Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio TAR yn y Gymraeg?
Datblygu a mireinio eich gwybodaeth bynciol. Yn gyntaf, ewch ati i gwblhau detholiad o gyn-bapurau TGAU CBAC. Allwch chi gofio sut y cawsoch eich dysgu i ddefnyddio pwyntiau gramadeg penodol fel treigladau, er enghraifft? A oes yna ddulliau eraill efallai nad ydych yn ymwybodol ohonynt? Os felly, gwnewch ychydig o waith ymchwil ar-lein a threialwch y dulliau addysgu hyn cyn cychwyn ar eich taith addysgu!
Unwaith y byddwch wedi bodloni eich hun gyda phapurau TGAU, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyny, i lawr ac ar draws y continwwm Cymraeg. Allwch chi gofio sut i gyflwyno cerdd newydd i fyfyriwr Blwyddyn 12? Neu a fyddech chi’n gwybod sut i lywio sgwrs gyda disgybl Blwyddyn 7 sy’n gofyn, “Pam rydyn ni’n dweud hynny?” Athro Cymraeg effeithiol yw person sydd â gwybodaeth bynciol gadarn ac yn gallu trosglwyddo hyn i’w dysgwyr gyda hwyl, eglurder a brwdfrydedd.
Bydd profiad ymarferol o fewn y dosbarth yn rhoi profiad diweddar a pherthnasol i chi ac yn eich galluogi i weld y datblygiadau ym myd addysgu Cymraeg ers eich cyfnod yn yr ysgol. Mae cyfleoedd fel gweithio fel cynorthwywyr cymorth dysgu neu drefnu cyfleoedd arsylwi yn ddefnyddiol iawn ac yn rhoi blas i chi o realiti addysgu’r Gymraeg.