a anfonir atoch cyn dechrau'r rhaglen.
Darperir mynediad i'r dogfennau a'r wybodaeth hon yn ystod y prosesau derbyn a chofrestru.
Gallwch hefyd gael golwg ar y Polisi Derbyn drwy glicio yma.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymgyfarwyddo â'r dogfennau hyn a'u gofynion perthnasol, oherwydd gallai methu â chydymffurfio â rheoliadau arwain at i'r Brifysgol ddileu eich cynnig a/neu eich cofrestriad.
Rhaglenni Newydd - Yn amodol ar Ddilysu
Rhaid i bob rhaglen newydd yn y Brifysgol gael ei dilysu, gyda’r diben i sicrhau bod y rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â Chenhadaeth y Brifysgol a'i chynnwys yn adlewyrchu lefelau priodol o safon ac ansawdd academaidd.
Os yw'r rhaglen rydych wedi gwneud cais amdani yn destun Dilysu, a'ch bod yn cael cynnig lle, cewch eich hysbysu o'r dyddiad dilysu gyda'ch cynnig. Os gwneir newidiadau i'r rhaglen, cewch eich hysbysu o hynny a bydd gwybodaeth am y rhaglen yn cael ei diweddaru ar ein gwefan.
Os nad ydych yn hapus â'r newidiadau a wnaed ac yn dymuno tynnu'ch dewis yn ôl, bydd y Brifysgol yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i raglen arall.
Cynigion
Bydd unrhyw gynnig lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddibynnol ar i chi fodloni amodau a fydd yn hysbys i chi. Gall yr amodau hyn gynnwys gofynion i gael neu ddarparu tystiolaeth o gymwysterau penodol, a bodloni'r holl ofynion cyfreithiol ac eraill i astudio ar y rhaglen o'ch dewis. Gallai'r gofynion hyn gynnwys gwiriadau iechyd, gwiriadau cofnodion troseddol a darparu manylion mewnfudo.
Gall y cynnig fod yn amodol neu'n ddiamod a bydd hynny wedi'i nodi yn eich llythyr cynnig. Byddwch hefyd yn cael manyleb/au rhaglen ar gyfer y cyrsiau y cynigiwyd lle i chi arnynt. Gwneir cynigion drwy UCAS ar gyfer ymgeiswyr israddedig amser llawn, UTT ar gyfer ymgeiswyr hyfforddiant athrawon TAR llawn amser, a thrwy Hunanwasanaeth a/neu drwy lythyr ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser, ôl-raddedig ac ymchwil.
Disgwylir i ymgeiswyr ymateb i unrhyw gynigion a roddir. Yn achos ymgeiswyr israddedig bydd yr opsiwn yn gadarn (dewis cyntaf), yswiriant (ail ddewis) neu'n cael ei wrthod. Yn achos ymgeiswyr hyfforddiant athrawon TAR, bydd yr opsiwn yn gadarn neu'n cael ei wrthod ac i'r holl ymgeiswyr eraill sy'n gwneud cais trwy system Hunanwasanaeth Met Caerdydd, mae'r opsiynau'n cael eu derbyn neu'n cael eu gwrthod.
Ymatebion i Gynigion
Wrth ateb Cadarn i'r cynnig a roddir, bydd y Brifysgol yn cymryd hyn fel cydnabyddiaeth o dderbyn ein Telerau ac Amodau, felly gwnewch yn siŵr bod y rhain yn cael eu darllen a'u deall.
Trwy ateb Cadarn, rydych hefyd yn cytuno y gall y Brifysgol ddal a defnyddio'r wybodaeth a ddarperir at ddibenion derbyniadau, derbyniadau a'ch cofnod myfyriwr. Cyfeiriwch at yr adran ar Wybodaeth Bersonol a Diogelu Data sy'n darparu gwybodaeth bellach mewn perthynas â defnyddio gwybodaeth bersonol a gyflwynir.
Mae gan ymgeiswyr gyfnod o 14 diwrnod ar ôl ateb i newid eu meddwl, sy'n golygu y gallwch chi benderfynu gwrthod eich cynnig ar ôl i chi dderbyn yn gadarn yn wreiddiol. Mae gan Met Caerdydd Ffurflen Ganslo y gellir ei chwblhau trwy glicio yma. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Telerau ac Amodau, cysylltwch hefyd â Derbyniadau ar askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Bydd ymgeiswyr israddedig sy'n gwneud Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddewis Yswiriant, ac sydd naill ai'n newid neu'n cael eu huwchraddio i Cadarn, yn cael cyfnod o 14 diwrnod i newid eu meddwl o ddyddiad y newid. Enghraifft o hyn fyddai pe bai'r dewis Cadarn yn gwneud y cais yn aflwyddiannus ar ôl derbyn canlyniadau arholiadau pan fydd y dewis Yswiriant yn dal i fod yn weithredol.
Bodloni Amodau Cynnig
Os rhoddwyd cynnig i chi sy'n amodol ar gyflawni cymwysterau neu ofynion eraill, bydd angen i chi gyflawni'r amodau hynny i dderbyn cynnig diamod. Os na fyddwch yn cwrdd â thelerau eich cynnig efallai y byddwn yn cynnig rhaglen arall i chi y gallwch ei derbyn neu ei gwrthod. Os dewiswch dderbyn y newid penderfyniad, bydd gennych 14 diwrnod ar ôl i chi ateb yn gadarnhaol i newid eich meddwl, a chael eich rhyddhau i Glirio i gael eich ystyried yn rhywle arall neu ei dynnu'n ôl.
Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig yn ôl, neu i ohirio'ch cais i'r flwyddyn nesaf o fynediad, os nad ydych wedi cyflawni amodau eich cynnig cyn 31 Awst cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Oherwydd niferoedd cyfyngedig, mae angen cwrdd ag amodau cynnig ar gyfer rhaglenni a ariennir gan y GIG 5 wythnos cyn dechrau'r flwyddyn academaidd, a chaiff ymgeiswyr eu hysbysu o'r union ddyddiad yn eu llythyrau cynnig.
Sylwch y bydd ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig, gan gynnwys ymchwil, ar wahân i'r rhai sy'n cael eu hariannu gan y GIG, sydd â dyddiadau cychwyn gwahanol, wedi'u heithrio o'r dyddiad cau hwn. Yn achos y rhaglenni yma, rhaid i ymgeiswyr fodloni eu hamodau bythefnos cyn dechrau'r rhaglen.
Newidiadau i Gynnig
Ar ôl i gynnig lle gael ei roi, ni fydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau oni bai bod ffactorau allanol yn mynnu hyn, er enghraifft, os cyflwynir gofyniad diwydiant. Mewn achos annhebygol y bydd angen newid cynnig, cysylltir ag ymgeiswyr i esbonio'r sefyllfa a chytuno ar newidiadau.
Cynigion Clirio a Hwyr
Mae canlyniadau ymgeiswyr sy'n cael cynnig lle drwy Clirio wedi derbyn eu canlyniadau felly bydd y cynigion sy'n cael eu prosesu yn Gadarn Ddiamod. Unwaith y bydd penderfyniad clirio wedi'i brosesu, bydd gan ymgeiswyr 14 diwrnod i newid eu meddwl a naill ai gael eu rhyddhau i Glirio neu gael eu tynnu'n ôl.
Yn achos ymgeiswyr a dderbynnir yn hwyr ar raglen h.y. Medi ymlaen, ni fydd y cyfnod canslo cytundebol 14 diwrnod yn berthnasol wrth wneud cais. Fodd bynnag, mae gan y Brifysgol bolisi lle bydd myfyrwyr, ar ôl cofrestru yn y Brifysgol, yn cael 14 diwrnod i newid eu meddwl a chanslo eu lle, heb unrhyw gosb ariannol.
Newidiadau i'r Rhaglen
Yn ystod y Broses Ymgeisio:
Mae'r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr ar raglenni a gynigir mor gywir a chyfredol â phosibl. Fodd bynnag, caiff rhaglenni astudio eu hadolygu'n barhaus ac mae'n ddigon posibl y bydd rhai newidiadau rhwng yr amser cyhoeddi a'r amser y bydd y myfyriwr yn cychwyn y rhaglen. Mae rhedeg rhaglenni Prifysgol hefyd yn dibynnu ar niferoedd, yn yr ystyr bod angen i nifer penodol o fyfyrwyr ymgymryd â rhaglen er mwyn iddi fod yn hyfyw a sicrhau nad oes cyfaddawdu ar brofiad y myfyriwr. Os yw'n berthnasol, nodir isafswm ar dudalennau gwybodaeth y cwrs ar-lein.
Os ydym o'r farn bod gweithredu o'r fath yn rhesymol angenrheidiol, rydym yn cadw'r hawl i wneud amrywiadau i ofynion mynediad ar ddechrau pob cylch derbyn, i amrywio cynnwys neu ddulliau cyflwyno rhaglenni, i ddod â rhaglenni i ben ac i uno neu gyfuno rhaglenni.
Pan wneir newidiadau neu pan rhagwneir penderfyniad i ddod a rhaglen i ben, hysbysir ymgeiswyr o hyn cyn gynted â phosibl, fel bod cyfle i ymgeiswyr ystyried rhaglen arall yn y Brifysgol neu rywle arall. Os penderfynir dod â rhaglen i ben ar ôl i ymgeiswyr gael cynnig lle, bydd yr Uned Dderbyniadau yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewisiadau perthnasol eraill a darparu cymorth i ymgeiswyr ddod o hyd i'r dewis arall hwnnw.
O'r Cynnig a Thu Hwnt:
Mae'r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gyflawni'r rhaglenni astudio a chyfleoedd ymchwil a gwasanaethau a chyfleusterau eraill yn y ffordd a ddisgrifir ar y wefan hon. Rhoddir gofal a chefnogaeth resymol i fyfyrwyr gyda'r dysgu'r addysgu a gwasanaethau a chyfleusterau eraill a ddisgrifir.
Fodd bynnag, bydd gan y Brifysgol hawl rhesymol o ystyried ei bod yn angenrheidiol (gan gynnwys er mwyn rheoli ei hadnoddau a dilyn ei pholisi o welliant parhaus yn briodol):
- I newid amserlen, lleoliad, nifer y dosbarthiadau a'r dull o gyflwyno rhaglenni astudio, ar yr amod bod newidiadau o'r fath yn rhesymol.
- Oherwydd natur alwedigaethol a diwydiant-ganolog ein rhaglenni, mae angen i ni wneud newidiadau i gynnwys a maes llafur y rhaglen astudio (gan gynnwys modiwlau opsiwn lleoliadau) fel bod ein rhaglenni'n diwallu anghenion y gweithle. Hefyd oherwydd hyn, gellir tynnu modiwlau dewisol yn ôl a chyflwyno eraill i gynnal gwerth galwedigaethol (e.e. ei gadw'n real).
- Atal neu ddileu rhaglenni astudio (er enghraifft, oherwydd bod aelod allweddol o staff yn sâl neu'n gadael y Brifysgol). I gael mwy o wybodaeth am raglenni sydd wedi'u hatal neu wedi'u diddymu, cyfeiriwch at y Llawlyfr Academaidd.
- Gwneud newidiadau i'w statudau, ordinhad, rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau y mae'r Brifysgol yn eu hystyried yn rhesymol angenrheidiol (er enghraifft, yng ngoleuni newidiadau yn y gyfraith neu ofynion rheoleiddwyr y Brifysgol). Bydd newidiadau o'r fath, os ydynt yn sylweddol, fel arfer yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ganlynol, ac os ydynt yn sylfaenol i'r rhaglen, byddant fel rheol yn dod i rym yn achos y garfan nesaf o fyfyrwyr.
- I beidio â darparu rhaglenni astudio neu eu cyfuno ag eraill os yw'r Brifysgol yn ystyried bod hyn yn rhesymol angenrheidiol (er enghraifft, oherwydd bod nifer rhy fach o fyfyrwyr yn gwneud cais i ymuno â'r rhaglen er mwyn iddi fod yn hyfyw)
- Ar yr adegau prin hynny pan fydd y Brifysgol yn cau neu ddim yn darparu rhaglen astudio neu'n ei newid yn sylweddol cyn iddi ddechrau:
- bydd y Brifysgol yn hysbysu unigolion perthnasol cyn gynted â phosibl.
- bydd hawl gan unigolyn i dynnu ei gais yn ôl trwy ddatgan yn ysgrifenedig wrth y Brifysgol o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl cael gwybod am y newid. · bydd y Brifysgol yn ad-dalu ffioedd dysgu a’r blaendal a dalwyd.
Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth dysgu a gwasanaethau a chyfleusterau eraill y mae'n eu hystyried yn briodol, ond gall amrywio'r hyn y mae'n ei ddarparu o bryd i'w gilydd (er enghraifft, gall y Brifysgol ystyried ei bod yn ddymunol newid y ffordd y mae'n darparu cymorth llyfrgell neu TG).
Ar ôl i ymgeisydd dderbyn cynnig o le yn y Brifysgol, daw'r berthynas rhwng yr ymgeisydd a'r Brifysgol yn gytundeb ac mae'r ymgeisydd yn derbyn telerau ac amodau'r Brifysgol. Wrth ymrwymo i'r cytundeb hwnnw, nid yw'r myfyriwr na'r Brifysgol yn bwriadu y bydd modd gorfodi unrhyw un o delerau'r cytundeb yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 gan unrhyw berson nad yw'n rhan ohono.
Newidiadau Tra’n Astudio ym Met Caerdydd
Mae Met Caerdydd yn ymgymryd â Phroses Adolygu Cyfnodol, a'i diben yw gwerthuso cyflwr iechyd rhaglen yn feirniadol. Mae'n galluogi cynnig newidiadau fel bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol ac yn ddilys, yn ogystal â chynnal gwella ansawdd a sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cyflawni. Mae'r adolygiad cyfnodol hefyd yn galluogi cwrdd â datblygiadau a gynlluniwyd. Hysbysir myfyrwyr o unrhyw newidiadau perthnasol sy'n deillio o adolygiadau cyfnodol fel eu bod yn ymwybodol o unrhyw oblygiadau sy'n effeithio ar eu hastudiaethau. Ceir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r adolygiad cyfnodol yn y Llawlyfr Academaidd.
Cywirdeb Gwybodaeth
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni yn wir ac yn gywir. Mae'r cywirdeb gwybodaeth hwn yn cynnwys cywirdeb manylion personol gan y bydd gwallau a wneir yn enwau myfyrwyr yn ystod y prosesau derbyn a chofrestru yn arwain at drawsgrifiadau gradd anghywir.
Diddymir cynigion unrhyw ymgeiswyr nad ydynt yn dilyn y gweithdrefnau ymgeisio perthnasol ar gyfer y Brifysgol, UCAS ac UTT neu sy'n gwneud ceisiadau ffug neu dwyllodrus gan gynnwys peidio â datgelu gwybodaeth. Cyfeiriwch at bolisi Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddelio â cheisiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ffug neu dwyllodrus; gellir dod o hyd i'r polisi hwn trwy glicio yma
Gofynion Iechyd
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i sicrhau nad yw myfyrwyr yn agored i risg amhriodol. Felly, er mwyn derbyn lle a pharhau i astudio, mae rhai rhaglenni (er enghraifft gofal iechyd cyflenwol, gwyddoniaeth gofal iechyd, maeth dynol a dieteg, podiatreg a therapi lleferydd ac iaith), yn gofyn i ymgeiswyr lenwi holiadur iechyd galwedigaethol a darparu prawf imiwneiddio rhag afiechydon penodol cyn cofrestru, yn ogystal â chael gwiriadau sgrinio iechyd unwaith ar y campws.
Hefyd, yn achos rhai rhaglenni, mae angen i fyfyrwyr ymgymryd â rhaglen frechu orfodol. Cyflawnir pob gwiriad Iechyd Galwedigaethol ac apwyntiad sgrinio er mwyn galluogi'r Brifysgol i asesu iechyd fel y gellir cynnig cymorth rhesymol i'r unigolyn.
Bydd amodau eich cynnig a/neu lythyr yn eich hysbysu pan fydd gofynion iechyd o'r fath yn berthnasol.
Gellir gweld y manylion llawn ar raglen Asesiad Iechyd Galwedigaethol Met Caerdydd ar:www.cardiffmet.ac.uk/ohq..
Datgelu Euogfarnau Troseddol
Mae gan Met Caerdydd ddyletswydd gofal i'w myfyrwyr ac mae angen ei hysbysu am unrhyw euogfarnau sydd wedi arwain at bennu cyfnod prawf a/neu gyfyngiadau. Felly gofynnir i ymgeiswyr am unrhyw wybodaeth ynglŷn â hyn ar ôl iddynt gael cynnig lle.
Gofynnir i ymgeiswyr ar gyrsiau lle daw myfyrwyr i gysylltiad â phlant a/neu oedolion bregus ddatgelu pob euogfarn berthnasol, hyd yn oed os ydynt wedi dirwyn i ben, a chael gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriadau eraill cyn ac ar ôl cofrestru.
Cyfeiriwch at www.cardiffmet.ac.uk/dbs i gael mwy o wybodaeth.
Mewnfudo
Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio yn y DU gael eu clirio o safbwynt mewnfudo. Cyfeiriwch at y tudalennau rhyngwladol i gael mwy o wybodaeth, sef www.cardiffmet.ac.uk/international
Llety
Trefnir lleoedd yn y Neuadd gan y Gwasanaeth Llety. Er y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, mae galw mawr yn arwain at ddefnyddio llety preifat i gartrefu llawer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Mae'r trefniadau’n seiliedig ar bellter a dyddiad y cais ar-lein. Am wybodaeth bellach ac i gael manylion am y cytundeb llety, cyfeiriwch at www.cardiffmet.ac.uk/accommodation.
Cefnogaeth i Fyfyrwyr Anabl
Mae'r Brifysgol yn darparu amrediad eang o gymorth i fyfyrwyr i ddarparu cymorth gyda chyngor iechyd, lles, ffordd o fyw a gyrfa yn y dyfodol, sy'n cynnwys cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr anabl.
Mae'r brifysgol yn croesawu myfyrwyr anabl, ac anogir ymgeiswyr yn gryf i ddatgelu anabledd neu anghenion cymorth eraill ar eu cais, fel y gall y Brifysgol geisio cefnogi unrhyw anghenion trwy gydol yr amser astudio.
Mae'n bwysig bod ymgeiswyr/myfyrwyr yn trafod eu hanghenion gyda'r Gwasanaeth Anabledd ac yn darparu gwybodaeth yn ôl y gofyn fel y gellir gwneud addasiadau priodol. Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at: www.cardiffmet.ac.uk/disability.
Cofrestru
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr Metropolitan Caerdydd gofrestru ar-lein unwaith y bydd eu lle wedi'i gadarnhau (wedi'i wneud yn gynnig diamod) ac mae'n bwysig bod telerau ac amodau cofrestru, y gellir eu cyrchu yma yn cael eu darllen a'u deall. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i gytuno'n ffurfiol i delerau ac amodau, polisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol. Mae'n hanfodol eich bod chi'n ymgyfarwyddo â'r dogfennau hyn cyn cofrestru.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gytuno ar y dull/sail ar gyfer talu eu ffioedd. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n cael eu noddi gan gyflogwr neu sy'n cael eu hariannu gan fenthyciad a gymerwyd gyda'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ddarparu tystiolaeth foddhaol o'r trefniadau hyn, a'r gallu i gynnal eu hunain yn ystod y cyfnod astudio. Os nad oes tystiolaeth ar gael ar adeg cofrestru, rhaid i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o'r fath cyn pen cyfnod o 2 wythnos ar ôl cofrestru; gallai methu â gwneud hynny arwain at fyfyrwyr yn gorfod talu'r ffioedd eu hunain. Gellir cyrchu mwy o wybodaeth am ffioedd trwy trwy glicio yma.
Mae arnom angen tystiolaeth foddhaol o'ch cymwysterau, gan gynnwys TGAU Iaith Saesneg a Mathemateg (lle bo hynny'n berthnasol). Ni chaniateir i chi gofrestru oni bai eich bod yn darparu prawf o'ch cymwysterau trwy drawsgrifiad/tystysgrif wreiddiol neu gopi eglur a darllenadwy wedi'i ddilysu gan y sefydliad dyroddi. Cyfeiriwch at ein polisi ar ddilysu cymwysterau trwy trwy glicio yma.
Ni fydd angen i ymgeiswyr israddedig amser llawn y derbynnir canlyniadau cymhwyster lefel 3 ar eu cyfer gan UCAS ddarparu tystysgrifau. Bydd angen gwirio TGAU/cyfwerth o hyd.
Pan fydd mynediad i raglen yn dibynnu ar ddatgeliad DBS uwch, ystyrir bod unrhyw gofrestriad yn un dros dro nes bod datgeliad derbyniol wedi'i dderbyn a bod cliriad wedi'i roi. Gellir dirymu cofrestriad yn achos datgeliad annerbyniol.
Gwybodaeth Bersonol a Diogelu Data
Bydd y wybodaeth bersonol a roddwch yn eich cais i Met Caerdydd yn cael ei ddefnyddio i brosesu'ch cais a bydd yn rhan o'ch cofnod myfyriwr. Gellir ei ddefnyddio hefyd i:
- Roi gwybod i Wasanaethau Myfyrwyr os ydych chi wedi nodi anabledd fel y gellir gwneud asesiad mewn perthynas ag a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol. Mae gwybodaeth mewn perthynas ag a ydych chi mewn gofal neu wedi bod mewn gofal, neu os ydych chi'n ofalwr hefyd yn cael ei ddarparu i'r Gwasanaethau Myfyrwyr fel y gellir darparu cefnogaeth.
- Darparu cyfleusterau fel TG a Gwasanaethau Llyfrgell.
- Rhowch wybodaeth i ddarparwyr Lleoliad, os ydynt yn rhan o'r cwrs, er mwyn hwyluso'ch astudiaethau.
- Gweinyddu astudiaethau gan gynnwys gwybodaeth asesu a phenderfynu ar ddyfarniad.
- Rhowch wybodaeth i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y rhai sy'n dilyn cyrsiau hyfforddi athrawon.
- Gweinyddu cyllid fel talu ffioedd a darparu gwybodaeth i'r cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
- Ymgymryd â gweinyddiaeth y Cynlluniau Prifysgolion a Bwrsariaethau.
- Darparu ystadegau i asiantaethau'r llywodraeth gan gynnwys yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg i gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol.
- Darparu gwybodaeth i gydymffurfio â'r System Mewnfudo Seiliedig ar Bwyntiau.
- Gall cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill hefyd olygu y gellir darparu gwybodaeth i sefydliadau allanol gan gynnwys yr Heddlu, y Swyddfa Gartref, Awdurdodau Lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Os ydych chi'n gyflogedig neu'n noddedig yn ystod eich astudiaethau, darperir gwybodaeth mewn perthynas â'ch statws fel myfyriwr, ynghylch presenoldeb a pherfformiad.
- Galluogi'r Brifysgol i lunio ystadegau ar gyfer ymchwil sy'n ymwneud â thueddiadau ymgeisio, monitro perfformiad a monitro cyfle cyfartal.
- Cyfleu gwybodaeth am y broses ymgeisio, cwrs, Prifysgol a Chyn-fyfyrwyr.
- Prosesu cwynion, apeliadau ac achosion disgyblaeth myfyrwyr.
- Rhoi gwybodaeth i bartneriaid rhyddfraint er mwyn rheoli'r broses dderbyn ar gyfer y Sefydliad hwnnw.
Darperir data personol penodol i'r Brifysgol trwy gydol eich proses ymgeisio ac yna ceir rhagor o wybodaeth yn ystod y broses gofrestru. Mae data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu trwy gydol eich amser yn y Brifysgol wrth ymgymryd â'ch astudiaethau a chaiff ei drin yn unol â'r gofynion deddfwriaethol. Gellir hefyd cadw gwybodaeth bersonol ymgeiswyr aflwyddiannus os oes angen a'i gwaredu yn unol â pholisi'r Prifysgolion ar gadw cofnodion.
Efallai y bydd angen gwybodaeth am iechyd ymgeisydd cyn dechrau rhai cyrsiau er mwyn cwrdd â gofynion proffesiynol. Efallai y bydd angen gwybodaeth am iechyd myfyriwr hefyd pan wneir gwaith maes a lleoliadau at ddibenion iechyd a diogelwch ac yswiriant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr ddatgelu a chynnal gwiriad cofnodion troseddol ar gyfer rhai cyrsiau i fodloni gofynion cyfreithiol a phroffesiynol.
Trwy ymrwymo i'r contract gyda ni, rydych chi'n rhoi'r hawl i ni ddal a phrosesu eich data personol gan gynnwys rhywfaint o ddata personol sensitif yn unol ag Erthygl 6.1 (b) o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Bydd yr holl wybodaeth sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol yn cael ei thrin yn sensitif, yn gyfrinachol ac yn cael ei rheoli yn unol â'r egwyddorion Diogelu Data fel yr amlygir yn y GDPR a'n Polisïau a'n Gweithdrefnau Diogelu Data mewnol. Cyfeiriwch at wybodaeth am ein Polisïau Diogelu Data a Bod yn Agored. www.cardiffmet.ac.uk/DataProtection neu cysylltwch â DataProtection@cardiffmet.ac.uk.
Telerau Pwysig ac sy’n peri Syndod
Er ein bod yn ystyried bod yr holl wybodaeth a ddarperir o fewn y telerau ac amodau yn bwysig, hoffem dynnu eich sylw at y wybodaeth wirioneddol bwysig o dan:
Derbyniadau sy'n ymwneud â'ch cais a'ch mynediad i'r Brifysgol
Gofynion mynediad cwrs penodol sydd i'w gweld ar dudalennau'r cwrs
Euogfarnau troseddol
- Gofynion Iechyd
Hawliau canslo
Newidiadau i Gynigion
Rhaglenni newydd sy’n amodol ar ddilysu
Newidiadau i raglenni sy'n tynnu sylw at ba newidiadau a all ddigwydd a'r rhesymau pam y mae angen i Met Caerdydd wneud y rhain Ffioedd, newidiadau mewn
Ffioedd, costau ychwanegol, canlyniadau peidio â thalu (Polisi Dyledwyr) a'r swm fydd angen ei dalu os y penderfynwch adael
Cwynion
Diogelu Data sy'n ymdrin â sut yr ydym yn prosesu'ch gwybodaeth
Rheoliadau myfyrwyr sydd i'w gweld yn y Llawlyfr Academaidd
Rhaid i chi fod yn ymwybodol o reoliadau myfyrwyr wrth astudio yn Met Caerdydd ac y gall y rhain gael eu newid o bryd i'w gilydd er mwyn parhau i fod yn berthnasol
Sefydliadau Partner
Mae Met Caerdydd yn gweithio ar y cyd â nifer o Sefydliadau Partner sy'n cynnig cyrsiau a ddilyswyd gan Met Caerdydd. Bydd gan y Sefydliadau hyn hefyd delerau ac amodau y mae angen eu darllen a'u deall, ynghyd â thelerau ac amodau Met Caerdydd. Cyfeiriwch at
Dudalennau Partneriaethau Met Caerdydd i gael mwy o wybodaeth am ein partneriaid.
Canslo
Ar ôl ymateb i gynigion, mae gan ymgeiswyr 14 diwrnod lle gallant newid eu meddwl a chanslo’u lle gyda'r Brifysgol. Rhoddir rhybudd ysgrifenedig o'r cyfnod 14 diwrnod hwn i bob ymgeisydd. Ar ôl y cyfnod hwn, os yw ymgeiswyr am ganslo eu lle bydd angen iddynt lenwi a dychwelyd
Ffurflen Canslo.
Ar ôl cofrestru yn y Brifysgol, mae gan fyfyrwyr hefyd 14 diwrnod i newid eu meddwl a chanslo’u lle. Os bydd ymgeiswyr yn dewis tynnu’n ôl neu ganslo’u lle ar ôl y cyfnod o 14 diwrnod, bydd y Brifysgol yn caniatáu hyn heb unrhyw gosbau ariannol. Fodd bynnag, disgwylir bod gan ymgeiswyr reswm dilys dros dynnu'n ôl a’u bod wedi ymchwilio i ganlyniadau'r penderfyniad hwn.
Ewch i’r adran Ffioedd isod am gosbau ariannol am dynnu’n ôl ar ôl cofrestru.
Ffioedd
Codir ffioedd bob blwyddyn ar gyfer pob rhaglen israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser gan gynnwys Ymchwil. Mae’r wybodaeth lawn sy'n ymwneud â chostau ar ein tudalennau
cyllid. Gall newidiadau ddigwydd i gost astudio sy'n ystyried chwyddiant a grymoedd y farchnad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yng
nghynllun ffioedd Met Caerdydd . Gwelir hefyd at
Ddatganiad Ffioedd Met Caerdydd am fwy o wybodaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â'r newid i ffioedd.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gytuno ar ddulliau talu mewn perthynas â'u ffioedd dysgu a llety erbyn dechrau eu rhaglen. Efallai y bydd myfyrwyr hefyd yn wynebu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u rhaglen. Am fwy o wybodaeth bellach, ewch i’r wybodaeth am
Gostau Ychwanegol. Mae gwybodaeth lawn am ffioedd a rheoliadau i’w gael ar ein gwefan
Ffioedd a Chyllid yn ogystal ag yn y
Llawlyfr Myfyrwyr.
Dylech roi sylw arbennig i'r ffaith, os penderfynwch chi dynnu'n ôl ar ôl pythefnos gyntaf cychwyn eich rhaglen, byddwch yn atebol am dalu ffioedd yn dibynnu ar y cyfnod astudio, fel y nodir isod:
- Tynnu'n ôl yn ystod y tymor cyntaf (Hydref) % y ffi sy'n daladwy = 40%
- Tynnu'n ôl yn ystod yr ail dymor (Gwanwyn) % y ffi sy'n daladwy = 70%
- Tynnu'n ôl yn ystod y trydydd tymor (Haf) % y ffi sy'n daladwy = 100%
Os ydych chi'n talu'ch ffioedd eich hun neu unrhyw gyfraniad tuag at eich ffioedd, mae trefniadau ar waith i dalu rhandaliadau trwy Ddebyd Uniongyrchol.
Os yw eich ffioedd i'w talu neu gyfrannu atynt gan noddwr neu asiantaeth arall, rhaid darparu prawf o hyn wrth gofrestru trwy uwchlwytho cadarnhad o'ch llythyr cyllido.
Os ydych chi'n bwriadu derbyn cefnogaeth gan y
Student Loans Company,
yn ddelfrydol dylai cais fod wedi'i gwblhau erbyn mis Mai, neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwn. Cofiwch, os bydd eich dewis o raglen neu flwyddyn mynediad yn newid ar ôl cyflwyno'ch cais am fenthyciad myfyriwr, dylech hysbusu’r Student Loans Company o'r newid cyn gynted ag y bo modd.
Os ydych chi'n cael anawsterau cwrdd â’ch rhwymedigaethau ariannol neu os oes angen cyngor arnoch chi ar ddelio â dyled, dylech gysylltu â'n
Gwasanaeth Cynghori ar Gyllid a Lles Myfyrwyr i weld a allech dderbyn unrhyw gymorth ariannol. Mae gan y Brifysgol bolisi ar Ddyledwyr y gellir ei weld trwy trwy
glicio yma.
Cwynion
Mae gweithdrefn gwynion gael ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn hapus gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd iddynt. Mae croeso, yn y lle cyntaf, i chi gysylltu â'r adran berthnasol lle mae'ch cwyn yn tarddu. Os na chewch y canlyniad yr ydych yn ei ddisgwyl, mae gan y Brifysgol weithdrefn gwyno ffurfiol. I gael mwy o wybodaeth am y gweithdrefnau cwyno ffurfiol,
cliciwch yma os gwelwch yn dda.