Nod cwrs gradd BSc (Anrh) Technoleg Deintyddol ydy cynhyrchu technegwyr deintyddol sy’n gallu saernïo yn fanwl iawn waith adferiad ar ddannedd, prosthesis ac offer (fel capiau a phontydd unigryw ar gyfer dannedd neu declynnau ortho-ddeintyddol). Mae’r cwrs hefyd yn ceisio ehangu dealltwriaeth o feysydd newydd a datblygol technoleg deintyddol ac i wella perthynas o fewn y Tîm Deintyddol.
Cynhelir y cwrs mewn cydweithrediad agos gydag Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, a fydd yn cyflenwi, asesu a bod yn gyfrifol am draean o’r cwrs. Fel technegydd deintyddol israddedig, byddwch y gweithio gyda hyfforddai o ddeintyddion ac ymgynghorwyr yn ystod ail a thrydedd blwyddyn y cwrs.
Cynnwys y Cwrs
Mae pob modiwl yn werth 20 credyd oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn Un:
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol
- Anatomeg a Ffisioleg
- Prosthodonteg y gellir eu Tynnu
- Prosthodoonteg Sefydlog
- Deunyddiau Deintyddol Cymhwysol
Blwyddyn Dau:
- Prosthodonteg y gellir eu Tynnu
- Prosthodonteg Sefydlog
- Orthodonteg
- Dulliau Ymchwil
- Lleoliad Profiad Gwaith
Blwyddyn Tri:
- Prosiect YR
- Deintyddiaeth Ddigidol
- Paratoi ar gyfer Ymarfer a'r Lleoliad Gwaith
Yn ystod blwyddyn dau a thri, byddwch ymgymryd â chyfnodau o fod ar brofiad gwaith yn cynnwys Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol y Brifysgol. Bydd y cyfnodau profiad gwaith yn eich galluogi i ennill y profiad angenrheidiol ym maes saernïo offer dannedd, gwaith adferiad a prosthesis ar gyfer cleifion.
Dysgu ac Addysgu
Bydd dull ymchwilgar, cwestiynu, chwilfrydig o ymdrin â'r pynciau, y mae angen ei ddeall a'i gaffael ar gyfer cofrestru, fel y bydd technolegydd cymwys yn datblygu.
Yn ystod eich amser ar y cwrs byddwch chi'n profi nifer o ddulliau addysgu a dysgu. Bydd rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, aseiniadau tîm ac hunanasesiadau ac asesiadau cymheiriaid. Bydd rhai sesiynau dysgu ar y cyd gyda myfyrwyr rhan amser, defnyddio e-bortffolios a defnydd helaeth o'r amgylchedd dysgu rhithwir lle gellir cyrchu nodiadau darlithoedd, fideos o arddangosiadau ymarferol, eitemau cyflwyno darlithoedd a chyn-bapurau ar-lein. Byddwch hefyd yn cael tiwtor personol a fydd ar gael i drafod eich cynnydd academaidd ac a allai eich cyfeirio at arbenigwyr eraill ar gyfer materion eraill lle bo angen.
Bu cysylltiad hir a sefydledig ag Ysbyty Deintyddol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, gan arwain at y sefydliad hwnnw'n darparu cyfraniad mawr i'r rhaglen radd hon. Bydd dau semester yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn cael eu cyflwyno a'u hasesu gan staff o'r Ysbyty Deintyddol, sydd o fewn pellter cerdded hawdd i Brifysgol Met Caerdydd, yn Llandaf. Felly gall myfyrwyr ennill profiad gwerthfawr yn cynhyrchu'r offer dannedd, adferiadau a phrosthesis a gweld bod yr eitemau hyn yn ffitio'r cleifion.
Y ffynhonnell o gefnogaeth bersonol sy'n cael ei hystyried yr un mwyaf defnyddiol gan fyfyrwyr cyfredol ydy’r polisi ‘drws agored’ a weithredir gan Dîm y Rhaglen lle gwahoddir myfyrwyr i gysylltu ag unrhyw un o’r staff addysgu amser llawn sydd ar gael yn y swyddfa staff yn ystod oriau swyddfa arferol.
Asesu
Asesir pob modiwl y byddwch yn ei astudio. Bydd natur yr asesu yn amrywio yn ôl natur a diben y modiwl. Yn y bôn, defnyddir pum math o asesiad yn y rhaglen hon: Mae pob modiwl yr ydych yn ei wneud yn cael ei asesu. Bydd natur yr asesiad yn amrywio yn ôl natur a phwrpas y modiwl. Yn y bôn, defnyddir pum math o asesiad trwy gydol y rhaglen:
Arholiadau Ffurfiol Ysgrifenedig (a gymerir fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn academaidd);
Aseiniadau Ymarferol (fel arfer bydd myfyrwyr yn cwblhau ymarferion technegol gyda chymorth gan ddarlithwyr trwy arddangosiadau, cyngor a chefnogaeth ymarferol);
Arholiadau Ymarferol wedi’u Amseru (lle na fydd myfyrwyr yn cael unrhyw gymorth ymarferol, ond efallai y bydd arweiniad llafar ar gael wrth adeiladu darnau);
Aseiniadau Ysgrifenedig (mae’r rhain yn brosiectau lle mae myfyrwyr yn defnyddio’r llyfrgell/canolfan adnoddau i gasglu a choladu gwybodaeth angenrheidiol neu i ddilyn astudiaeth achos), a Chyflwyniadau Llafar (mae hyn yn gofyn am gyflwyno testun i weddill y grŵp; gellir defnyddio asesiad cymheiriaid sylwadau.)
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae rhagolygon gyrfaol ein graddedigion yn ardderchog. Cyflogir technegwyr deintyddol yn y GIG, mewn labordai masnachol, practis preifat ac ysgolion deintyddol. O fewn y GIG ceir strwythur gyrfaol clir yn ymestyn o radd Uwch swyddog, Prif Swyddog ac Uwch Brif Swyddog. O fewn y sector masnachol, ar ôl ychydig o flynyddoedd o brofiad, byddai’n bosibl i fod yn berchennog neu reolwr labordy masnachol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 96
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A. Graddau CC i gynnwys Gwyddoniaeth.
-
Pynciau perthnasol: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
-
Lefel T: Pasio (C+) mewn pwnc Gwyddoniaeth wedi'i ystyried.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: O fewn pwnc Gwyddoniaeth.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf un Gradd 5 mewn Gwyddoniaeth Lefel Uwch.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: H2 i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir pynciau lefel uwch gyda gradd H4 o leiaf yn unig.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
-
Sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd: 70% yn gyffredinol, ar y cynnig cyntaf.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Rhaid i ymgeiswyr arddangos sgiliau medrusrwydd a'u dwylo, creadigrwydd, sylw i fanylion, a phrofiad o dechnoleg deintyddol yn ogystal a gwybodaeth am ofal iechyd ac anatomi dynol. Rhaid hefyd arddangos y gallu i gyfathrebu'n effeithiol a brwdfrydedd yn y maes.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni