Ysgol Reoli Caerdydd>Ymchwil>Sut i Wneud Cais

Sut i Wneud Cais

Diolch am eich diddordeb mewn astudio ar gyfer PhD yn Ysgol Reoli Caerdydd. 

Mae proses ymgeisio ffurfiol ar gyfer graddau ymchwil, felly bydd angen i'ch cais fynd drwy ein Swyddfa Ryngwladol yn y lle cyntaf neu Uned Dderbyn myfyrwyr y DU/UE. Hefyd, os derbynnir unrhyw gynigion, caiff yr holl fyfyrwyr eu cyfweld fel rhan o'r broses ymgeisio (gellir gwneud hyn drwy Skype Teams neu MS), cyn gwneud unrhyw gynnig. 

Mae canllawiau ar gael ar gyfer y cynnig ymchwil sydd angen ei gyflwyno gydag unrhyw gais ffurfiol. I gael ei ystyried, mae angen i ymgeisydd gyflwyno cais llawn ynghyd ag un cynnig ymchwil manwl ar ffurf WORD (fformat Ariel 12 heb liw) o tua 2,000 o eiriau. 

Mae'r ffurflen gais a'r gofynion ar gael yn: 

Cais Myfyrwyr Rhyngwladol a'r EU

Cais Myfyrwyr Cartref

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol sy'n ymwneud â Graddau Ymchwil gallwch ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau Graddau Ymchwil

I gael manylion llawn am ffioedd dysgu myfyrwyr amser llawn neu ran-amser, dilynwch y ddolen hon (sylwch nad oes unrhyw ysgoloriaethau ar gael o fewn yr Ysgol) https://www.cardiffmet.ac.uk/study/Finance/documents/2021-2022-fee-Tables.pdf (gweler tudalen 3 am ffioedd rhaglen gradd ymchwil). 

Nodwch y gall gymryd amser i brosesu ceisiadau, ac fel arfer, gall gymryd 6-8 wythnos i dderbyn penderfyniad terfynol. Rydym yn ystyried ansawdd a phriodoldeb y cynnig ymchwil, yn ogystal â'r ffaith bod goruchwylwyr gradd ymchwil ar gael. Rydym yn ystyried pob cynnig ymchwil ar sail teilyngdod a gallwn ofyn i ymgeiswyr adolygu ac ailgyflwyno cyn dod i benderfyniad terfynol, os credwn god potensial i'r ymchwil arfaethedig. Mae'r rhaglen PhD yn derbyn myfyrwyr deirgwaith y flwyddyn (mis Medi, Ionawr ac Ebrill), ddwywaith y flwyddyn (Medi ac Ebrill) i'r Ddoethuriaeth Broffesiynol, ac unwaith y flwyddyn ar gyfer y rhaglen DMan.