Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Asesu Statws Ffioedd

Asesu Statws Ffioedd

​​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn eich ffurflen gais i bennu lefel y ffioedd y bydd yn rhaid i chi eu talu am y cwrs o'ch dewis. Rydym yn galw hyn y Statws Ffioedd ac rydyn ni'n dosbarthu myfyrwyr fel naill ai Cartref neu Rhyngwladol. Mae'r broses hon yn berthnasol i bob ymgeisydd ar gyfer ein prif raglenni campws yn ogystal â'n franchise partners.


Pennir statws ffioedd ymgeisydd gan staff Derbyniadau yn unol â chanllawiau UKCISA. Mae'r wybodaeth a roddwch yn eich cais fel arfer yn ddigonol i bennu statws eich ffi, ond os yw'n aneglur, byddwn yn anfon Ffurflen Asesu Statws Ffioedd atoch i benderfynu ar hyn. Bydd angen cwblhau hyn cyn gynted â phosibl a'i ddychwelyd i'r cyfeiriad e-bost a nodwyd, er mwyn i'ch cais barhau i gael ei ystyried. Bydd y brifysgol yn defnyddio'r ffurflen hon wedi'i chwblhau, ynghyd â'ch dogfennaeth ategol e.e. pasport, i bennu statws eich ffi.;

Os na ddychwelir y ffurflen o fewn yr amser penodedig, ynghyd â'r ddogfennaeth ofynnol, bydd eich cais yn rhagosod yn awtomatig i statws 'Rhyngwladol' at ddibenion ffioedd dysgu a chodir y gyfradd ffioedd uwch arnoch.


Nid yw statws ffioedd yn dibynnu'n llwyr ar genedligrwydd ond mae'n ystyried eich statws mewnfudo yn y DU, lle rydych chi wedi bod yn byw a'r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud am y tair blynedd cyn dechrau'ch cwrs. Gall fod yn gymhleth penderfynu ac, felly, mae'r wybodaeth a nodir isod ar gyfer arweiniad yn unig. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ffioedd cartref, byddai angen i chi ateb yn gadarnhaol i'r canlynol i ddechrau:   

  • Ydych chi'n Ddinesydd Prydeinig neu a oes gennych Hawl Amhenodol i Aros yn y DU?

  • Oes gennych chi Dystysgrif Hawl i Breswylio yn y DU?

  • Ydych chi fel arfer wedi bod yn preswylio yn y DU am 3 blynedd cyn 1 Medi eleni? (os oedd y prif reswm i chi fod yn y DU yn ystod unrhyw un o'r cyfnod hwnnw dros addysg amser llawn yna mae'n rhaid i chi ateb 'Na')


Gwneir asesiad o statws ffioedd yn unigol ac mae'n ystyried amgylchiadau pob ymgeisydd. Ni ellir cynnal asesiadau nes bod cais am dderbyniadau wedi'i wneud a bod y ddogfennaeth ofynnol wedi dod i law. Mae canlyniad asesiad statws ffioedd yn berthnasol ar gyfer mynediad i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn unig, ac nid yw hefyd yn cael unrhyw effaith ar eich statws gyda Cyllid Myfyrwyr Cymru/Student Loans Company. 

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch eich statws ffioedd ac angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r Pennaeth Derbyniadau​, Lisa Bowen: lbowen@cardiffmet.ac.uk. Os bydd ymgeisydd yn anhapus â chanlyniad asesiad ffioedd, gellir apelio cyn pen tri mis o’r canlyniad neu hyd at y pwynt cofrestru, pa un bynnag sy’n dod gyntaf. Dylid apelio i ddechrau i’r Rheolwr Derbyniadau ond ni chaiff ei brosesu ar ôl cofrestru ar gwrs. Mae unrhyw newidiadau i statws ffioedd ar ôl cofrestru yn fater i ddewis y Pennaeth Derbyniadau. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddiwygio statws ffioedd yn syth os daw rhagor o wybodaeth sy’n cwestiynu’r statws ffioedd i’r amlwg.

Am wybodaeth gyffredinol cyfeiriwch at Gyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU (UKCISA) yn www.ukcisa.org.uk.

Sylwch, mae statws ffioedd yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd cyn i chi gofrestru a dim ond ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr amgylchiadau eithriadol y gellir ei newid. Er enghraifft, os ydych wedi cael statws ffoadur neu ddinasyddiaeth DU. Os bydd eich amgylchiadau'n newid bydd angen i chi anfon y wybodaeth hon at y Pennaeth Derbyniadau ac efallai y bydd newid i'ch statws ffioedd yn cael ei ystyried ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.​