Campws Cyncoed

Gweld map maint llawn o Gampws Cyncoed

Campws Cyncoed
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ffordd Cyncoed
Caerdydd
CF23 6XD

Ffôn: 029 2041 6155​

Gweld yn Google Maps ​​​

Mae Cyncoed yn gartref i Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ac Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyncoed).

Mae'n gampws prysur sy'n cynnig llety ar y safle a Chanolfan Campws bwrpasol, newydd. Mae'r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol, siop ar y safle, bariau coffi a ffreutur. Mae'r campws hefyd yn gweithredu fel prif swyddfa Undeb y Myfyrwyr a'r Undeb Athletau. 

Cliciwch yma i weld map Campws Cyncoed

Sut i'n cyrraedd ni:

Bws

Mae bws 52/52A yn teithio o ganol y ddinas i gampws Cyncoed bob 15 munud yn ystod y dydd, trwy Heol Albany a Heol Pen-y-lan.

Yn ystod y tymor, mae'r bws U1 MetRider yn teithio o Landaf i gampws Cyncoed bob awr.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig tocyn bws MetRider i fyfyrwyr a staff, sy'n rhoi mynediad diderfyn i rwydwaith cyfan Bws Caerdydd rhwng 1 Medi a 30 Mehefin. Os cymerwch y bws fwy na dau ddiwrnod bob wythnos, bydd y tocyn MetRider yn arbed arian i chi.  

Trên

Mae gorsafoedd rheilffordd Lefel Uchel a Lefel Isel y Mynydd Bychan tua 25 munud ar droed o gampws Cyncoed, gan wasanaethu'r ardal o linellau Rhymni a Coryton. Gweler National Rail Enquiries am amseroedd trenau.

Beic

Mae Caerdydd yn elwa o rwydwaith o lwybrau seiclo, gan gynnwys nifer o lwybrau seiclo di-draffig. I gynllunio'ch taith ar feic i gampws Cyncoed, ewch i Cycle Streets. Mae mapiau llwybrau seiclo hefyd ar gael o'r dderbynfa ar bob campws Prifysgol Metropolitan Caerdydd.