Ynglŷn â Ieithoedd Tramor Modern
Ar y cwrs TAR Ieithoedd Tramor Modern (ITM) ym Met Caerdydd byddwn yn edrych ar themâu penodol sy’n berthnasol i addysgu ieithoedd, megis defnyddio iaith darged, rôl gramadeg yn yr ystafell ddosbarth, sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, defnyddio TG mewn gwersi ITM, her a gwahaniaethu a hil a hiliaeth yn ein cwricwlwm ITM.
Cefnogir ein sesiynau pwnc penodol gan siaradwyr gwadd o’n Hysgolion Partneriaeth, consortia rhanbarthol, a Phrifysgol Caerdydd i gyfoethogi ein rhaglen. Yn ystod ein sesiynau pwnc penodol, cewch gyfle i archwilio ymchwil a thrafod sut y gellir ei ymgorffori yn ein harferion addysgu.