Skip to main content

TAR Uwchradd
Saesneg

​​​

Mae cynlluniau ar y gweill o ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru ac mae’n gyfnod cyffrous i hyfforddi fel athro Saesneg. Mae’r newidiadau i strwythur y cwricwlwm a’r ddarpariaeth yn golygu y bydd ymarferwyr Saesneg yn cydweithio â chydweithwyr Cymraeg ac Ieithoedd Tramor Modern i ddod â sgiliau hanfodol ynghyd o’r tri phwnc ym Meysydd Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (MDPh LLC).

Fel arbenigwr Saesneg, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr a chyfoedion i gyd-greu cwricwlwm amrywiol, llawn gwybodaeth, sy’n seiliedig ar ymchwil sy’n rhoi dysgu dilys, cynwysoldeb a chreadigrwydd pwrpasol yn ganolog iddi.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gael i’w astudio yn y Gymraeg a’r Saesneg

1 flwyddyn yn llawnamser

Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg


Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â’r TAR Saesneg

Pan fyddwch yn astudio TAR Uwchradd Saesneg ym Met Caerdydd, byddwch yn archwilio ffyrdd arloesol o ddod â’ch cariad eich hun at ddarllen a llenyddiaeth, ysgrifennu a llefaredd at y bobl ifanc rydych chi’n gweithio â nhw. Bydd ein cwrs ym Met Caerdydd yn eich paratoi i ateb gofynion addysgu pwnc craidd yn y sector Uwchradd. Mae eich cynnydd tuag at SAC yn ganolog i ddylunio’r cwrs drwy ganolbwyntio ar addysgu rhyngweithiol, arloesol fydd yn eich paratoi i gymryd eich camau cyntaf mewn lleoliadau ysgol ac am hirhoedledd mewn gyrfa addysgu hynod werthfawr (ac weithiau’n heriol!).

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Mae’r cwrs wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy gyflwyno rhaglenni arloesol, hybrid ond mae dychwelyd i ddarparu’n llawn amser, ar ddarpariaeth campws yn golygu y byddwch yn elwa o ymgysylltu â thiwtoriaid a chyfoedion mewn lleoliad wyneb yn wyneb trwy gydol y flwyddyn. Mae ein tiwtoriaid Saesneg arbenigol, sydd â chefndiroedd addysgu Uwchradd ac Addysg Bellach, yn deall gofynion ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Byddant yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiadau yn yr ystafell ddosbarth Uwchradd Saesneg. Byddant yn eich tywys wrth i chi gynllunio, gwerthuso a mireinio eich addysgu. Rydym yn ffodus o gael perthynas waith ardderchog gyda chydweithwyr mewn Ysgolion Partneriaeth a myfyrwyr y gorffennol fel ei gilydd. Mae ymchwil ac ymholiad wrth wraidd ein rhaglen a bydd yn dod yn rhan annatod o’ch addysgu gwybodus eich hun am ymchwil. Mae ein mentoriaid pwnc Saesneg yn brofiadol iawn a byddant yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd drwy gydol eich blwyddyn hyfforddi.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Rydym ni’n cadw cysylltiadau agos gyda’n graddedigion, gyda llawer ohonynt yn dychwelyd i’r cwrs yn aml i gyfrannu mewn capasiti proffesiynol a sesiynau arweiniol yn eu harbenigeddau pwnc. Mae bron pob un o raddedigion y rhaglen TAR Uwchardd Saesneg yn symud i gyflogaeth lawn amser, naill ai mewn addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu feysydd sydd â chysylltiad agos. Mae gan Met Caerdydd hanes hir o ragoriaeth ym maes addysg athrawon ac mae’r rhagolygon gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannu yn hynod gadarnhaol.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio cwrs TAR yn Saesneg?

Mae yna sawl peth y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer astudio TAR Saesneg:

  • Archwilio cyfleoedd am brofiad yn yr ystafell ddosbarth cyn i chi ymgeisio. Byddai profiad yn yr ystafell ddosbarth Saesneg Uwchradd yn well, ond efallai na fydd hyn yn bosibl ac y byddwch am ddarganfod mwy am yr ystafell ddosbarth Gynradd er mwyn cymharu a darganfod pa un sydd orau gennych.
  • Siarad ag ymarferwyr yn eich maes pwnc i gael gwybod mwy am rôl athro Saesneg mewn lleoliad Uwchradd. Bydd hyn rhoi gwybodaeth gwerthfawr i chi a bydd yn rhoi cyfle i chi ofyn am ymarfer ac addysgeg, a chael gwybodaeth y gallwch ei chyflwyno yn ystod eich cyfweliad am le ar y rhaglen.
  • Ystyried eich gwybodaeth pwnc Saesneg – pa destunau rydych chi wedi mwynhau eu hastudio a pham? A oes unrhyw feysydd iaith neu lenyddiaeth sy’n eich herio ac a hoffech adolygu neu ailedrych arnynt?
  • Archwilio gwefan CBAC ar gyfer gwybodaeth am fanylebau TGAU ac UG/Safon Uwch. Ceisiwch ddarganfod pa destunau naratif a barddoniaeth sy’n cael eu defnyddio ar bob lefel ac archwilio’r rhestrau darllen i gael gwybod eich barn chi am y testunau hyn.
  • Ystyried y rhesymau pam rydych wedi dewis dysgu Saesneg. Wnaethoch chi fwynhau Saesneg yn ystod eich amser yn yr ysgol neu oedd eich athro Saesneg yn ysbrydoliaeth i chi? Ydych chi wedi astudio’r Saesneg o safbwynt academaidd a nawr yn dymuno gweithio gyda phobl ifanc er mwyn sbarduno’r un angerdd ynddyn nhw? Darganfyddwch eich ‘pam’ a byddwch yn barod i’w rannu gyda ni!
O weithio mewn ffatri i astudio TAR Uwchradd – Fy nhaith i fod yn athro Saesneg ym Met Caerdydd
 
 

“Mae’r cwrs yn ddwys, ac mae rhaid i chi weithio’n galed o’r cychwyn cyntaf ond mae’n werth chweil ac rydych yn datblygu fel athro yn gyflym. Mae’r gefnogaeth gan eich tiwtoriaid yn y Brifysgol a mentoriaid yr ysgol heb ei ail ac yn help mawr i chi gyda’ch astudiaethau a’ch profiadau yn y dosbarth. Yn ogystal â’ch ymarfer clinigol a’ch profiadau yn yr ysgol rydych hefyd yn dysgu drwy ddiwrnodau Hyfforddiant dan Arweiniad Ysgolion (HdAY). Mae’r rhain yn wych gan eu bod yn cynnig arweiniad a chefnogaeth am addysgu a’r cwricwlwm newydd. Yn ystod y Diwrnodau Hyfforddi dan Arweiniad Ysgolion rydych chi’n dysgu cymaint am wahanol dduliau o addysgu gan eich mentoriaid a’ch cyfoedion ac mae hynny’n mynd i’ch gwneud chi’n well athro.”

Callum Williams, TAR Uwchradd (Saesneg)

Darllen Mwy

Astudio TAR Uwchradd Saesneg a chreu prosiect addysgu gartref
 
 

“Mae hwn yn gwrs rhyfeddol ‘unwaith mewn bywyd’ a byddwn yn annog unrhyw un sy’n caru addysg neu addysgu i’w astudio. Doeddwn i erioed wedi meddwl y gallai fy mywyd newid cymaint mewn blwyddyn ac eto mae’r cwrs yma wedi trawsnewid fy mywyd yn y dyfodol. Diolch i gefnogaeth mentoriaid y Brifysgol a staff yr ysgol rwyf bellach yn dysgu Saesneg Cyfnod Allweddol 3 a 4 mewn ysgol Uwchradd ym Mlaenau Gwent. Yn fy marn i, bydd unrhyw un sy’n gorffen y cwrs hwn yn awyddus i helpu cenedlaethau’r dyfodol yn yr ystafell ddosbarth.”

Nathan Jones, TAR Uwchradd (Saesneg)

Darllen Mwy

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Rhian Mulligan, Arweinydd y Rhaglen TAR Saesneg yn remulligan@cardiffmet.ac.uk.

Teacher with school pupil  
 
Logo - Cardiff Partnership for Initial Teacher Education

Met Caerdydd yw cartref Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym fwy na 60 mlynedd o brofiad ac enw da i genfigennu wrtho o ran ansawdd ein darpariaeth hyfforddi athrawon.