Mae’r rhaglen Sylfaen hon mewn Gwyddorau Iechyd wedi’i anelu at y rhai sy’n dymuno ymrestru ar raglen wyddonol raglen radd anrhydedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer y rhai heb gyflawni’r nifer ofynnol o bwyntiau lefel A (A2 neu gyfwerth). Mae hefyd ar gyfer neu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio pynciau Lefel A (neu eu cyfwerth) mewn meysydd sydd ddim yn darparu’r cefndir angenrheidiol yn nisgyblaethau’r rhaglen radd Anrhydedd o’u dewis.
Nod arall y cwrs ydy ehangu mynediad a chyfranogiad ar gyfer myfyrwyr sy’n ‘dychwelyd i ddysgu’ sydd yn dymuno cychwyn ar radd anrhydedd mewn Gwyddoniaeth.
Cynnwys y Cwrs
Bydd y rhaglen yn rhan annatod o’r rhaglenni gradd Anrhydedd isod a gynigir o fewn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Bydd gwneud y flwyddyn sylfaen yn golygu y bydd yn cymryd blwyddyn ychwanegol i gwblhau'r radd anrhydedd llawn amser berthnasol. Bydd y flwyddyn sylfaen yn gweithredu fel Blwyddyn 0 a bydd myfyrwyr sy’n dymuno gwneud y flwyddyn sylfaen yn gwneud cais am y rhaglen radd berthnasol gan ddefnyddio’r cod UCAS perthnasol ar gyfer y rhaglen honno a gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS.
BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol
BSc (Anrh) Gwyddorau Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer a Maethiad)
BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd
BSc (Anrh) Gwyddor a Thechnoleg Bwyd
BSc (Anrh) Maethiad
BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer
BSc (Anrh) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon
Gall ymgeisiwyr hefyd wneud cais i’r flwyddyn sylfaen os ydyn nhw’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer mynediad i un o’r rhaglenni gradd canlynol, gan ddefnyddio'r côd UCAS perthnasol ar gyfer y rhaglen a gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS:
BSc (Anrh) Technoleg Deintyddol
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd
BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Dieteteg
BSc (Anrh) Podiatreg
Dylai ymgeiswyr wneud cais erbyn 25 Ionawr. Ni ellir gwarantu cyfweliad a/neu ystyriaeth i geisiadau sydd yn cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn. Ar gyfer y rhaglenni hyn, ac eithrio Technoleg Deintyddol, caiff ymgeiswyr eu gwahodd i gyfweliad. Os bydd ymgeiswyr yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd gofyn iddyn nhw basio’r cwrs sylfaen erbyn 31 Awst eu blwyddyn mynediad, ar y cyfle cyntaf. Ewch i dudalennau rhaglenni unigol i weld yr hyn y mae gofyn ei gyflawni o fewn y cwrs sylfaen.
Bydd y rhaglen sylfaen yn datblygu’ch hyder a’ch cymhwysedd i gaffael y sgiliau astudiaeth sydd eu hangen i gychwyn ar radd Anrhydedd yn seiliedig ar wyddor iechyd, tra’n eich cyflwyno i fanc sylfaenol o wybodaeth y byddwch yn gallu adeiladu arno naill drwy’r broses o hunan-astudiaeth neu drwy raglenni pellach o astudiaeth dan gyfarwyddyd. Byddwch yn cymryd rhan lawn o fywyd prifysgol a’r gymuned myfyrwyr o’r diwrnod cyntaf. Cewch eich addysgu ar gampws Llandaf gydag ystod o opsiynau llety i chi eu hystyried. Efallai y byddai rhai ohonoch chi sydd ar y llwybr Chwaraeon yn dymuno gwneud cais am un o’n neuaddau preswyl ar gampws Cyncoed lle mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddor Iechyd wedi’i lleoli, sydd ond yn daith fer ar y bws o’r lle cewch eich addysgu.
Mae’r rhaglen yn cynnwys chwe 20 credyd lefel 3 fel a ganlyn:
Tymor 1
Sgiliau Academaidd Tymor 1 (20 credyd)
Gwyddoniaeth Sylfaenol (20 credyd)
Cyflwyniad i Wyddorau Labordy a Dadansoddi Data (20 credyd)
Tymor 2
Gwyddorau Biolegol (20 credyd)
Gwyddorau Cemegol (20 credyd)
Gwyddorau Labordy Cymhwysol a Dadansoddi Data (20 credyd)
Caiff elfennau o Gynllunio Datblygiad Personol (CDP) eu hymgorffori yn y modiwl Sgiliau Academaidd mewn Gwyddorau Iechyd. Yn ogystal, caiff y myfyrwyr gyfle i dderbyn cyfarwyddyd ar natur, sgôp a rhagolygon cyflogaeth y rhaglenni israddedig Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd gan Gyfarwyddwyr y Rhaglenni.
Dysgu ac Addysgu
Cyfarwyddwr Rhaglen sy’n gyfrifol am drefniant a gweithredu’r rhaglen yn gyffredinol.
Bydd
Arweinwyr Modiwl yn cydlynu cyflenwi ac asesu pob modiwl.
Neilltuir
Tiwtor Personol ar eich cyfer yn ystod yr wythnos gyntaf a hwn/hon fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw anawsterau fyddai gennych. Cynhelir tiwtorialau bugeiliol yn gyson drwy gydol y rhaglen pan gewch gyfle i drafod unrhyw fater penodol i chi gyda’r Tiwtor Personol.
Sut bydd tîm y rhaglen yn eich helpu i ddysgu
Dulliau Asesu
Asesir y rhaglen Sylfaen yn barhaus drwy gydol y flwyddyn. Asesir mwyafrif y modiwlau drwy gyfuniad o arholiadau/profion yn y dosbarth a gwaith cwrs, ac mae gofyn i’r myfyrwyr roi cynnig ar holl elfennau’r asesiad er mwyn cwblhau’r modiwlau yn llwyddiannus. Bydd arweinwyr modiwl yn cadarnhau dadansoddiad o’r patrwm asesu gyda’r myfyrwyr yn ystod yr Wythnos Sefydlu. Caiff y meysydd hyn eu cyflwyno eto yn fwy manwl yn ystod yr wythnos gyntaf o addysgu a’u hystyried drwy gydol y flwyddyn.
Rheoliadau’r Rhaglen, presenoldeb a chodau ymarfer.
Mae gofyn i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn addysgu, gwneud yr holl asesiadau a dangos parch tuag at eu cymheiriaid, tiwtoriaid a’r sefydliad. Bydd cyfarwyddyd llawn ar fanylion y rheoliadau/codau ymarfer a ble i ddod o hyd i’r wybodaeth yn sail i’r sesiynau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Sefydlu. Mae’n bwysig bod pawb yn mynychu’r sesiynau hyn.
Llyfrau/Adnoddau/Cymorth i fyfyrwyr a’u dysg
Argymhellir nifer o werslyfrau ar gyfer pob modiwl ar gychwyn yr addysgu.
Darperir ystod o gymorth ar gyfer myfyrwyr sy’n cynnwys y ddarpariaeth ganlynol:
- Creu amgylchedd dysgu cefnogol
- Manylion cyn-ymrestru a rhaglen sefydlu gynhwysfawr
- Llawlyfr israddedigion Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Llawlyfr rhaglen myfyrwyr a chyfarwyddyd manwl ar gyfer y modiwl
- Pecynnau Llyfrgell a sgiliau astudio
- Llyfrgell ac adnoddau dysgu
- Cyfleusterau TG, yn cynnwys Rhith Amgylchedd Dysgu Moodle (VLE) a llwyfannau ar-lein eraill
- Tiwtor Personol
- Labordai gwyddonol arbenigol a llwyfannau ar-lein megis 'Labster'
- Gweithdai pwrpasol galw heibio i gynorthwyo cynnwys modiwl Lefel 3
- Gweithdai pwrpasol Cemeg a Ffisioleg galw heibio i gynorthwyo cynnwys modiwl Lefel 3
- Mynediad i ystod o wasanaethau cymorth myfyrwyr
Asesu
Asesir mwyafrif o’r modiwlau drwy gyfuniad cytbwys o arholiadau ysgrifenedig cyffredinol, gwaith aseiniad a, lle bo’n berthnasol, portffolio ymarferol a phob elfen yn cael ei phwysoli yn unol â hynny.
Lluniwyd yr asesu i fod yn fwy heriol ac yn fwy dyrys wrth i’r rhaglen fynd rhagddi. Asesir canlyniadau dysgu penodol gan ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ynghyd ag arholiadau llyfr caeëdig ffurfiol a phrofion yn y dosbarth. Mae gwaith cwrs yn amrywio o gwestiynau atebion byr, aseiniadau cyfeiriedig a thraethodau, adroddiadau ymarferol, ymarferion datrys problemau a dadansoddi data ynghyd â chyflwyniadau llafar. Tîm pob modiwl sy’n penderfynu ar yr ystod o ddulliau asesu mwyaf priodol a ddefnyddir.
Bydd tiwtorialau personol ac amserlen yr asesiadau yn darparu archwiliad parhaus o weithgaredd dysgu effeithiol.
Bydd myfyrwyr yn cael amserlen asesu ar gyfer pob modiwl a bydd yn manylu ar y cydbwysedd rhwng gwaith cwrs ac arholiadau a dyddiadau unrhyw aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau. Bydd marc cyffredinol am y modiwl yn cyfannu ar berfformiad myfyriwr.
Yn ychwanegol at y rheoliadau asesu cyffredinol, ceir nifer o reoliadau penodol i raglen sef:
Cyflwyno Gwaith Cwrs yn Hwyr
Hysbysir myfyrwyr yn ysgrifenedig o'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith cwrs. Oherwydd yr angen addysgol i fyfyrwyr ddysgu hunan-reolaeth ac i’r Brifysgol brosesu marciau cyn gynted â phosibl, rhaid pwysleisio bod rhaid cwrdd â’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith. Cyfrifoldeb y myfyriwr ydy sicrhau bod y gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno mewn modd priodol ac i dderbyn cadarnhad ysgrifenedig iddo gael ei dderbyn.
Rhaid i fyfyrwyr sy’n gwybod, oherwydd salwch neu am reswm da arall, na allan nhw gyflwyno aseiniad ar amser, wneud cais ysgrifenedig am estyniad a chyflwyno apêl ar ffurflen 'Apelio am Amgylchiadau Lliniarol' i’w hystyried gan y Pwyllgor Ysgol perthnasol. Cyfrifoldeb Cyfarwyddwr y Rhaglen ydy llofnodi’r ffurflen cyflwyno aseiniad mewn modd priodol lle caniatawyd yr estyniad.
Ystyrir bod cyflwyniad hwyr yn waith heb ei gyflwyno oni bai bod yr Apêl am Amgylchiadau Lliniarol wedi cael ei chaniatáu.
Asesu modiwl
Fel arfer, tybir bod myfyriwr wedi pasio modiwl os ydy wedi cael marc o 40% neu uwch. Tybir mai marc pasio â Rhagoriaeth ydy cyflawni 70% neu uwch. Does dim darpariaeth am ddyfarnu Teilyngdod yn y modiwlau Sylfaen. Ystyriaethau eraill yn asesiad modiwlau yn y rhaglen hon ydy:
- Rhaid ceisio pob elfen o asesiad o fewn pob modiwl cyn y gellir cyfrifo marc modiwl
- Rhaid cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus cyn cael caniatâd i symud ymlaen i Lefel Academaidd uwch
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr, fel arfer, 5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Mamiaith), Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu ynghyd ag un o’r canlynol:
- 56 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth ar safon priodol mynediad ar gyfer Blwyddyn 1 Addysg Uwch, ond mewn meysydd pwnc sy’n methu â chwrdd â gofynion mynediad y rhaglen radd israddedig o’u dewis.
- 56 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth mewn meysydd pwnc perthnasol i’w rhaglen radd israddedig o’u dewis, ond ar safon sy’n methu â chyrraedd gofynion mynediad i Addysg Uwch Blwyddyn 1
- Gellid ystyried darpar fyfyrwyr sydd dim yn cwrdd â’r meini prawf uchod, yn unigol ac efallai cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad.
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll arholiad diwygiedig TGAU mewn Mathemateg, byddwn yn derbyn naill ai TGAU
Mathemateg neu
Mathemateg – Rhifedd.
Derbynnir cyfuniadau o'r cymwysterau uchod os ydynt yn bodloni ein gofynion sylfaenol. Os nad yw'ch cymwysterau wedi'u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cyrsiau UCAS. Mae rhagor o wybodaeth am gymwysterau Tramor ar gael
yma.
Datganiad Personol
Sicrhewch fod eich datganiad personol yn eich cais UCAS yn cyfeirio’n glir at faes eich diddordeb. Gweler y gofynion ychwanegol isod ar gyfer rhaglenni penodol:
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd:
Dylai disgwyliadau ac ymwybyddiaeth o’r rhaglen ac uchelgais gyrfaol o ran Gwyddor Gofal Iechyd fod yn amlwg.
BSc (Anrh) Technoleg Deintyddol:
Dylid rhestru’n glir unrhyw brofiad gwaith a gwybodaeth am waith technolegydd deintyddol yn cynnwys pryd a ble ymgymerwyd â hyn ynghyd â thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu.
BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Dieteteg:
Dylid rhestru’n glir unrhyw brofiad gwaith a gwybodaeth am waith dietegydd yn cynnwys pryd a ble ymgymerwyd â hyn ynghyd â thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu.
BSc (Anrh) Podiatreg:
a) Bod wedi trefnu i arsylwi podiatryddion/trinwyr traed wrth eu gwaith mewn clinig.
b) Meddu ar ymwybyddiaeth sylfaenol o sgôp podiatreg a gwaith bob dydd podiatrydd
c) Arddangos brwdfrydedd dros ac ymrwymiad i faes podiatreg fel dewis o yrfa.Arddangos brwdfrydedd dros ac ymrwymiad i faes podiatreg fel dewis o yrfa.
d) Meddu ar ymwybyddiaeth sylfaenol o alwadau hyfforddiant podiatreg.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r
tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Gweithdrefnau Dethol
Dewisir, fel arfer, ar sail derbyn ffurflen gais gyflawn UCAS. Mewn rhai amgylchiadau, gallai ymgeiswyr, yn ôl disgresiwn arweinydd y rhaglen, gael eu gwahodd i fynychu cyfweliad.
Mae’r rhaglenni canlynol yn gofyn bod ymgeiswyr yn mynychu cyfweliad fel rhan o’r broses dethol:
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd*
BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Dieteteg*
BSc (Anrh) Podiatreg*
*Dilyn dyddiad cau Ionawr 25 oherwydd y broses cyfweld. Ni ellir gwarantu cyfweliad i geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.
Os ydych yn ymgeisydd aeddfed, gyda phrofiad perthnasol yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Wneud Cais:
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael
yma.
Myfyrwyr aeddfed
Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach
yma.
Cysylltu â Ni
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau
penodol i’r cwrs sylfaen yn unig, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen:
Dr Paul Foley:
E-bost:
PFoley@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 205632
Ar gyfer ymholiadau am raglenni gradd unigol, cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs perthnasol i gael y manylion cyswllt.