Ynglŷn â TAR Addysg Grefyddol
Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth ragorol am y pwnc ac yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r addysgeg sydd ei angen er mwyn bod yn ymarferydd pwnc rhagorol. Trwy ymchwil ac ymholi, byddwch yn archwilio dadleuon cyfoes ym maes Add. Gref. a CGM i’ch cefnogi i weithio gyda’n hysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd. Bydd y rhaglen Add. Gref. uwchradd yn rhoi’r hyder i chi addysgu byd-olwg crefyddol ac anghrefyddol a materion a phynciau cyfoes ar draws yr ystod oedran 11-18, gan gynnwys TGAU a Safon Uwch. Cewch gyfle i weithio’n agos â gwahanol bynciau’r Dyniaethau a Meysydd Dysgu a Phrofiad. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithio ag athrawon dan hyfforddiant TAR cynradd ar ddylunio’r cwricwlwm gan ganolbwyntio ar gynnydd i’r holl ddysgwyr.
Byddwch yn gallu rhannu eich brwdfrydedd dros y pwnc a defnyddio gweithgareddau creadigol ac atyniadol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd lle gwerthfawrogir Add. Gref. a CGM yn fawr. Mewn byd sy’n llawn o heriau moesegol a moesol, byddwch yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o grefydd, cred, diwylliant, cymuned a chynefin a all helpu i feithrin ymdeimlad o le a pherthyn.