Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio TAR mewn Mathemateg?
Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth am y pwnc. Yn y lle cyntaf, ceisiwch gwblhau detholiad o bapurau blaenorol TGAU Haen Uwch CBAC. Allwch chi gofio sut y cawsoch eich dysgu i ddatrys hafaliadau cwadratig, er enghraifft? A oes dulliau eraill nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt? Os felly, gwnewch rywfaint o ymchwil ar-lein a threialwch y dulliau addysgu hyn cyn cychwyn ar eich taith addysgu!
Ar ôl i chi fodloni eich hun gyda TGAU Haen Uwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyny ac i lawr y continwwm Mathemateg! Allwch chi gofio sut i gyflwyno differu o egwyddorion sylfaenol i fyfyriwr Blwyddyn 12? Rhywbeth sydd yr un mor bwysig, a fyddech chi’n gwybod sut i lywio sgwrs gyda disgybl Blwyddyn 7 sy’n gofyn, “Pam fod dau finws yn gwneud plws”? Cofiwch, nid yw mathemategydd gwych o reidrwydd yn golygu athro Mathemateg gwych. Fodd bynnag, gall athro Mathemateg gwych sydd hefyd yn fathemategydd gwych newid y byd.