Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Blas ar Ddysgu mewn Cynradd ac Uwchradd

Cwrs Blas ar Ddysgu mewn Cynradd ac Uwchradd

​Y​dych chi wedi meddwl dilyn gyrfa mewn dysgu?

Cwrs wythnos bydd yn rhoi rhagflas arbennig o yrfa mewn addysgu Ysgol Uwchradd Gymraeg neu Ysgol Gynradd Gymraeg.

Bydd y cwrs yn cynnig profiadau gwerthfawr anffurfiol (ddi-asesiad) lle byddwch yn cael y cyfle i brofi bwrwlm ysgol ac i archwilio gyrfa yn y proffesiwn cyffrous a phwysig yma ar ôl graddio.


Dyddiadau Cwrs Blas ar Ddysgu mewn Cynradd ac Uwchradd

Cwrs 1: Tachwedd/Rhagfyr 2023 - dyddiau i’w drefnu o gwmpas eich amserlen chi.

Cwrs 2: Mehefin 3-7, 2024


Sgwrs Cwrs Ar-lein

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am y cwrs hwn, ymunwch â’r cyflwyniad i’r Blas ar Ddysgu i ddarganfod mwy:

Dydd Llun 16 Hydref 2023, 3.30yp-4yp: Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod​




Cynnwys y Cwrs

Bydd y cwrs yn cynnwys dau ddiwrnod yn y Brifysgol a thridiau allan mewn naill ai ysgol gynradd neu uwchradd. Bydd y sesiwn cyntaf yn y Brifysgol ar gampws Cyncoed ar y dydd Llun yn cynnwys hyfforddiant mewn sawl agwedd gan gynnwys Diogelu Plant, Gofynion Proffesiynol addysgu a chyflwyniad i Gwricwlwm Cymru 2022.

Ar y dydd Mawrth, Mercher ac Iau, byddwch allan yn yr ysgol, yn cael amryw o brofiadau gan gynnwys cysgodi a chefnogi athrawon o fewn eich maes o ddiddordeb. Bydd diwrnod olaf nol yn y Brifysgol yn gyfle i chi drafod eich profiadau diweddar yn eich ysgolion a rhannu syniadau.

Byddwn yn cynnig gweithdy ymarferol yn cynnig arweiniad am ymgeisio am le ar y cwrs TAR yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, esbonio disgwyliadau cyfweld a chynnig cefnogaeth un i un. Cyfle gwych felly i baratoi eich ffurflen UCAS a manteisio ar brofiad tiwtoriaid TAR Addysg sydd yn rhan o’r system cyfweld.

Dyma gyfle arbennig i chi gael profiad ymarferol o addysgu mewn sector sydd yn chwilio am athrawon y dyfodol. Bydd hyn yn brofiad defnyddiol wrth feddwl ymlaen am yrfa yn y byd addysg, a bydd profiad felly’n cryfhau unrhyw gais am le yn y cwrs TAR cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gofynion Mynediad

Bydd disgwyl i chi fod yn siaradwr Cymraeg, a bydd y cwrs Blasu a’r profiadau ysgol trwy’r Gymraeg. Os ydych yn ansicr o lefel eich Cymraeg, bydd modd trafod hyn gyda’r tiwtoriaid cwrs cyn cadarnhau eich diddordeb.

Nod y cwrs hwn yw cynnig y cyfle i siaradwyr o wahanol gefndiroedd i weld a phrofi manteision dilyn gyfra Athro trwy’r Gymraeg. Felly - peidiwch â gadael i sgiliau Cymraeg ansicr eich rhwystro - bydd y staff yn y Brifysgol a’r ysgolion yn barod iawn i’ch helpu a chodi eich hyder!

Pwysig:

Bydd angen trefnu DBS cyn ymuno â’r cwrs a mynychu’r ysgol. Chi fydd yn gyfrifol am drefnu hyn, a bydd Derbyniadau yn gallu helpu gyda’r system DBA.

Sut i Wneud Cais

Llenwch eich gwybodaeth yn y ffurflen isod

Ffurflen Gais - Blas ar Ddysgu


Danfonwch y ffurflen hon at:

Cynradd

Gina Morgan
E-bost: GMorgan@cardiffmet.ac.uk

Uwchradd

Rhian Crooks-Williams
E-bost: RECrooks-Williams@cardiffmet.ac.uk

Cysylltu â Ni

Tiwtoriaid Blas ar Ddysgu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y profiad Cynradd, cysylltwch â:

Gina Morgan
E-bost: GMorgan@cardiffmet.ac.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y profiad Uwchradd, cysylltwch â:

Rhian Crooks-Williams
E-bost: RECrooks-Williams@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
1 wythnos

Mwy am y Cwrs
Blog
Manteisio ar bob cyfle: Fy mhrofiad ar y cwrs Blas ar Ddysgu ym Met Caerdydd

Dewch i glywed mwy am brofiadau Olivia o fanteisio ar y Cwrs Blas ar Ddysgu. Mae hi’n dweud wrthym am ei phrofiadau ar leoliad ysgol a sut y helpodd hyn i baratoi ar gyfer ymgeisio i’r cwrs TAR Addysg Gynradd ym Medi 2023.
Darllen mwy.

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms