Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Gwybodaeth am Gymwysterau

Gwybodaeth am Gymwysterau

Mae'r dolenni isod ar gyfer gwybodaeth am gymwysterau, newidiadau a phrosesau ar gyfer mynediad i Met Caerdydd, yn ogystal â gwybodaeth am gymwysterau a gymerwyd y tu allan i'r DU. Rydym hefyd yn derbyn rhai cywerthedd ar gyfer TGAU Saesneg a Mathemateg, a cheir manylion am rai ohonynt ar y dolenni isod.

Rydym yn cydnabod nad yw pawb yn cael yr un cyfleoedd astudio, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd ag ystod o broffiliau sydd â'r brwdfrydedd, sgiliau a'r profiad i astudio gyda ni. Rydym yn cymryd ymagwedd crwn i wneud cynnig, ac mewn rhai amgylchiadau gallwn gyhoeddi cynnig graddedig yn lle cynnig gan ddefnyddio Tariff UCAS. Os yw hyn yn swnio fel eich proffil ac mae gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau, cysylltwch â ni i drafod eich proffil gydag un o'n tîm Derbyn.

Os ydych wedi derbyn cynnig eisoes gan Met Caerdydd, edrychwch ar wybodaeth bellach ar sut i ddarparu prawf o'ch cymwysterau.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr oeddech yn chwilio amdano neu os oes gennych unrhyw ymholiadau mwy penodol, cysylltwch â Derbyniadau ar 02920 416010 neu askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Cyfeiriwch hefyd at y wybodaeth o dan ein tudalennau Cyngor i Ymgeiswyr i gael gwybodaeth ar Sut i Wneud Cais a beth i'w wneud ar ôl i chi wneud cais.