Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gael ei hadnabod fel rhywle sy’n cynnal ystod eang o gyrsiau Ôl-raddedig, Rhan-amser a Phroffesiynol poblogaidd sy'n canolbwyntio ar yrfa, sydd yn hyblyg a byr: yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â bywydau prysur. Fe'u cyflwynir gan arbenigwyr, gan roi'r sicrwydd rhagoriaeth hwnnw i bawb y mae’n deg inni fod yn falch ohono.
P'un a ydych am astudio ar sail amser llawn neu ran-amser, bydd ein staff yn ymdrechu i ddarparu'r cymhelliant, y gefnogaeth a'r anogaeth briodol sydd eu hangen arnoch. Mae ein myfyrwyr rhan-amser yn ymgeisio am nifer o resymau: mae rhai yn astudio i ennill cymwysterau proffesiynol a datblygu gyrfa, mae eraill yn dychwelyd i astudio ar ôl blynyddoedd lawer i ffwrdd, ac mae rhai eisiau cadw'n brysur ar ôl ymddeol. Beth bynnag fo eich rheswm dros ddewis astudio, byddwn yn cynnig pob cymorth i gefnogi'ch cais.
I gael rhagor o wybodaeth am ein Cyrsiau Rhan Amser, Ôl-raddedig a Phroffesiynol o ansawdd uchel, ac i ddod o hyd i raglen sy'n addas i'ch anghenion chi, ewch i gael golwg ar ein rhestrau cyrsiau ôl-raddedig a
rhan-amser.
Gwneud Cais Ar-lein (Ymgeiswyr Cartref / Ymgeiswyr UE sydd â Statws Preswylydd Sefydlog
Os ydych chi'n ymgeisydd sy'n hanu o'r UE ond sydd wedi ennill Statws Preswylydd Sefydlog/Cyn-sefydlog, a'ch bod wedi byw yn y DU am o leiaf 3 blynedd cyn dechrau'r cwrs, gallwch wneud cais fel
Myfyriwr cartref. Sylwer y bydd angen ichi lanlwytho tystiolaeth o'ch statws preswylio yn y DU ar ein system hunanwasanaeth, ynghyd â chopi o'ch pasbort, a gaiff ei wirio yn ystod y cam ymgeisio.
Cyflwynir ceisiadau ar-lein trwy
Hunanwasanaeth, a bydd gofyn ichi lanlwytho
dogfennau ategol gorfodol fel cymwysterau. Gallwch weld canllaw cam wrth gam ar gyfer ein Hunanwasanaeth
yma.
Os hoffech lenwi ffurflen gais trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â ni yn uniongyrchol arDerbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Gallwch arbed eich cais a dychwelyd i'w gyflwyno’n ddiweddarach, ond os na chaiff eich cais ei gyflwyno cyn pen 6 mis, bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu. Ar ôl ei gyflwyno, byddwch yn gallu mewngofnodi a gwirio cynnydd eich cais.
Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer Ymgeiswyr yr UE
Os wnaethoch ymgymryd â'ch cymwysterau Addysg Uwch y tu allan i'r DU, bydd angen ichi ddarparu cyfieithiadau swyddogol. Bydd gofyn ichi hefyd ddarparu tystiolaeth o 6.5 IELTS (neu gyfwerth, gweler yr enghraifft
yma), a gymerwyd o fewn y 2 flynedd ddiwethaf (lleiafswm o 6 ym mhob elfen). Gwiriwch dudalennau gwe’r cyrsiau, gan fod angen mwy na 6.5 ar rai cyrsiau.
Sylwer: rhaid i geisiadau ar gyfer cyrsiau Hyfforddiant Athrawon TAR Cynradd ac Uwchradd gael eu gwneud trwy
Hyfforddiant Athrawon UCAS, ond dylid gwneud ceisiadau ar gyfer PCE /TAR (PCET) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol trwy’r
Hunanwasanaeth.
Gwneud Cais Ar-lein (Ymgeiswyr UE (heb Statws Preswylydd Sefydlog/Cyn-sefydlog) / Rhyngwladol)
I ymgeisio ar-lein, cliciwch
yma i gael mynediad at y System Ymgeisio Ar-lein Ryngwladol.
Camau'r Cais
- Dewiswch raglen astudio.
- Gwiriwch a oes gan y rhaglen
ddyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau, a nodir ar eu gwefan.
- Cyn cychwyn eich cais ar-lein, gwnewch yn siŵr bod gennych
Ddatganiad Personol, copi o gymwysterau ac o leiaf un geirda academaidd yn barod i'w lanlwytho. Nid yw'n ofynnol i gyn-fyfyrwyr neu fyfyrwyr cyfredol Met Caerdydd lwytho cymwysterau na geirda academaidd. Mae'n
hanfodol eich bod chi hefyd yn gwirio'r
Dogfennau Ategol Gorfodol. Mae angen gwybodaeth benodol ar rai rhaglenni e.e. templedi geirda neu ffurflenni ychwanegol.
- Os ydych chi'n gwneud cais am
Gydnabod Dysgu Blaenorol, cyfeiriwch at y ddolen Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) ar y chwith.
Rhaid gofyn am RPL yn ystod y cam ymgeisio, hyd yn oed os ydych chi'n gyn-fyfyriwr neu'n fyfyriwr presennol ym Met Caerdydd, gan nad yw'n broses awtomatig.
- Gwnewch gais ar-lein, gan sicrhau bod yr
holl ddogfennau gofynnol yn cael eu lanlwytho. Os bydd yr adran Dderbyniadau’n cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth ychwanegol/ar goll, na ddarparwyd wrth gyflwyno'ch cais, bydd angen ichi ddarparu hon o fewn mis. Os na fyddwn yn clywed gennych o fewn yr amser hwn, byddwn yn tybio nad ydych am gael eich ystyried ar gyfer y cwrs mwyach a gellir tynnu'ch cais yn ôl.
-
Gall ceisiadau gymryd
2-4 wythnos i'w hystyried o'r eiliad yr ydym yn derbyn yr holl ddogfennau gorfodol.
-
Os bydd angen, fe'ch gwahoddir i gael
cyfweliad.
-
Os byddwch yn llwyddiannus,
darperir llythyr cynnig swyddogol gan yr adran Dderbyniadau.
-
Gallwch dderbyn eich cynnig trwy fewngofnodi i Hunanwasanaeth, neu drwy gysylltu â ni ar offers@cardiffmet.ac.uk.
-
Os yw'ch cynnig yn
amodol ar:
- GDG: sylwer na fyddwch yn derbyn cyfarwyddiadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd nes ichi dderbyn eich cynnig.
- gyflawni 2:1/2:2 ar gyfer eich gradd israddedig gyfredol: bydd angen ichi anfon copi o'ch trawsgrifiad neu dystysgrif terfynol atom dros e-bost. Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr cyfredol Met Caerdydd.
11. Unwaith y bydd yr amodau wedi'u bodloni (os yn berthnasol) byddwch yn derbyn
gwybodaeth ymuno a chofrestru. Mae'n hanfodol eich bod chi’n derbyn eich lle i'ch galluogi chi i dderbyn eich gwybodaeth ymuno (statws Diamod Cadarn).
Myfyrwyr Blaenorol/Cyfredol Met Caerdydd
Os ydych chi wedi astudio ym Met Caerdydd o'r blaen, neu'n dal i astudio gyda ni, bydd gennych chi gofnod myfyriwr eisoes y gallwch ei gyrchu trwy Hunanwasanaeth. Bydd angen ichi ddefnyddio'r un manylion mewngofnodi wrth wneud cais am raglen newydd. Os ydych chi wedi anghofio eich manylion mewngofnodi neu os gadawoch y brifysgol sawl blwyddyn yn ôl ac nad oes gennych fanylion mewngofnodi, gallwch ofyn am gyfrinair newydd/gwirio'ch enw defnyddiwr ar dudalen fewngofnodi’r Hunanwasanaeth. Fodd bynnag, os ydych chi'n dal i gael anhawster, cysylltwch â ni ar Derbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar gyfer Dyledwyr neu sy'n ymwneud â Statws Academaidd Gwael yn y Polisi Derbyniadau ar
hafan y Cyngor i Ymgeiswyr.
Dogfennau Ategol Gorfodol, Datganiadau Personol a Geirda
Cyn gwneud eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y dudalen
Dogfennau Ategol Gorfodol.
Mae gan rai rhaglenni ddogfennau penodol y mae angen eu cyflwyno yn ystod y cam ymgeisio.
Newidiadau a Dod â Rhaglenni i Ben
Mae Met Caerdydd yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr ar raglenni a gynigir mor gywir a diweddar â phosibl. Fodd bynnag, adolygir rhaglenni astudio yn barhaus ac mae'n ddigon posibl y bydd rhai newidiadau rhwng yr amser cyhoeddi a'r amser y bydd myfyriwr yn cychwyn y rhaglen. Mae cynnal rhaglenni Prifysgol hefyd yn amodol ar niferoedd, yn yr ystyr bod angen i nifer penodol o fyfyrwyr ymgymryd â'r rhaglen er mwyn iddi fod yn ddichonadwy.
Pan wneir newidiadau neu pan ddaw rhaglen i ben, hysbysir ymgeiswyr cyn gynted â phosibl, cyn derbyn y cynnig o le os gellir, fel y gall ymgeiswyr ystyried rhaglen arall ym Met Caerdydd neu rywle arall. Os penderfynir dod â rhaglen i ben ar ôl i ymgeiswyr gael cynnig lle, bydd yr adran Dderbyniadau’n gwneud pob ymdrech i gynnig dewisiadau amgen perthnasol a darparu cymorth i ymgeiswyr ddod o hyd i'r dewis arall hwnnw.
Os cynigir lle iddynt ar raglen lle nad yw ei dichonoldeb yn sicr, ni fydd ymgeiswyr â chynigion diamod yn gallu cofrestru nes y caiff dichonoldeb y cyfnod astudio a gynigir ei gadarnhau. Bydd ymgeiswyr yr effeithir arnynt yn derbyn diweddariadau a chadarnhad ynghylch pryd y gallant hunan-gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i raglenni, cyfeiriwch at yr ymwadiad sydd wedi'i gynnwys yn y
Llawlyfr y Myfyrwyr y byddwch chi'n ei dderbyn fel rhan o'ch cyfarwyddiadau ymuno cyn dechrau'ch rhaglen. .
Telerau ac Amodau