Skip to main content

TAR Uwchradd Addysg Gorfforol

Mae rhaglen ​TAR Addysg Gorfforol Met Caerdydd yn cynnig hyfforddiant a chymorth blaenllaw sy’n seiliedig ar ymchwil a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn ein hysgolion rhagorol ym Mhartneriaeth Caerdydd. Fel un o’r pynciau cyntaf i gael ei gynnig fel rhan o hyfforddiant athrawon ar y campws hwn, mae gan y cwrs TAR Addysg Gorfforol berthynas hanesyddol hirsefydlog â sawl adran yn Ne Cymru ac mae’n ymfalchïo yn y cysylltiad clòs hwn â’r pwnc.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gael i’w astudio yn y Gymraeg a’r Saesneg

1 flwyddyn yn llawnamser

Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg


Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR Addysg Gorfforol

Nid yw Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles yn bwnc hawdd i’w addysgu. Mae’n gofyn nid yn unig am frwdfrydedd dros y pwnc, ond hefyd gwybodaeth ragorol am y pwnc, a dealltwriaeth fanwl o’r addysgeg sy’n eich galluogi i wella a datblygu cariad person ifanc at ‘fod yn egnïol am oes’.

Gofynnwn beth mae bod yn athro Addysg Gorfforol yn yr 21ain ganrif yn ei olygu a heriwn beth rydym wir yn ei werthfawrogi am ein pwnc. Nid athro Addysg Gorfforol ydych chi yn unig, ond ‘athro’r plentyn cyfan’ uwchlaw popeth, gydag arbenigedd mewn Addysg Gorfforol a Lles.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Mae’r cwrs TAR Addysg Gorfforol presennol, sy’n uchel ei barch ymhlith ysgolion yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n parhau i gryfhau enw da hanesyddol y cwrs, yn hynod gystadleuol ac mae’r ceisiadau bob blwyddyn yn mynd ymhell y tu hwnt i nifer y lleoedd sydd ar gael. Gan fod y cwrs yn aml yn llawn erbyn y Nadolig, fe’ch cynghorir i gyflwyno eich cais cyn gynted ag y bydd y ffenestr yn agor ym mis Hydref.

Mae sesiynau’r brifysgol wedi’u llunio i ddadansoddi addysgeg dysgu drwy lens Addysg Gorfforol yn ogystal â datblygu gwybodaeth bwnc am ystod o feysydd gweithgarwch corfforol gwahanol. Gydag Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles yn greiddiol iddynt, mae’r sesiynau’n ceisio cefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu hathroniaeth addysgu eu hunain i gefnogi eu lleoliadau ymarfer clinigol. Daw siaradwyr gwadd o Ysgolion Partneriaeth, consortia rhanbarthol a sefydliadau allanol i gyfoethogi a gwella’r ddarpariaeth a addysgir.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae rhagolygon gyrfa athrawon Addysg Gorfforol sy’n graddio o Bartneriaeth Caerdydd yn hynod gadarnhaol. Mae bron pob un o’r graddedigion TAR Addysg Gorfforol yn sicrhau gwaith llawnamser yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR ac mae sawl un yn parhau i wneud cynnydd cyflym i fod yn benaethiaid adrannau, penaethiaid blynyddoedd a swyddi rheoli canol ac uwch eraill. Mae galw enfawr am athrawon Addysg Gorfforol cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygir wrth addysgu yn yr amgylchedd unigryw a gynigir gan y maes pwnc hwn yn aml yn golygu bod ysgolion yn mynd ati i chwilio am raddedigion sy’n hyfforddi mewn Addysg Gorfforol i addysgu mewn meysydd pwnc eraill hefyd.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi at astudio TAR mewn Addysg Gorfforol?

Oherwydd natur hynod gystadleuol y cwrs hwn a natur newidiol y pwnc yn unol â’r agenda Iechyd a Lles a gwaith diwygio’r cwricwlwm sy’n mynd rhagddo, mae profiad gwaith mewn cyd-destun ysgol yn hanfodol. Er bod cael sylfaen dda mewn amrywiaeth o chwaraeon/gweithgareddau a’r dyfarniadau hyfforddi cysylltiedig sy’n cyd-fynd â hynny’n bwysig, mae ehangder yr un mor bwysig â manylder yn ogystal â dealltwriaeth ddatblygol o ran tirwedd newidiol Add. Gorff. yng nghyd-destun y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Ystyriwch...nid yw mabolgampwr gwych o reidrwydd yn gwneud athro Add. Gorff. gwych. Fodd bynnag, gall athro Add. Gorff. gwych – sy’n gallu ysgogi ac ysbrydoli disgyblion i fod yn egnïol am oes, magu hyder i fod yn egnïol mewn amrywiaeth o amgylcheddau corfforol a chymhelliant i roi cynnig ar sefyllfaoedd newydd a heriol wrth ddatblygu ‘pecyn offer’ o sgiliau corfforol cywir – newid canlyniad y disgybl hwnnw yn y dyfodol.

Bywyd ar ôl y Brifysgol: Fy swydd ddelfrydol yn gweithio fel athrawes Add. Gorff.
 
 

“Dewisais astudio’r TAR Uwchradd Addysg Gorfforol trwy gyfrwng y Gymraeg, ar ôl graddio o’r BSc (Anrh) Chwaraeon, Add. Gorff. ac Iechyd ym Met Caerdydd. O ganlyniad i bartneriaeth gref y brifysgol ag ysgolion uwchradd Cymraeg eu hiaith yn Ne Cymru, rhoddodd y cwrs TAR ddau leoliad i mi a mentoriaid ysbrydoledig a chefnogol ym Mhlasmawr a Rhydywaun. Rydw i wedi bod yn addysgu yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ers 3 blynedd, a gyda phob blwyddyn rwy’n parhau i ennill profiadau mwy gwerthfawr, gan ddatblygu fy hun yn broffesiynol, a mwynhau fy llwybr gyrfa diolch i Met Caerdydd.”

Naomi Rose Davies, TAR Uwchradd (Addysg Gorfforol)

Darllen Mwy

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Fiona Heath-Diffey, Arweinydd y Rhaglen TAR Uwchradd Addysg Gorfforol ar fheath-diffey@cardiffmet.ac.uk.

Teacher with school pupil  
 
Logo - Cardiff Partnership for Initial Teacher Education

Met Caerdydd yw cartref Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym fwy na 60 mlynedd o brofiad ac enw da i genfigennu wrtho o ran ansawdd ein darpariaeth hyfforddi athrawon.