Mae’r llwybr Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth), a achredwyd yn broffesiynol ac a gynhelir ym Met Caerdydd, yn ffocysu ar astudiaeth wyddonol o holl agweddau ar y ffordd o fyw a’r strategaethau y gellir eu defnyddio i wella iechyd. Rydyn ni’n flaenllaw ym maes astudiaeth fiofeddygol arloesol o argyfyngau iechyd megis anweithgarwch corfforol a gordewdra.
Rhoddir pwyslais ar y rôl y mae ymarfer corff, hybu iechyd a maeth yn ei gyfrannu at y diben hwn. Mae’r llwybr Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth) hwn yn cynnwys cyfres o fodiwlau sylfaenol seiliedig ar wyddoniaeth mewn ffisioleg ddynol, maeth, biocemeg a seicoleg.
Mae’r llwybr wedi’i achredu gan y Gymdeithas Frenhinol Bioleg at ddiben cwrdd yn rhannol â’r gofyniad academaidd a phrofiad ar gyfer Aelodaeth a Biolegydd Siartredig (CBiol).
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Cynnwys y Cwrs
Llwybr Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth):
Lluniwyd y modiwlau i’ch galluogi i ddeall y rhyngweithio sy’n digwydd rhwng ein cyrff a’n meddyliau a’r amgylchedd yr ydyn ni’n byw ynddo. Ategir y rhain gan fodiwlau yn seiliedig ar ymarfer ym maes ffisioleg ymarfer clinigol, seicoleg chwaraeon ac ymarfer, addasiad metabolig i ymarfer, maethiad iechyd y cyhoedd, maethiad chwaraeon ac ymarfer a meddyginiaethau chwaraeon. Bydd y modiwlau hyn yn eich galluogi i ddeall a rhagweld sut mae’r corff yn ymateb i ymarfer ac i ystyried y strategaethau y gellir eu defnyddio i wella iechyd, ffitrwydd a pherfformiad.
Thema bwysig drwy gydol y cwrs fydd ystyried effaith gaiff ffordd o fyw ar iechyd. Byddwch yn dysgu sut y gallai newidiadau priodol i’r ffordd o fyw, megis ymarfer a deiet iach fod yn effeithiol i atal clefydau megis clefyd siwgr, clefydau’r galon a strôcs. Bydd dulliau blaengar o fynd ati i astudio meddyginiaethau chwaraeon hefyd yn eich galluogi i ennill profiad ym maes ‘rhagnodi ymarfer’ maes sydd yn cynyddu ac ehangu’n gyflym.
Cewch ddefnyddio labordai llawn chyfarpar ac offer, newydd eu hail-wampio, ar gampws Llandaf, yn cynnwys Cyfres o Ystafelloedd ar gyfer Asesu Iechyd a ddatblygwyd yn ddiweddar, adnoddau rhagorol cyfrifiaduraeth a dysgu agored a llyfrgelloedd gydag ystod llawn o gylchgronau cyfredol a chyfnodolion. Hefyd, cewch fynediad llawn i gyfleusterau helaeth ar gampws Cyncoed sy’n cynnwys labordai perfformiad dynol, y Ganolfan Athletau Genedlaethol, trac athletau awyr agored gydag arwyneb synthetig, Astroturf, canolfan denis dan do, pwll nofio a neuadd chwaraeon.
Blwyddyn Un:
Cewch ragarweiniad i’r themâu sylfaenol sef maethiad dynol, ffisioleg dynol, biocemeg a seicoleg chwaraeon ac ymarfer. Rhoddir pwyslais ar effaith ymarfer ar ddatblygiad corfforol a meddyliol y corff. Bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu sylfaen i ddefnyddio egwyddorion gwyddonol, rhesymu a’u rhoi ar waith ym maes iechyd a gwyddor ymarfer.
Modiwlau (I Gyd yn rhai Craidd):
- Biocemeg (20 credyd)
- Bioleg Celloedd a Geneteg (20 credyd)
- Anatomeg a Ffisioleg (20 credyd)
- Haint ac Imiwnedd 1 (20 credyd)
- Sgiliau Labordy a Dadansoddi Data (20 credyd)
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1 (20 credyd)
Blwyddyn Dau:
Byddwch yn cymhwyso’r wybodaeth a gawsoch ym mlwyddyn un, drwy ddefnyddio technegau labordy a sesiynau ymarferol i ddod i ddeall y berthynas rhwng ymarfer, iechyd a chlefydau. Rhoddir pwyslais ar ganfod, asesu a monitro effeithiau ymarfer a maethiad ar iechyd a ffitrwydd. Cewch gyfle i ennill profiad o ddefnyddio technegau i ganfod a mesur cyffuriau gwella perfformiad.
Mae holl fodiwlau’r ail flwyddyn yn rhai craidd ac yn cynnwys:
- Dulliau Dadansoddol, Ymchwil a Diagnostig (20 credyd)
- Gwyddorau Gwaed a Chelloedd (20 credyd)
- Bioleg Moleciwlaidd a Geneteg (20 credyd)
- Ffisioleg Ymarfer Clinigol a Llesiant Ffisiolegol (20 credyd)
- Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg (20 credyd)
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2 (20 credyd)
Blwyddyn Tri:
Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallwch ddatblygu eich cryfderau a’ch diddordeb o ran gwyddor iechyd ac ymarfer, a’u lle ym myd ehangach meddygaeth a iechyd cyhoeddus. Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethawd hir yn datblygu syniadau gwreiddiol a chritigol a fydd yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn meysydd biofeddygol, ymarfer a iechyd.
Mae holl fodiwlau’r drydedd blwyddyn yn rhai craidd ac yn cynnwys:
- Prosiect Ymchwil (40 credyd)
- Pynciau Cyfoes yn y Gwyddorau Biofeddygol (20 credyd)
- Meddyginiaethau Chwaraeon (20 credyd)
- Maeth mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd)
- Addasiad Moleciwlaidd a Metabolaidd i Ymarfer Corff (20 credyd)
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Dysgu ac Addysgu
Mae strategaethau dysgu ac addysgu yn cynnwys sesiynau addysgu traddodiadol yn seiliedig ar ddarlithoedd ynghyd â thiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael mynediad i sesiynau gweithdy amser cinio ‘galw heibio’ mewn Biocemeg a Ffisioleg. Cefnogir a hysbysir y cwricwlwm gan weithgareddau ymchwil y staff academaidd. Mae’r system diwtorial personol yn annog myfyrwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol a myfyriol trwy gydol eu hastudiaethau.
Asesu
Defnyddir cyfuniad o ddulliau asesu: mae rhai modiwlau yn defnyddio aseiniadau ysgrifenedig, megis traethodau ac adolygiadau llenyddiaeth, eraill yn cynnwys arholiadau, adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau, astudiaeth achos ac (yn y flwyddyn olaf) elfen bwysig ydy cwblhau prosiect ymchwil gwyddonol a phoster.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae’r cwrs unigryw a chyffrous hwn wedi’i gynllunio i ganiatáu i raddedigion fanteisio’n llawn ar gyflogaeth mewn nifer o feysydd. Mae economi sy’n ffynnu yn y sectorau iechyd a ffitrwydd, a dylai cwblhau’r rhaglen astudio hon yn llwyddiannus ddarparu amrywiaeth o yrfaoedd mewn meysydd fel y diwydiant Chwaraeon a Hamdden, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cynghorau Chwaraeon Cenedlaethol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, Hybu Iechyd a Chynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
Bydd graddedigion hefyd yn gymwys iawn ar gyfer swyddi yn y diwydiannau Fferyllol, Bwyd a Diod. Mae cyfleoedd ar gyfer astudiaeth bellach yn rhagorol ac yn cynnwys astudiaethau eraill ym maes iechyd a graddau uwch (MSc a PhD).
Mae gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd gysylltiadau ardderchog gyda’r holl sectorau perthnasol i’r Gwyddorau Iechyd. Mae llawer o’r staff yn ymgymryd â mentrau ymchwil blaengar ac arloesol ar y cyd â sefydliadau eraill megis Adran Ffarmacoleg Clinigol Prifysgol Caergrawnt, Ysgol Feddygol Caerdydd, Ysgol Fferylliaeth Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a’r Sefydliad Maethiad Chwaraeon.
Achredwyd y rhaglen hon gan Gymdeithas Frenhinol Bioleg yn dilyn asesiad annibynnol a thrylwyr. Mae rhaglenni achrededig yn cynnwys sylfaen academaidd gadarn mewn gwybodaeth fiolegol a sgiliau allweddol ac yn paratoi graddedigion i ddiwallu anghenion cyflogwyr. Mae meini prawf achredu yn gofyn am dystiolaeth bod graddedigion rhaglenni achrededig yn cwrdd â setiau penodedig o ganlyniadau dysgu, yn cynnwys gwybodaeth yn y pwnc, gallu technegol a sgiliau trosglwyddadwy.
Dysgwch ragor am y modd yr helpodd y radd hon
Tom Maynard a raddiodd yn ddiweddar i sicrhau swydd fel Maethegydd Perfformiad gyda Chwaraeon Cymru.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
- Pwyntiau tariff: 112-120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A i gynnwys gradd B mewn Bioleg a gradd C mewn Gwyddoniaeth gyfatebol.
- Pynciau perthnasol: Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
- Lefel T: Ystyrir Teilyngdod mewn pwnc Gwyddoniaeth.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: O fewn pwnc Gwyddoniaeth sy’n cwmpasu Bioleg ddigonol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dwy Radd 5/6 mewn Bioleg Lefel Uwch a Gwyddoniaeth gyfatebol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: H2 mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir pynciau lefel uwch gyda gradd H4 o leiaf yn unig.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau CD mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni