Skip to main content

TAR Uwchradd
Gwyddoniaeth

​​

Mae’r cyrsiau TAR Uwchradd Gwyddoniaeth ym Met Caerdydd yn cynnig tri llwybr gwahanol at ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig ac maent ar gael trwy lwybrau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Yn dibynnu ar eich cefndir pwnc, mae gennych yr opsiwn i ddewis naill ai Bioleg gyda Gwyddoniaeth, Cemeg gyda Gwyddoniaeth neu Ffiseg gyda Gwyddoniaeth, gan arbenigo mewn addysgu’r ystod oedran 11-18.

Mae addysgu eich arbenigedd pwnc ar lefel uwchradd, ynghyd ag agweddau ehangach ar wyddoniaeth, yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich brwdfrydedd a defnyddio gweithgareddau creadigol ac atyniadol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn y gyrfaoedd niferus sy’n dibynnu ar arbenigedd gwyddonol.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gael i’w hastudio yn Gymraeg a Saesneg

1 flwyddyn yn llawnamser

Bwrsariaeth Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg


Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR y Gwyddorau

Cyflwynir yr holl sesiynau gwyddoniaeth yn y brifysgol yn ein labordai â chyfarpar da sydd wedi’u modelu’n benodol i efelychu darpariaeth ysgol. Bydd y cynnwys a addysgir yn cynnwys pynciau fel natur gwyddoniaeth; sut mae myfyrwyr yn dysgu; diwallu anghenion dysgwyr unigol gan gynnwys herio’r rhai mwy abl a thalentog; strategaethau addysgu effeithiol ar gyfer gwyddoniaeth; ac addysgu a rheoli gwaith ymarferol yn ddiogel. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae pwyslais cryf ar waith ymarferol, gan ein bod o’r farn fod meddyliau ifanc yn ymgysylltu orau â gwyddoniaeth drwy ‘wneud pethau’.

Mae datblygiadau yn y Cwricwlwm i Gymru yn gosod Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ehangach. I gefnogi’r strwythur hwn, byddwch hefyd yn cael profiad o weithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n dilyn cyrsiau Dylunio a Thechnoleg a TGCh.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Rheolir ac addysgir y cyrsiau TAR Gwyddoniaeth gan staff medrus iawn sydd i gyd â phrofiad sylweddol o addysgu ar lefel ysgol uwchradd ac ym maes Addysg Uwch. Yn ogystal, rydym yn cael ein cefnogi gan dechnegydd cymwys iawn sydd ag arbenigedd sylweddol, a gafodd o amgylcheddau diwydiannol ac addysg.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Nod y TAR yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus, adfyfyriol beirniadol ac arloesol sy’n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc. Yn y brifysgol, bydd eich sesiynau arbenigol yn eich paratoi i addysgu eich pwnc hyd at a chan gynnwys Safon Uwch, a bydd sesiynau ychwanegol sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yn datblygu eich hyder wrth addysgu agweddau ehangach ar y cwricwlwm gwyddoniaeth. Yn yr ysgol, gallwch ddisgwyl addysgu pob agwedd ar wyddoniaeth i grwpiau blwyddyn is, gyda’r posibilrwydd o rywfaint o ddysgu gwyddoniaeth ehangach hyd at TGAU a phrofiad chweched dosbarth o’ch arbenigedd yn un o’ch dwy ysgol lleoliad o leiaf.

Mae Gwyddoniaeth hefyd yn cael ei gydnabod fel pwnc blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac felly bydd pob myfyriwr llwyddiannus yn derbyn bwrsariaeth gwerth £15,000 tra byddwch yn hyfforddi yng Nghymru ar gyfer Gwyddoniaeth a bodloni meini prawf cymhwysedd.

Neidio o fod yn Gynorthwyydd Addysgu i athro Ffiseg gyda’r TAR Uwchradd ym Met Caerdydd
 
 

“Roeddwn i’n wastad yn frwd dros Wyddoniaeth a Mathemateg ers fy nyddiau ysgol. Rwy’n credu bod gan Ffiseg gysylltiad cryfach â rhifedd nag unrhyw bwnc Gwyddoniaeth arall. Felly, dewisais Ffiseg ar gyfer fy ngradd gyda Mathemateg ac yna gwnes i radd meistr mewn Ffiseg. Roedd astudio’r TAR yn brofiad gwych i mi, addasu i ddiwylliant dosbarth tramor, magu hyder, gwneud cysylltiadau â chyd-athrawon dan hyfforddiant, staff ar leoliad ysgol a thiwtoriaid y brifysgol.”

Dhanya Cherukudi Mattuvayal, TAR Uwchradd (Ffiseg gyda Gwyddoniaeth)

Darllen Mwy

Y teimlad gorau yn y byd yw gweld dilyniant yn eich myfyrwyr

“Dewisais addysgu uwchradd oherwydd fy mod yn caru fy mhwnc. Rydw i mor angerddol dros wyddoniaeth – rydw i wir eisiau trosglwyddo’r brwdfrydedd hwnnw i’m myfyrwyr. Cyn gynted ag y cyrhaeddais yr ystafell ddosbarth honno, roeddwn yn gwybod mai dyna’r llwybr gyrfa yr oedd angen i mi ei ddilyn.”

Zoe Fullbrook, TAR Uwchradd (Bioleg gyda Gwyddoniaeth)

Yr hyn rydw i’n ei garu am addysgu yw’r plant a bod yn fodel rôl iddyn nhw
 
 

“Mae’r TAR ym Met Caerdydd wedi fy ngwneud yn hyderus ar gymaint o lefelau. Ar y dechrau roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n dechrau fel Cynorthwyydd Addysgu, ond nid oedd hynny’n wir. Yn ystod wythnos gyntaf fy lleoliad, roeddwn i’n addysgu’n llwyr, yn addysgu 2 ddosbarth, 60 o blant, mae hynny’n dipyn o gyfrifoldeb. Ond dyna harddwch y peth. I daflu rhywun i mewn yn y pen dwfn, i ddeall bod hwn yn fywyd go iawn, dyma beth sy’n rhaid i ni ei wneud. Roedd hynny’n fy herio a’m gwthio ymhellach ac yn fy ngwneud yn hyderus.”

Monjurul Islam, TAR Uwchradd (Bioleg gyda Gwyddoniaeth)

Darllen Mwy

Dyw hi fyth yn rhy hwyr i addysgu ac astudio TAR Uwchradd
 
 

“Roedd gen i ddiddordeb mewn addysgu erioed, ond ar ôl graddio mewn biocemeg a ffisioleg, symudais i Ffrainc a dilyn gyrfa’n gysylltiedig â chyfathrebu gwyddoniaeth yn y cyfryngau. Er efallai ei bod hi’n ymddangos bach yn hwyr i fod yn ystyried newid gyrfa yn 62 oed, roeddwn i’n edmygu Met Caerdydd yn fawr am fentro ar broffil ymgeisydd anarferol ac yn ddiolchgar am y cyfle y gwnaethant ei roi i mi i wneud y TAR Uwchradd Cemeg gyda Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs wedi bodloni fy holl ddisgwyliadau. Mae pob agwedd ar elfennau damcaniaethol ac ymarferol addysgu wedi fy swyno.”

Lucy Vincent, TAR Uwchradd (Cemeg gyda Gwyddoniaeth)

Darllen Mwy

Cyfleusterau

Ewch ar daith rithiol o amgylch ein labordai addysgu Gwyddoniaeth ar Gampws Cyncoed.

Defnyddir ein labordai ymarferol modern mawr ar gyfer addysgu gwyddoniaeth ar amrywiaeth o Gyrsiau TAR a BA Addysg. Eu bwriad yw efelychu gofodau labordy ysgol sydd â chyfarpar da, sy’n rhoi cyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddatblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eu cefnogi i arddangos a hwyluso gweithgareddau ymarferol drostynt eu hunain mewn lleoliadau ysgol.

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Ceri Pugh, Arweinydd y Rhaglen TAR Uwchradd Gwyddorau ar cpugh2@cardiffmet.ac.uk.

Teacher with school pupil  
 
Logo - Cardiff Partnership for Initial Teacher Education

​Met Caerdydd yw cartref Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym fwy na 60 mlynedd o brofiad ac enw da i genfigennu wrtho o ran ansawdd ein darpariaeth hyfforddi athrawon.