Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB
Ffôn: 029 2041 6070
Gweld map maint llawn o Gampws Llandaf
Mae Llandaf yn gartref i Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Llandaf), Ysgol Reoli Caerdydd ac Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.
Mae hwn yn gampws prysur a bywiog. Gyda miliynau o bunnoedd o wedi'u buddsoddi'n ddiweddar, mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr. Mae'r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol, undeb y myfyrwyr, siop ar y safle, bariau coffi, gan gynnwys Costa a Starbucks, a ffreutur. Mae'r campws tua dwy filltir o ganol y ddinas, wedi'i amgylchynu gan nifer o barciau, caeau chwarae a phentref hanesyddol Llandaf.
Mae'r campws hwn hefyd wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at ein campws preswyl, Plas Gwyn.
Cliciwch yma i weld map Campws Llandaf
Parcio ceir
Mae'n ofynnol i bob ymwelydd â champysau Met Caerdydd Dalu ac Arddangos ar y gyfradd a bennwyd. Yn ogystal, rhaid i ymwelwyr â Champws Llandaf rhwng 08.00am a 4.00pm adrodd i'r Dderbynfa i gasglu cerdyn parcio dros dro i'w arddangos ochr yn ochr â'u tocyn Talu ac Arddangos. Mae Mannau Parcio i Ymwelwyr yn Llandaf yn gyfyngedig iawn ac nid oes sicrwydd y bydd lle parcio ar gael.
Ar gyfer digwyddiadau mawr, trafodwch barcio gyda'r trefnwyr cyn eich ymweliad.
Sut i'n cyrraedd ni:
Bws
Yn ystod y tymor, mae bysiau U1, U2, ac U3/U4 y MetRider yn teithio bob awr i Landaf o gampws Cyncoed, y Rhath, Cathays, a chanol y ddinas. Mae'r bysiau MetRider i gyd yn stopio y tu allan i'r campws.
Mae llwybr bws cylchol 1/2 yn gwasanaethu campws Llandaf bob 30 munud o'r Tyllgoed, y Mynydd Bychan, y Rhath, a chanol y ddinas.
Gallwch hefyd deithio i gampws Llandaf o Ystum Taf, y Tyllgoed, Treganna, neu ganol y ddinas ar y 24/25, y 33/33A/33B, neu'r 60/62, gan stopio yn arhosfan bysiau Black Lion Llandaf ar Ffordd Caerdydd, sydd ond 10 munud ar droed o'r campws. Gweler Bws Caerdydd am fanylion llwybrau.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig tocyn bws
MetRider i fyfyrwyr a staff, sy'n rhoi mynediad diderfyn i rwydwaith cyfan Bws Caerdydd rhwng 1 Medi a 30 Mehefin. Os cymerwch y bws fwy na dau ddiwrnod bob wythnos, bydd y tocyn MetRider yn arbed arian i chi.
Trên
Mae gorsaf reilffordd Waun-gron tua 20 munud ar droed o gampws Llandaf, ac mae ar Linell y Ddinas. Gweler
National Rail Enquiries am amseroedd trenau.
Beic
Mae Caerdydd yn elwa o rwydwaith o lwybrau seiclo, gan gynnwys nifer o lwybrau seiclo di-draffig. Mae campws Llandaf wedi'i leoli nesaf at Lwybr Taf, llwybr seiclo cenedlaethol poblogaidd sy'n arwain o ganol y ddinas mor bell i'r gogledd â Merthyr Tudful.
Mae yna hefyd lwybr seiclo di-draffig sy'n cysylltu campws Llandaf â champws preswyl Plas Gwyn, gyda dim ond darn byr ar y ffordd rhwng Plas Gwyn a mynedfa'r llwybr seiclo ar Heol y Bont. Gan nad yw'r llwybr seiclo hwn wedi'i oleuo ar hyn o bryd, byddem yn eich cynghori i gymryd llwybr arall wrth deithio'n hwyr yn y nos.
I gynllunio'ch taith ar feic i gampws Llandaf, ewch i
Cycle Streets. Mae mapiau llwybrau seiclo hefyd ar gael o'r dderbynfa ar bob campws Prifysgol Metropolitan Caerdydd.