YMGEISIO TRWY CLIRIO: 0300 330 0755

CLIRIO MET CAERDYDD 2023

0300 330 0755

Llety ar gael – gwnewch gais cyn gynted â phosibl ar gyfer mynediad 2023*

Sicrhewch eich lle ym Met Caerdydd ar gyfer mis Medi 2023 trwy Glirio

Cysylltwch â ni ar Sgwrs Fyw neu ffoniwch 0300 330 0755 a byddwn yn hapus i helpu.

Gwnewch Gais Ar-lein Nawr

Eich Prifddinas dechreuadau newydd, uchelgeisiau mawreddog, breuddwydion mawr, dyheadau mawr, calonnau mawr, croeso cynnes, men-toriaid ysbrydoledig, cysyniadau heriol a newid meddylfrydau, dyfalbarhad, penderfyniad, trawsnewid, syniadau gwych a dyfodol disglair, angerdd, mentro, rhyfeddu, chi.

LLINELL GYNGOR
CLIRIO

Clearing Advice Line

Siaradwch â’n staff academaidd a’n tîm Derbyniadau am sicrhau lle trwy Glirio ym Met Caerdydd.


EDRYCH AR EIN AMSEROEDD AGORED

CWESTIYNAU CYFFREDIN
CLIRIO

Clearing FAQs

Sut mae gwneud cais trwy Glirio? Beth yw Clirio a Mwy neu Addasiad? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin gorau i’ch helpu chi i’ch tywys trwy’r broses.


DARLLEN CWESTIYNAU CYFFREDIN

TEITHIAU CAMPWS
CLIRIO

Gwneud cais trwy’r system Glirio ond heb gael cyfle i ymweld â ni? Dewch i Daith Campws ar 2il, 18fed, 19eg neu 23ain Awst.


ARCHEBU EICH LLE

BYWYD MYFYRWYR

Y ddinas fwyaf fforddiadwy i fyfyrwyr yn y DU* a 9fed am Fywyd Myfyrwyr**, mae Caerdydd yn brifddinas wych i fyw ac astudio ynddi.
*Mynegai NatWest am Gostau Byw i Fyfyrwyr 2022 **Rhestr Uni Compare o Brifysgolion 2023

DARGANFYDDWCH FWY

LLETY

Clearing Accommodation

Gall ein tîm llety pwrpasol eich helpu i wneud cais am le yn ein neuaddau preswyl neu sicrhau lle mewn llety preifat.

YMGEISIO AM LETY

FY MHROFIAD CLIRIO

“Gall gwneud cais am le mewn prifysgol fod yn llethol, a gyda’r holl derfynau amser does dim llawer o amser i feddwl sut rydych chi’n mynd i dreulio’r 3 neu 4 blynedd nesaf. Yn fy mhrofiad i, rhoddodd Clirio fwy o amser i mi feddwl am yr hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud. Cefais y graddau yr oeddwn eu hangen ar gyfer fy newis gwreiddiol ond, ar ôl gweld yr hyn yr oedd Met Caerdydd yn ei gynnig, roeddwn yn gwybod mai hon oedd y brifysgol orau i mi gan ei bod yn cynnig y cyfleusterau a’r ffocws ymarferol yr oeddwn eu heisiau.”

Charlotte Parry
BA (Anrh) Digwyddiadau Rhyngwladol & Rheoli Lletygarwch

AWGRYMIADAU DA GAN DDARLITHYDD – YMGEISIO TRWY GLIRIO

“Gwnewch eich ymchwil ac edrychwch ar y cyrsiau yr ydych yn galw amdanynt. Rydych chi’n gwneud penderfyniad mawr, gan y byddwch chi’n byw ac yn anadlu’r cwrs hwn am y 3 neu 4 blynedd nesaf, felly peidiwch â mynd i mewn iddo’n ddall. Gofynnwch am gael siarad yn uniongyrchol â staff addysgu os yn bosibl – gallant roi blas go iawn o’r cwrs i chi. Paratowch rai cwestiynau adeiladol a gwnewch yn glir eich bod wedi meddwl a yw’r cwrs yn addas i chi ai peidio.”

Nick Young
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

YMGEISWYR AEDDFED

Mature Applicants

Nid yw hi byth yn rhy hwyr! Darllenwch fwy am sut rydyn ni wedi cefnogi myfyrwyr aeddfed ar ôl dychwelyd i addysg ac i gyflawni eu huchelgeisiau gydol oes trwy astudio ym Met Caerdydd.


MYFYRWYR AEDDFED

LLWYBR SYLFAENOL

Foundation Route

P’un a ydych chi’n dychwelyd i addysg, neu heb y gofynion sydd eu hangen i fynd i mewn i flwyddyn un o’r radd o’ch dewis – yna gallai llwybr sylfaen fod ar eich cyfer chi.


LLWYBR SYLFAENOL

FY MHROFIAD CLIRIO

“Cefais brofiad anhygoel ym Met Caerdydd ac rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cymryd yr amser i fynd trwy Glirio. Rwy’n annog unrhyw un sy’n wynebu dim lle ac sy’n ystyried Clirio i fynd amdani – efallai y byddwch chi’n dod o hyd i’r union gwrs radd roeddech chi’n chwilio amdani.”

Matthew Whelan
BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol / MSc Gwyddor Biofeddygol

AWGRYMIADAU DA GAN DDARLITHYDD – YMGEISIO TRWY GLIRIO

“Fel darlithydd, mae brwdfrydedd mor bwysig i mi pan fyddaf yn ystyried ymgeiswyr. Fel prifysgol, byddwn yn edrych ar eich proffil academaidd i wneud yn siŵr eich bod yn barod i ddechrau un o’n cyrsiau, ond mae brwdfrydedd ac angerdd am y pwnc yn dweud llawer wrthyf am berson, pan fyddaf yn eu hystyried fel darpar fyfyriwr.”

Catherine Tryfona
Ysgol Dechnolegau Caerdydd

ASTUDIO GRADD PRIFYSGOL YNG NGHAERDYDD.
YMGEISIO TRWY UCAS CLIRIO 2023.