Skip to main content

TAR Uwchradd
Celf a Dylunio

​​

Wrth astudio TAR Uwchradd Celf a Dylunio ym Met Caerdydd, bydd ein rhaglen yn eich annog i gysylltu ymarfer â theori er mwyn i chi gael yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr addysgu proffesiynol deinamig a hynod fedrus sy’n rhoi creadigrwydd wrth galon addysg gelf.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gael i’w astudio yn y Gymraeg a’r Saesneg

1 flwyddyn yn llawnamser

Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg


Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR Celf a Dylunio

Trwy gydol y cwrs bydd gennych fynediad i fannau celf, dylunio a thechnoleg pwrpasol sydd ag adnoddau o’r radd flaenaf. Mae’r rhain yn eich galluogi i feithrin, a rhannu, eich ymarfer creadigol a’ch gwybodaeth eich hun am y pwnc mewn amrywiaeth eang o feysydd ymarferol gan gynnwys cyfryngau digidol, tecstilau creadigol, cerameg, adeiladu 3D, darlunio, paentio, print, gwydr a llawer mwy.

Bydd y cwrs lefel meistr hwn yn rhoi’r sgiliau i chi feddwl yn fanwl a gwerthuso’n feirniadol y pwrpas a’r ffyrdd i ddylunio a gweithredu addysg gelfyddydol gynhwysol ac arloesol.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Trwy gydol eich TAR, bydd sawl cyfle i weithio gydag artistiaid cyfoes, amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol. Fel rhan o’r cwrs bydd cyfle i ddewis eich lleoliad cyfoethogi eich hun, yn ystod y cyfnod hwn efallai yr hoffech brofi lleoliad addysgol amgen, er enghraifft amgueddfa neu oriel, ysgol gynradd neu ysgol ADY arbenigol.

Rydym yn gweithio’n agos iawn ag ysgolion cynradd ac uwchradd Partneriaeth Caerdydd ledled De Cymru a thu hwnt drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae ein partneriaeth o diwtoriaid prifysgol, mentoriaid mewn ysgolion, a thechnegwyr arbenigol a phrofiadol yma i’ch cefnogi wrth i chi ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gyfoethogi bywydau’r rhai rydych chi’n eu haddysgu.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Nod y TAR Celf a Dylunio yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr hynod fedrus, hyderus, myfyriol feirniadol ac arloesol sy’n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac addysg pobl ifanc. Mae’r rhagolygon gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ym Mhartneriaeth Caerdydd yn gadarnhaol iawn. Mae’r rhan fwyaf o raddedigion yn cael cynigion ar gyfer gwaith llawn amser yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR ac mae llawer yn parhau i wneud cynnydd cyflym i swyddi â chyfrifoldeb. Mae’r galw am athrawon Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg yn arbennig o uchel.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi at astudio TAR mewn Celf a Dylunio?

Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth am y pwnc a’ch athroniaeth addysgu. Ystyriwch yn ofalus pam rydych am addysgu’r pwnc a pherthnasedd Celf a Dylunio i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ymchwiliwch i’r newidiadau diweddar i’r pwnc yng Nghymru gan gynnwys darllen adrannau perthnasol y canllawiau cwricwlwm MDaPh ar wefan Hwb. Archwiliwch fanylebau, cyn-bapurau ac adroddiadau Arholwyr TGAU a Safon Uwch CBAC.

Mae TAR Uwchradd Celf a Dylunio wedi fy helpu i addysgu a theithio’r byd
 
 

“Mae addysgu wedi bod yn ddewis gyrfa yr oedd gen i ddiddordeb ynddo erioed ers pan oeddwn i’n ifanc. Met Caerdydd oedd fy newis cyntaf, nid yn unig at ddibenion lleoliad (oherwydd roeddwn i’n byw yng Nghaerdydd yn barod) ond hefyd oherwydd yr enw rhagorol a oedd ganddo gan gyn-fyfyrwyr a gwblhaodd eu TAR yno. Mae cael y profiad o addysgu’n rhithiol ac wyneb yn wyneb wedi fy ngalluogi i weld cynnydd disgyblion ac i feithrin perthnasoedd gyda chydweithwyr a myfyrwyr. Mae gallu bod yn rhan o daith ddysgu’r disgyblion wedi rhoi’r hyder sydd ei angen arnaf i herio fy hun i fod yr athro gorau y gallaf fod. Rwy’n teimlo’n barod ac yn hyderus i fynd â’r sgiliau a ddysgais drwy gydol fy mlwyddyn TAR gyda mi i’m gyrfa addysgu yn Kuwait.”

Maia White, TAR Uwchradd (Celf a Dylunio)

Darllen Mwy

Cyfleusterau

Ewch ar daith rithiol o amgylch ein cyfleusterau Celf a Dylunio ar gampws Cyncoed.

Defnyddir ein cyfleusterau ymarferol eang ar gyfer addysgu’n seiliedig ar gelf, cyfrifiadura a dylunio ar gasgliad o Gyrsiau TAR a BA Addysg. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys Stiwdio Celf a Dylunio, ystafell Odyn, gofod Tecstilau, Stiwdio Cyfrifiadura a TGCh, gweithdai Dylunio a Thechnoleg a Labordy Argraffu 3D. Eu bwriad yw efelychu mannau celf a dylunio â chyfarpar da sy’n rhoi cyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddatblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eu cefnogi i arddangos a hwyluso gweithgareddau ymarferol drostynt eu hunain mewn ysgolion.

Arddangosiad Creadigol

Un o uchafbwyntiau ein blwyddyn yw’r Arddangosiad Creadigol a gynhelir gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (YGDC) mewn cydweithrediad â’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Caiff ei gynnal o ganol mis Mehefin bob blwyddyn a gwahoddir ysgolion cynradd ac uwchradd i arddangos gwaith disgyblion o unrhyw ddisgyblaeth greadigol yn orielau cyhoeddus y brifysgol. Mae’n gyfle gwych i ffrindiau, teuluoedd, addysgwyr ac asiantaethau allanol eraill ddod at ei gilydd i ddathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd mewn ysgolion.

 
 
 
 

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch ag Eve Oliver, Arweinydd y Rhaglen TAR Uwchradd Celf a Dylunio ar eeoliver@cardiffmet.ac.uk.

I ddysgu mwy am brofiadau myfyrwyr TAR, dilynwch ni ar Twitter yn @CSECardiffMet a @ITECardiffMet

Teacher with school pupil  
 
Logo - Cardiff Partnership for Initial Teacher Education

Met Caerdydd yw cartref Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym fwy na 60 mlynedd o brofiad ac enw da i genfigennu wrtho o ran ansawdd ein darpariaeth hyfforddi athrawon.