Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth ddeinamig sy’n datblygu’n barhaus ac sy’n gofyn i unigolion tra hyfforddedig i berfformio amrywiaeth o dechnegau yn seiliedig ar labordy a fydd yn cyfrannu ar ofal a llesiant cyffredinol cleifion.
Lluniwyd gradd achrededig BSc(Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd ym Met Caerdydd yn benodol i alluogi myfyrwyr i ddatblygu, integreiddio a defnyddio gwybodaeth wyddonol a sgiliau i archwiliad aml-ddisgyblaethau iechyd a chlefydau. Gydag elfennau o hyfforddiant yn seiliedig ar waith wedi’u hymgorffori ymhob blwyddyn o’r rhaglen, mae wedi’i theilwra’n ofalus i baratoi graddedigion ar gyfer gyrfa yn y GIG.
Mae gradd Gwyddor Gofal Iechyd yn cysylltu’n agos gyda gofynion cynllunio gweithlu ar gyfer GIG Cymru, ac felly, mae’n cynnig lefel uwch o gyflogadwyedd. Yn ystod ail flwyddyn yr astudiaeth bydd myfyrwyr yn arbenigo yn un o’r disgyblaethau canlynol: Gwyddor Gwaed, Gwyddor Celloedd, Gwyddor Geneteg neu Wyddor Haint. Bydd graddedigion llwyddiannus hefyd yn gymwys i wneud cais i gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a hynny’n gwella cyfleodd gyrfaol ymhellach.
Achredwyd y cwrs hwn gan Gymdeithas Frenhinol Bioleg at ddiben diwallu, yn rhannol, y gofynion academaidd a phrofiad ar gyfer Aelodaeth achredig a Biolegydd Siartredig (CBiol) achredig.
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Yn ogystal, bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 70% ar yr ymgais gyntaf, gydag isafswm o 65% o’r modiwl Gwyddorau Biolegol yn Nhymor 2. Gweler y gofynion mynediad am fanylion pellach.
Cynnwys y Cwrs
Bydd myfyrwyr yn graddio gydag un o’r dyfarniadau canlynol:
- BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Gwaed)
- BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Celloedd)
- BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Geneteg)
- BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Haint)
Os bydd cystadleuaeth am rai arbenigeddau yn codi, efallai y bydd cyflawniad academaidd, canlyniad proses gyfweld, ymgysylltiad myfyrwyr â'r rhaglen a CV myfyrwyr yn cael eu hystyried.
Blwyddyn Un (Lefel 4):
Byddwch yn astudio biocemeg sylfaenol, bioleg celloedd a geneteg, microbioleg, imiwnoleg, a ffisioleg dynol, yn cynnig y wybodaeth wyddonol angenrheidiol ar gyfer astudiaeth bellach. Hefyd, byddwch yn gallu datblygu sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a phroffesiynol perthnasol yn ogystal â gwneud cyfnod o hyfforddiant cyffredinol yn seiliedig ar waith.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau 4 wythnos o leoliad rhyngbroffesiynol yn y brifysgol ar draws 3 blynedd y rhaglen ac yn ystod y flwyddyn academaidd gyntaf hon byddant yn ymgymryd â lleoliad gwaith 3 wythnos yn un o labordai clinigol achrededig y GIG.
Modiwlau (I Gyd yn Rhai Craidd):
- Biocemeg (20 credyd)
- Bioleg Celloedd a Geneteg (20 credyd)
- Anatomi a Ffisioleg Dynol (20 credyd)
- Haint ac Imiwnedd A (20 credyd)
- Sgiliau Labordy a Dadansoddi Data (20 credyd)
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol (20 credyd)
Blwyddyn Dau (Lefel 5):
Byddwch yn ennill arbenigedd mewn ystod gynhwysfawr o dechnegau ymchwiliol arbenigol, epidemioleg a dadansoddi data a dulliau ymchwil. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i ddisgyblaethau gwyddor gwaed, gwyddor cellog, gwyddor genetig a gwyddor heintiau. Bydd myfyrwyr yn archwilio natur a phwysigrwydd prosesau clefydau a'u hymchwiliad clinigol ac yn cychwyn ar gyfnod hyfforddi arbenigol o 15 wythnos yn y gwaith mewn amgylchedd labordy clinigol sy'n parhau i drydedd flwyddyn a blwyddyn olaf y rhaglen.
Modiwlau:
- Dulliau dadansoddiadol, Ymchwil a Diagnostig (20 credyd)
- Gwyddorau Gwaed a Chelloedd (20 credyd)
- Haint ac Imiwnedd (20 credyd)
- Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg (20 credyd)
- Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg (20 credyd)
- Ymarfer Proffesiynol a Hyfforddiant Seiliedig ar Waith A (20 credyd)
- Lleoliad Gwyddor Gofal Iechyd Arbenigol (nad yw'n dwyn credyd)
Blwyddyn Tri (Lefel 6):
Mae'r flwyddyn olaf yn cynnwys cyfuniad o leoliad clinigol, dysgu o bell academaidd a rhyddhau bloc yn y brifysgol. Eleni byddwch yn canolbwyntio ar integreiddio eich dysgu i gefnogi dull amlddisgyblaethol o ymchwilio, gwneud diagnosis a rheoli anhwylder ac afiechyd. Bydd y pynciau a drafodir yn pwysleisio'r ymagwedd amlddisgyblaethol at ymchwilio i glefydau yn y labordy, a rheoli cleifion. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau arbenigol penodol trwy ddysgu o bell a rhyddhau bloc, tra'n cwblhau'r hyn sy'n cyfateb i gyfnod o 25 wythnos o hyfforddiant seiliedig ar waith mewn amgylchedd labordy clinigol. Mae'r hyfforddiant seiliedig ar waith hwn yn parhau o leoliad blwyddyn 2. Bydd y prosiect ymchwil blwyddyn olaf a wneir fel rhan o'ch hyfforddiant seiliedig ar waith, yn annog ymhellach ymholi annibynnol a dadansoddi beirniadol.
Modiwlau:
- Bioleg ac Ymchwil yn y Labordy i Glefydau (20 credyd)
- Pynciau Cyfoes mewn Gwyddor Gofal Iechyd (20 credyd)
- Ymarfer Proffesiynol a Hyfforddiant yn Seiliedig ar waith (20 credyd)
- Prosiect Ymchwil (40 credyd)
-
Gwyddorau Gwaed – Arbenigedd B (20 Credyd) NEU
-
Gwyddorau Celloedd – Arbenigedd B (20 Credyd) NEU
-
Gwyddorau Geneteg – Arbenigedd B (20 Credyd) NEU
-
Gwyddorau Haint – Arbenigedd B (20 Credyd)
Dysgu ac Addysgu
Defnyddir ystod o ddulliau addysgu a dysgu drwy’r rhaglen. Mae’r rhaglen yn cynnwys tiwtorialau, a nifer sylweddol o sesiynau ymarferol yn y labordy. Hefyd, defnyddir Rhith Amgylchedd Dysgu Moodle i gynnig gwybodaeth allweddol am fodiwlau rhaglen, gwybodaeth am gyngor gyrfaol a gwybodaeth weinyddol am raglen astudiaeth y myfyrwyr.
Neilltuir tiwtor personol ar gyfer pob dysgwr pan fyddan nhw’n ymrestru ar y cychwyn cyntaf, a hwn/hon fydd eu tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol eu hastudiaeth. Bydd myfyrwyr yn llunio Portffolio Datblygiad Personol (PDP) yn ystod y flwyddyn gyntaf ac mae’r system o diwtoriaid personol yn annog myfyrwyr i ddal ati i ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol ac adfyfyriol drwy gydol eu hastudiaethau. Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein ‘Polisi Drws Agored’ sy’n annog myfyrwyr i gysylltu â staff am gyngor a chyfarwyddyd pryd bynnag byddan nhw angen hynny.
Hefyd, neilltuir tiwtor hyfforddiant yn y gweithle ar gyfer myfyrwyr. Bydd y cyfryw aelod o’r staff yn un o’n darlithwyr cofrestredig gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a bydd yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr tra byddan nhw allan ar leoliad.
Asesu
Cewch eich asesu’n barhaus dwy arholiadau, gwaith cwrs, ac aseiniadau portffolio, astudiaethau achos ac yn y flwyddyn olaf, traethawd hir ymchwil yn seiliedig ar waith / cyflwyniad poster gwyddonol.
Yn ogystal, tra’n gwneud hyfforddiant yn y gweithle, bydd gofyn i’r myfyrwyr gwblhau Llawlyfr Hyfforddiant Ymarferydd Gwyddor Gofal a Iechyd a phortffolio Gwyddor Biofeddygol cyn-ymrestru ar gyfer Tystysgrif Cymhwysedd.
Cyflogadwyedd a Gyrfoedd
Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth wyddonol ddeinamig, broffesiynol sy’n newid yn barhaus, disgyblaeth sy’n ymwneud â deall sut mae clefydau yn datblygu a sut gallen nhw effeithio ar y modd mae’r corff yn gweithio fel arfer. Nod y ddisgyblaeth ydy ymchwilio i broses glefydau ac, yn y pen draw , datblygu dulliau i fonitro, diagnosio, trin ac atal clefyd.
Mae Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnig cyfleoedd gyrfaol heriol a boddhaus o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a nifer o sefydliadau eraill yn cynnwys yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, Awdurdod Gwaed Cenedlaethol a’r Cyngor Ymchwil Meddygol.
O gwblhau’r rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn llwyddiannus, gall graddedigion wneud cais am gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Hyfforddiant yn seiliedig ar waith: mae cyfnodau estynedig o hyfforddiant mewn labordai’r GIG wedi’u hymgorffori ar draws tair blynedd y rhaglen radd hon. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn ennill gwybodaeth fanwl, dealltwriaeth drylwyr a phrofiad helaeth o amgylchedd gwyddor gofal iechyd i’w paratoi nhw ar gyfer cyflogaeth fel Ymarferydd Gwyddor Gofal Iechyd / Gwyddonydd Biofeddygol o fewn y GIG. Ceir gwybodaeth bellach am gyfleodd gyrfaol ym maes Gwyddor Gofal Iechyd yma:
http://www.nhscareers.nhs.uk/explore-by-career/healthcare-science/careers-in-healthcare-science/careers-in-life-sciences/
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus. Bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 70% ar yr ymgais gyntaf, gydag isafswm o 65% o’r modiwl Gwyddorau Biolegol yn Nhymor 2.
-
Pwyntiau tariff: 112-120
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS academaidd 7 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A. Graddau BC mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol.
-
Pynciau perthnasol: Ystyrir Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth fel y Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DDM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
-
Lefel T: Pwnc gwyddoniaeth yn cael ei ystyried, ochr yn ochr â chymhwyster Lefel 3 perthnasol pellach.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd Lefel 3 ar Ragoriaeth mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch ym meysydd y Biowyddorau, Gofal Iechyd, Gwyddor Iechyd a Gwyddoniaeth yn dderbyniol. Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C/4 neu uwch mewn iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth hefyd.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Isafswm 2 Gradd 5/6 mewn Bioleg Lefel Uwch a Gwyddoniaeth gyfatebol.
-
Tystysgrif Gadael Gwyddeleg: H1 mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Pynciau lefel uwch yn unig a ystyrir gydag isafswm gradd H4.
-
Scottish Advanced Highers: Graddau CD mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Scottish Highers hefyd, naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
-
Gofynion eraill: Cyfweliad llwyddiannus,
gwiriad DBS a
Iechyd Galwedigaethol.
Byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd cymwys sy'n astudio, neu sydd wedi astudio, Diploma priodol sy'n ymwneud ag Iechyd Mynediad i Addysg Uwch; cymhwyster dysgu seiliedig ar waith lefel 3 neu 4 neu raglen lefel 3 debyg; sy'n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ar gyfer y rhaglen.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Bwrsari’r GIG a Chymorth Ariannol
Mae holl fyfyrwyr gofal iechyd, yn cynnwys y rhai heb fod yn rhan o gynllun Bwrsari GIG Cymru, sy’n cynnig cymorth ariannol i dalu ffioedd dysgu ac am rai o agweddau cynhaliaeth ar yr amod eu bod yn ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio, yn gymwys i dderbyn cymorth gan GIG Cymru sef ad-daliadau o gostau teithio i leoliad profiad gwaith clinigol a phrofiad gwaith a threuliau cynhaliaeth y gellir eu hawlio drwy Swyddfa Lleoliadau Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am adennill costau lleoliad, cysylltwch â
cpt@cardiffmet.ac.uk.
Cysylltwch â
moneyadvice@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid, gan gynnwys cyllid myfyrwyr a bwrsariaeth y GIG. Am ragor o wybodaeth am Gynllun Bwrsari’r GIG,
cliciwch yma.
Cysylltu â Ni