Astudio>Ffioedd a Chyllid>Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau

Er mwyn cynorthwyo gyda chost astudio yn y Brifysgol, mae Met Caerdydd wedi creu ystod o gynlluniau bwrsariaeth ac ysgoloriaeth. Gallwch weld ein L​lyfryn Bwrsariaethau ac Ysgolriaethau i gael trosolwg cyflym o'n gwobrau.

 

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Israddedig

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Ôl-raddedig

 

 

Mae'r holl gynlluniau a restrir ar ein tudalennau gwe Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr Cartref yn unig (ac eithrio cynllun Ysgoloriaeth Ryngwladol yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a'r Dyrarniad Noddfa). Mae'r Dyfarniad Noddfa Met Caerdydd wedi'i anelu at bobl sydd â statws mudo afreolaidd, fel ceiswyr lloches a ffoaduriaid, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer mynediad cyfartal i Addysg Uwch. Ewch i dudalen Dyfarniad Noddfa i gael mwy o wybodaeth.

 

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am Ysgoloriaethau Ymchwil cliciwch yma.

Os ydych chi'n dilyn cwrs a ariennir gan y GIG, gallwch ddod o hyd i fanylion Bwrsariaeth y GIG a chymorth ychwanegol gan Met Caerdydd yma.

Os ydych chi'n Fyfyriwr Rhyngwladol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Rhyngwladol yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gallech ffeindio mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yma.

Os ydych chi'n wynebu anawsterau ariannol, mae gennym Gynghorwyr dynodedig yn ein Tîm Cyngor Arian sy'n gallu cynnig cyngor ar gyllid, cyllidebu a rheoli arian, a chymorth ariannol.

 

Opsiynau Bwrsariaeth Allanol Eraill

Y tu allan i Met Caerdydd, gall fod opsiynau cyllido ar gael i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Rydym wedi rhestru rhai o'r opsiynau y daethom o hyd iddynt sydd ar gael yma.

I gael opsiynau cyllido pellach, gallwch hefyd gysylltu â'n Tîm Cyngor Arian ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk


Cwynion

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn bwriadu sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr am weithdrefnau mor fanwl a chywir â phosibl. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn adolygu ac yn monitro pob mater yn rheolaidd i sicrhau bod y broses mor deg a thryloyw â phosibl. Mae gweithdrefn gwynion ar waith ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn hapus â'r gwasanaeth a ddarparwyd iddynt. I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau cwyno ffurfiol, cliciwch yma.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau a restrir ar y wefan hon, cysylltwch â ni ar scholarship@cardiffmet.ac.uk

 

Dyfernir y grant/cymorth ariannol hwn yn unol â gofynion ein Polisi Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.