Dogfennau Ategol Gorfodol

​​​​Wrth gyflwyno cais trwy ein system Hunanwasanaeth ar gyfer cwrs Ôl-raddedig, Ymchwil neu Ran Amser, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys y dogfennau canlynol. Dylech fod yn ymwybodol na chaiff eich cais ei asesu hyd nes ein bod yn derbyn yr holl ddogfennau gorfodol:

- Datganiad Personol.

- O leiaf un Geirda Academaidd (neu eirda proffesiynol os nad ydych chi wedi bod mewn addysg am y 5 mlynedd diwethaf).

- Copi o dystysgrif gradd neu drawsgrifiad terfynol swyddogol. Os ydych chi'n dal i ymgymryd â'ch gradd israddedig ar yr adeg rydych chi'n cyflwyno'r cais, yna bydd angen ichi ddarparu trawsgrifiad interim swyddogol. Dylai hyn gynnwys eich enw, enw'r Brifysgol, teitl y cwrs, modiwlau a gymerwyd hyd yma a graddau ar gyfer y modiwlau hynny. Ni dderbynnir unrhyw ddogfen a gyflwynir heb y wybodaeth honno. Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd ddarparu'r ddogfen hon.

 

Ar gyfer rhaglenni sydd â gofynion ymgeisio ychwanegol, sydd i'w cwblhau ar y cyd â'r cais Hunanwasanaeth, gweler y tair cwymplen olaf.  Ar gyfer gwybodaeth ategol Ymchwil, cliciwch yma.

Datganiad Personol

Mae hon yn ddogfen orfodol ar gyfer pob cais. Os ydych chi'n ymgeisio ar gyfer mwy nac un cwrs, bydd angen ichi lanlwytho Datganiad Personol penodol ar gyfer pob cwrs.

Wrth gwblhau eich datganiad personol, cofiwch mai bwriad yr hyn rydych chi'n ei gyflwyno yw gwella'ch cais. Os bydd wedi'i lunio'n wael, gall gael effaith negyddol ar eich cais yn ei gyfanrwydd. Dyma'ch cyfle i ymhelaethu ar gymwysterau a phrofiad a restrir ar eich ffurflen gais, yn ogystal â manylu ar pam yr hoffech chi ymgymryd â rhaglen benodol.

Ymhlith y wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys y mae:

  • Pam yr hoffech chi ymgymryd â'r rhaglen
  • Elfennau'r rhaglen rydych chi'n awyddus eu hastudio
  • Cyflawniadau academaidd
  • Cyflawniadau allgyrsiol
  • Profiad gwaith/gwirfoddol perthnasol
  • Sgiliau perthnasol
  • Cynlluniau ar gyfer y dyfodol, pe bai eich cais yn llwyddiannus
  • Diddordebau

Cyfyngiad geiriau: Nid oes cyfyngiad geiriau penodol (oni nodir yn benodol ar gyfer rhai rhaglenni yn yr adrannau isod), fodd bynnag, fel canllaw, dylai oddeutu 500 gair fod yn ddigonol.

 

Curriculum Vitae

Hyd yn oed os nad yw CV yn ddogfen orfodol generig, gellir lanlwytho CV neu wybodaeth arall i wella'ch cais, er enghraifft i ddarparu gwybodaeth bellach ar hanes cyflogaeth.

Geirda

Mae angen o leiaf un geirda academaidd/proffesiynol ar bob rhaglen ar y cam ymgeisio. Mae rhaglenni sydd â gofynion geirda penodol wedi'u cynnwys ar y tabiau isod.

Canllawiau Geirda

Lluniwyd y wybodaeth hon i ddarparu cymorth ar gyfer dilysu geirda, ond mae'r nodiadau ar gynnwys er arweiniad cyffredinol yn unig. Pwrpas geirda a ddarperir yw gwirio ffaith neu farn trydydd parti er mwyn galluogi sefydliad academaidd i lunio barn ar addasrwydd ymgeisydd (rhaid gwahaniaethu'n glir rhwng ffaith a barn).

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael cytundeb gan eu canolwyr dewisol cyn darparu manylion gyda'u cais (ni chaniateir teulu, ffrindiau, neu debyg). Os ydych chi'n cytuno i ddarparu geirda ar gyfer ymgeisydd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, dylech gofio, o dan delerau'r Ddeddf Diogelu Data, y gall ymgeiswyr ofyn am gopïau o'u geirda ac unrhyw wybodaeth bersonol arall sydd gennym ar eu cofnod cais.

Gall canolwyr wrthod cais am eirda gan ymgeisydd os ydyn nhw'n teimlo, er enghraifft, bod ganddynt amheuon ynglŷn â'r wybodaeth y gallan nhw ei darparu. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu geirda, fodd bynnag, os ydynt yn cytuno i ddarparu geirda, mae canolwyr o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddefnyddio dyletswydd gofal o ran y wybodaeth y maent yn ei chyflwyno.

Oni nodir gofynion penodol isod, dyma ychydig o arweiniad cyffredinol i ganolwyr o ran darparu geirda i ymgeiswyr ar raglenni ôl-raddedig, rhan amser neu ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

 

 Geirda Academaidd Geirda Cyflogwr/Profiad Gwaith

- Am ba hyd a sut rydych chi'n adnabod yr ymgeisydd.

- Cadarnhau graddau a gyflawnwyd a/neu a ragwelir a theitl y rhaglen (mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn lle'n berthnasol).

- Lefel perfformiad a phynciau perthnasol a astudiwyd.

- Sylwadau ar gryfderau, sgiliau a galluoedd.

- Cymharu lefel perfformiad yr ymgeisydd yn ei garfan.

- Cymhellion yr ymgeisydd ar gyfer y rhaglen astudio.

- Mae croeso ichi ychwanegu unrhyw sylwadau perthnasol pellach sydd heb eu cynnwys yn y nodiadau uchod, a fyddai'n ein cynorthwyo i wneud penderfyniad.

- Am ba hyd a sut rydych chi'n adnabod yr ymgeisydd.

- Rôl ac am ba hyd mae'r ymgeisydd wedi bod yn y swydd.

- Dyletswyddau a safon y gwaith.

- Sylwadau ar gryfderau, sgiliau a galluoedd sy'n berthnasol i'r rhaglen yr ymgeisiwyd amdani.

- Moeseg gwaith.

- Cymhellion yr ymgeisydd ar gyfer y rhaglen astudio.

- Mae croeso ichi ychwanegu unrhyw sylwadau perthnasol pellach sydd heb eu cynnwys yn y nodiadau uchod, a fyddai'n ein cynorthwyo i wneud penderfyniad.

 

Rhaid i eirda beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth ffug, gamarweiniol neu rannol, a rhaid i'r ymgeisydd beidio â'i ysgrifennu, golygu na'i newid mewn unrhyw ffordd. Os canfyddir bod ymgeisydd wedi darparu ei eirda ei hun, neu wedi ei newid, gellir diddymu ei gais.

 

Cyflwyno geirda

Gall ymgeiswyr lanlwytho copi o'u llythyr geirda (wedi'i arwyddo ac ar bapur pennawd swyddogol) wrth wneud cais trwy'r system Hunanwasanaeth. Fel arall, gellir anfon llythyrau geirda'n uniongyrchol o gyfeiriad e-bost gwaith y canolwr at applications@cardiffmet.ac.uk. Sicrhewch y caiff manylion cyswllt eu nodi ar y llythyr geirda er mwyn dilysu.

Os bydd eich canolwr yn anfon eich geirda'n uniongyrchol atom, llwythwch ddogfen Word yn nodi hynny ar y system Hunanwasanaeth, fel arall ni fyddwch yn gallu parhau â'ch cais.

Yn gyffredinol nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr cyfredol Met Caerdydd ddarparu geirda academaidd, oni bai bod y rhaglen rydych chi'n ymgeisio amdani wedi'i chynnwys yn yr adrannau canlynol. Er mwyn medru cyflwyno'ch cais trwy'r system hunanwasanaeth, bydd angen ichi lanlwytho dogfen yn nodi eich bod chi'n fyfyriwr cyfredol, fel arall ni fydd y system yn caniatáu ichi barhau.

Cyrsiau Rhan Amser Israddedig - Dogfennau ategol ychwanegol

Cyrsiau Ôl-raddedig - Dogfennau ategol ychwanegol

Ysgol Gelf a Dylunio

Pob rhaglen Celf a Dylunio ôl-raddedig: copi o'ch portffolio.


MSc Dylunio Cynnyrch: copi o'ch portffolio a 2 Eirda Academaidd.


Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol

MA Ysgrifennu Creadigol: copi o'ch portffolio neu waith (uchafswm o 5,000 gair o ffuglen/ffeithiol greadigol/sgript, neu hyd at 6 cherdd); CV.


MA Addysg (Cymru): ar wahân i ddogfennau gorfodol generig:

- tystiolaeth QTS;

- geirda gan Bennaeth Ysgol neu uwch gydweithiwr/rheolwr perthnasol arall;

- Ffurflen Gais Atodol (Lanlwythwch y ddogfen hon fel 'Cais MA Addysg' ar y system hunanwasanaeth) a Ffurflen Cydnabod Dysgu Blaenorol, gellir lawrlwytho'r ddwy yma.

- Ffurflen a thystiolaeth Prawf o Breswyliad yng Nghymru. Lanlwythwch y ddogfen hon fel 'Prawf cyfeiriad' trwy'r system hunanwasanaeth.

- Tystysgrif priodas os yw'ch enw wedi newid ers i chi ennill eich gradd israddedig.


MA Addysg (a llwybrau): bydd angen ichi ddarparu: CVTrawsgrifiad Gradd Israddedig (neu drawsgrifiad swyddogol interim, os ydych chi'n dal i ymgymryd â'ch cwrs); Geirda:

- Cyn-fyfyriwr / myfyriwr cyfredol TAR Met Caerdydd: nid oes angen geirda.
- Cyn-fyfyriwr / myfyriwr cyfredol Israddedig Met Caerdydd: 1 Geirda Academaidd
- Arall: 2 Eirda Academaidd


MA Addysg mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Gwaith Ieuenctid): lanlwythwch eich CV os gwelwch yn dda.


MA Llenyddiaeth Saesneg: copi o'ch portffolio neu waith (un o'r canlynol: chwe cherdd; neu 2000 gair o ryddiaith; neu 2000 gair o ysgrifennu beirniadol; neu 5 munud o sgript); CV.


MA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: copi o bortffolio neu waith sy'n cynnwys enghraifft o'ch ysgrifennu beirniadol (megis traethawd israddedig); CV.


MSc Seicoleg mewn Addysg: o leiaf un Geirda Academaidd (hefyd yn orfodol i fyfyrwyr Met Caerdydd).

MA Newyddiaduraeth Arbenigol: copi o bortffolio neu waith sy'n cynnwys enghraifft o'ch ysgrifennu (gall hwn fod yn ddarn o newyddiaduraeth, blog neu draethawd israddedig); CV.


Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd

MSc Gwyddoniaeth Fiofeddygol: bydd angen ichi lanlwytho: 2 Eirda Academaidd (neu broffesiynol os nad yw'n berthnasol); copi o'ch Trawsgrifiad Gradd Israddedig (neu drawsgrifiad swyddogol interim, os ydych chi'n dal i ymgymryd â'ch cwrs); eich ffurflen dewis llwybr.

PgDip Deieteg: Ffurflen Grynhoi Credydau Gofynnol a Ffurflen gais RPL (hyd yn oed os nad ydych chi'n fodlon trosglwyddo credydau). 


MSc Seicoleg Fforensig: bydd angen i chi lanlwytho un Geirda Academaidd llawn (neu broffesiynol os nad yw'n berthnasol), hefyd ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd; Tystysgrif Gradd derfynol (neu drawsgrifiad swyddogol interim, os ydych chi'n dal i ymgymryd â'ch cwrs); cadarnhad o'ch Siarter Graddedig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.

PgDip Seicoleg Fforensig Ymarferydd: cliciwch y ddolen hon.


MSc Arweinyddiaeth ChwaraeonDatganiad Arweinyddiaeth Bersonol i'w lanlwytho fel 'dogfen benodol i'r cwrs 1' ar y system Hunanwasanaeth.

MSc Adsefydlu Chwaraeon: copi o'ch trawsgrifiad gradd. Os nad ydych chi wedi cwblhau eich gradd eto, darparwch drawsgrifiad interim swyddogol o'r modiwlau rydych chi wedi'u cwblhau hyd yma; un Geirda Academaidd (hefyd gan fyfyrwyr Met Caerdydd); CV.

 

Ysgol Reoli

MBA Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes: cliciwch y ddolen hon i weld y ddogfennaeth orfodol.

MBA Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes Gweithredol / MSc Marchnata Strategol / MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol / MSc Rheoli Marchnata Ffasiwn: 2 Eirda Academaidd.

Mae Gradd Meistr Ymchwil mewn Rheolaeth a Doethuriaeth mewn Rheolaeth yn gofyn am gynnig ymchwil gyda'r cais. Gellir gweld manylion am gynnwys cynigion ymchwil ar gyfer yr Ysgol Reoli yma


Cyrsiau PCET

TAR / PCE Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol: ffurflen gais ychwanegol. Arbedwch y ffurflen hon o dan 'Dogfen benodol i'r cwrs 1' ar y system hunanwasanaeth. Bydd hefyd angen ichi ddarparu 2 eirda a'ch CV.