Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon – gradd BSc (Anrh)

Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon – gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

​​Mae'r radd BSc (Anrh) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon (SCRAM) ym Met Caerdydd yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol a'r cymhwysiad ymarferol i chi ym meysydd cryfder a chyflyru, adferiad chwaraeon a thylino chwaraeon. Ar y rhaglen byddwch hefyd yn archwilio gwybodaeth sylfaenol o ddisgyblaethau gwyddor chwaraeon mewn ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae'r dull cytbwys, amlddisgyblaethol hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi am waith hyfforddi, ynghyd ag ymarfer corff a therapïau llaw ar gyfer gwella perfformiad ac adferiadau.

Mae dysgu yn y gwaith yn elfen allweddol o'r rhaglen, i'ch galluogi i gymhwyso'ch gwybodaeth o'r rhaglen mewn lleoliadau byd go iawn ac ennill profiad o werth i'w ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer swyddi yn y dyfodol.

Ar ben hynny, mae'r canlyniadau dysgu ar gyfer modiwlau ar draws y rhaglen wedi'u cysylltu'n glir â chymwyseddau Cymdeithas Cryfder a Chyflyru'r DU (UKSCA) gan eich gadael mewn sefyllfa dda i ddilyn yr achrediad proffesiynol annibynnol hwn ar ôl graddio. Mae'r rhaglen hefyd wedi'i chymeradwyo gan y Gymdeithas Cryfder a Chyflyru Genedlaethol (NSCA) fel rhan o'r Rhaglen Cydnabod Addysg, gan ddarparu sylfaen wybodaeth i chi ddilyn cwrs ardystiad fel Arbenigwr Cryfder a Chyflyru Ardystiedig (CSCS). Mae'r Brifysgol yn rhoi cyfle i chi ennill cymwysterau ITEC annibynnol mewn tylino chwaraeon sy'n gysylltiedig â chwblhau modiwlau priodol. Yn olaf, mae'r rhaglen yn eich gadael mewn sefyllfa ddelfrydol i ddilyn MSc achrededig BASRAT mewn Adferiad Chwaraeon ym Met Caerdydd.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i​:

  1. ​Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen​​.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

​​Cynnwys y Cwrs

Mae'r radd BSc (Anrh) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon (SCRAM) wedi'i sefydlu fel triongl gyda sylfaen eang o gysyniad sylfaenol wedi'i chynnal ym mlynyddoedd 1 a 2 cyn i chi ganolbwyntio ar faes astudio arbenigol yn y flwyddyn olaf. Mae'r model hwn yn sicrhau eich bod chi'n gallu gweithredu fel rhan o dîm amlddisgyblaethol waeth beth fydd eich arbenigedd gyrfa yn y dyfodol.

Yn y flwyddyn astudio gyntaf byddwch yn ymgymryd â chwe modiwl gorfodol. Trwy gydol y ‘modiwlau’ hyn byddwch yn archwilio cysyniadau allweddol ym maes cryfder a chyflyru, anatomeg cyhyrysgerbydol, y broses adferiad ac asesu cleifion yn ogystal â theori ac ymarfer sylfaenol sy’n gysylltiedig â chymhwyster L3 mewn Tylino Chwaraeon. Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau i hwyluso'ch trosglwyddiad i astudio ar lefel prifysgol, ymchwilio i ddamcaniaethau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill cymwysterau hyfforddi galwedigaethol cydnabyddedig a rhai'r diwydiant proffesiynol sy'n berthnasol.

Lefel 4 (blwyddyn un)

  • Ymchwil ac Ysgolheictod*
  • Datblygiad Proffesiynol
  • Anatomeg Cyhyrsgerbydol​
  • Anatomeg ac Asesiad Clinigol
  • Sylfeini ym maes Cryfder a Chyflyru
  • Cyflwyniad i faes Tylino Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal
  • Sylfeini Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  • Patholeg ac Asesu Anafiadau

Opsiynau:

  • Dwyieithrwydd*

Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf gan eich helpu i archwilio ymhellach y damcaniaethau sy'n sail i feysydd craidd cryfder a chyflyru, adferiad chwaraeon a thylino chwaraeon tra hefyd yn cael mwy o ffocws ar gymhwyso'r wybodaeth hon. Mae modiwlau ychwanegol sy'n anelu at ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r broses ymchwil, cysyniadau gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff ac, yn bwysig, cynnwys sy'n anelu at ddatblygu sgiliau a phriodoleddau entrepreneuraidd sydd mor bwysig yn y diwydiannau sy'n cyd-fynd â SCRAM. Mae cyfleoedd hefyd i ennill cymhwyster L4 cydnabyddedig mewn tylino chwaraeon.

Lefel 5 (blwyddyn dau)

  • Dylunio a Phractis Ymchwil*
  • Hyfforddi Cryfder a Chyflyru
  • Egwyddorion Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon*
  • Patholeg Anafiadau ac Adferiad
  • Tylino Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal
  • Menter mewn Chwaraeon ac Iechyd
  • Dulliau amlddisgyblaethol ym meysydd Chwaraeon ac Iechyd

Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn eich galluogi i ganolbwyntio ar un neu ddau o feysydd y rhaglen SCRAM, gan sicrhau eich bod yn datblygu gwybodaeth a chymhwysiad uwch mewn maes sy'n cyd-fynd â'ch dyheadau gyrfaol yn y dyfodol. Byddwch yn gallu ymgymryd â lleoliadau dysgu yn y gwaith a chymryd rhan mewn prosiect mawr yn eich dewis faes astudio ochr yn ochr â'r cynnwys pwnc-benodol o'ch dewis chi. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol sy'n cael ei yrru ac a all gymryd rheolaeth o'ch dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i swydd fel rhywun graddedig neu i fynd i astudio ymhellach. Mae mentora yn rhan sylweddol o'r flwyddyn astudio olaf i ganiatáu cefnogaeth unigol i ddatblygu eich sgiliau fel academydd ac ymarferydd yn y meysydd sy'n cyd-fynd â meysydd SCRAM.

Lefel 6 (blwyddyn tri)

Gorfodol

  • Prosiect Terfynol*
  • Lleoliad yn y Diwydiant*
  • Astudiaeth Achos Cymhwysol

Opsiynau (dau allan o dri)

  • Cryfder a Chyflyru Uwch
  • Adferiad a Rheoli Anafiadau Uwch
  • Tylino Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal Uwch
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd byddwch yn dod ar draws profiad dysgu o'ch cyfnod sefydlu hyd eich graddio sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol y profiad dysgu ar y rhaglen Cyflyru, Adferiad a Thylino mewn Chwaraeon (SCRAM) yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr a hyfforddwyr o fri rhyngwladol sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Cyfleusterau SCRAM o safon byd-eang sy'n benodol i wella profiad dysgu myfyrwyr.
  • Mae pob agwedd ar Ddysgu ac Addysgu yn defnyddio'r llenyddiaeth ymchwil ddiweddaraf a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (e.e. UKSCA, NSCA, SMA, BASRaT, cymwysterau hyfforddi y Corff Llywodraethol Cenedlaethol, NGB).
  • Cydnabyddir hon yn eang fel un sydd ymhlith y rhaglenni cryfder a chyflyru, adferiad a thylino mwyaf blaenllaw yn y DU, a'r unig un o'r rhaglenni i ddefnyddio dull amlddisgyblaethol o fynd ati.

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer y pynciau perthnasol a'r camau o'r dysgu. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol ac hefyd i ddatblygu eich sgiliau hanfodol perthnasol i'r gweithle. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu'n seiliedig ar y gymuned.

Mae natur y rhaglen SCRAM yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos theori (ymarfer ar sail tystiolaeth a rhesymau clinigol) a chymhwysiad (sgiliau clinigol, ymarferol a hyfforddi), ac felly mae asesiadau o fewn modiwlau SCRAM yn cynnwys asesiadau damcaniaethol a thrafodaethau ochr yn ochr ag asesiadau ymarferol mewn lleolaidau cymhwysol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae 'egwyddorion EDGE' Met Caerdydd yn eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a chyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu yn y gwaith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.

Yn ystod eich astudiaethau blwyddyn gyntaf cewch gyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant yn cynnwys hyfforddi chwaraeon, hyfforddi ymarferion, a iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar ac oddi ar y campws. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi egwyddorion EDGE critigol i chi wrth gael swydd broffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r rhaglen SCRAM wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i'r Diwydiant Chwaraeon.

Mae graddedigion diweddar o raglen SCRAM bellach yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi, yn ogystal â gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol ar chwaraeon. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar gyfleoedd mewn ymarfer clinigol preifat neu mewn lleoliadau diwydiant ffitrwydd. Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ymhellach ym maes Ffisiotherapi neu i raglenni Meistr fel MSc Adfer Chwaraeon a gymeradwywyd gan BASRaT neu MSc Cryfder a Chyflyru ac wedi symud ymlaen ymhellach i astudiaethau lefel doethuriaeth.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen​ sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 120 - 128
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch. Graddau BB i gynnwys Gwyddoniaeth.
  • Pynciau perthnasol: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol / Astudiaethau Chwaraeon, Mathemateg neu Fioleg Cymdeithasol yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM-DDM mewn Gwyddoniaeth neu Addysg Gorfforol.
  • Lefel T: Teilyngdod mewn pwnc Gwyddoniaeth.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6 a 1 x H5. H6 mewn Gwyddoniaeth.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2 i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CC i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.​

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu drwy e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Rhaglen:
E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
C607 - Gradd 3 blynedd
C67F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)​

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd llawn amser neu bedair blynedd llawn amser gan gynnwys blwyddyn Sylfaen.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall fod hyd at wyth mlynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr amser llawn ar gyfer pob modiwl. Felly mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau yn digwydd rhwng 9.00yb a 6.00yp yn ystod yr wythnos.

Ffioedd rhan amser:
Codir taliadau fesul modiwl sengl oni nodir yn benodol: israddedig = 10 credyd. Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.

MWY AM Y CWRS
Uchafbwyntiau Gradd

Prif Ddarlithydd Rob Meyers, yn dweud mwy wrthym am y radd mewn Cyflyru Chwaraeon, Adsefydlu a Thylino ym Met Caerdydd.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i Gwrdd â’r Tîm: Lucy Kember

Dewch i gwrdd â Lucy Kember, Cyfarwyddwr y Rhaglen ar y radd BSc Cyflyru, Adsefydlu a Thylino Chwaraeon ym Met Caerdydd, sy'n rhannu ei phrofiad a'i hangerdd am y pwnc.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION

“Roeddwn i wrth fy modd gydag ehangder gwybodaeth y cwrs ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Roeddwn i wrth fy modd a defnyddioldeb ymarferol y cwrs. Roedd gallu defnyddio eich gwybodaeth a mireinio’ch sgiliau ym mhob un o 3 sylfaen y cwrs yn wych, yn ddiddorol ac yn darparu digon o her i dyfu. Ers graddio, rwyf wedi gweithio fel Hyfforddwr Personol a CrossFit. Un o’r cyfleoedd mwyaf cofiadwy oedd gweithio i Staff Seminar CrossFit, yn addysgu seminarau ledled y DU ac Ewrop, a gweithio gyda Help for Heroes – yn helpu cyn-filwyr i adeiladu ymdeimlad o berthyn, cymuned, a gwella eu meddylfryd a’u llesiant corfforol. Fe wnaeth helpu pobl a dod a phositifrwydd i’w bywydau fy arwain at gymhwyso fel Hyfforddwr Perfformiad a Meddylfryd.”

Ash Phillips
Myfyriwr Graddedig Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon - BSc (Anrh), a Hyfforddwr Perfformiad a Meddylfryd

EIN CYFLEUSTERAU
Cyfleusterau Chwaraeon

Mae'r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn ei chyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ar gampws Cyncoed i wella perfformiad a datblygiad academaidd ein holl fyfyrwyr.