Mae'r radd BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol ym Met Caerdydd wedi'i hachredu'n broffesiynol gan y
Sefydliad Gwyddoniaeth Biofeddygol a'r
Gymdeithas Frenhinol Bioleg ac mae wedi'i chynllunio i'ch galluogi i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gwyddonol i'r ymchwiliad amlddisgyblaethol o glefydau ac anhwylderau dynol, megis diabetes, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd.
Bydd ein gradd Gwyddor Biofeddygol yn eich galluogi i ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddoniaeth fforensig, fferyllol, iechyd a diogelwch, masnach ac addysgu. Yn ogystal, mae llawer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer graddau uwch, gan gynnwys graddau meddygaeth mynediad i raddedigion a deintyddiaeth, a chymwysterau proffesiynol pellach.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol at ddiben bodloni'r gofyniad academaidd a phrofiad yn rhannol ar gyfer Aelodaeth a Biolegydd Siartredig (CBiol).
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Gall y rhaglen hon ymgorffori blwyddyn sylfaen (blwyddyn 0), ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac sydd heb gyflawni safonau gofynnol mynediad neu heb astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol, sef y cefndir sydd yn ofynnol i gael mynediad i flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd o’u dewis.
Bydd myfyrwyr sy’n dymuno gwneud y flwyddyn sylfaen yn gwneud cais am y rhaglen y maen nhw’n bwriadu symud ymlaen i’w hastudio, gan ddefnyddio’r cod UCAS perthnasol a restrir ar y dudalen hon o’r cwrs a gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS. Fel y cyfryw, bydd myfyrwyr sy’n dilyn y llwybr sylfaen yn cymryd blwyddyn ychwanegol i gwblhau eu gradd anrhydedd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.
Gradd:
Blwyddyn Un:
Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall ffisioleg dynol, biocemeg, bioleg celloedd, geneteg, microbioleg ac imiwnoleg. Bydd sesiynau yn y labordy a sesiynau addysgu yn cynnig y wybodaeth wyddonol a’r sgiliau technegol a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer Blwyddyn 2 a 3. Hefyd, bydd myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau dadansoddiadol, cyfathrebu a throsglwyddadwy perthnasol.
Modiwlau (I gyd yn rhai Craidd):
- Biocemeg (20 credyd)
- Bioleg Celloedd a Geneteg (20 credyd)
- Anatomeg a Ffisioleg (20 credyd)
- Haint ac Imiwnedd 1 (20 credyd)
- Sgiliau Labordy a Dadansoddi Data (20 credyd)
-
Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1 (20 credyd)
Blwyddyn Dau:
Byddwch yn dod i deall rhagor am fioleg foleciwlaidd a chaffael arbenigedd mewn amrediad o dechnegau ymchwiliol arbenigol; epidemioleg a dadansoddi data; a dulliau ymchwil. Bydd meysydd megis biocemeg feddygol, patholeg celloedd, haematoleg, gwyddor trallwyso, microbioleg feddygol, imiwnoleg, ffarmacoleg a thocsicoleg yn ystyried natur, pwysigrwydd a phrosesau trin clefydau. Hefyd, bydd modiwl datblygiad proffesiynol yn annog myfyrwyr i ystyried eu darpar yrfaoedd a’u helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a fydd yn eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer eu darpar swyddi cyflogedig.
Modiwlau (I gyd yn rhai Craidd):
- Dulliau Dadansoddiadol, Ymchwil a Diagnostig (20 credyd)
- Gwyddorau Gwaed a Chelloedd (20 credyd)
- Haint ac Imiwnedd 2 (20 credyd
- Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg (20 credyd)
-
Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2 (20 credyd)
- Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg (20 credyd)
Blwyddyn Tri
Ffocws y flwyddyn derfynol fydd ar integreiddio’r wybodaeth a gafwyd yn flaenorol er mwyn i fyfyrwyr werthfawrogi’r dull aml-ddisgyblaethol o fynd ati i ymchwilio, diagnosio a reoli anhwylderau a chlefydau. Ymhlith y pynciau a astudir bydd ymchwilio clefydau yn y labordy, dadansoddi bio-wybodeg, ymchwil drosi a detholiad o bynciau cyfredol perthnasol i wyddor biofeddygol. Bydd prosiect ymchwil y flwyddyn olaf yn annog dysgu annibynnol ymhellach, datblygiad parhaus o sgiliau ymchwil technegol, ysgrifennu’n wyddonol a dadansoddi’n gritigol.
Modiwlau (I gyd yn rhai Craidd):
- Dadansoddiad Biofoleciwlaidd (20 credyd)
- Pynciau Cyfoes mewn Gwyddorau Biofeddygol (20 credyd)
- Prosiect (40 credyd)
- Ymchwiliad Bioleg a Labordy o Haint (20 credyd)
- Ymchwil Drosi (20 credyd)
Dysgu ac Addysgu
Defnyddir amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu drwy gydol y rhaglen. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, tasgau grŵp a nifer sylweddol o sesiynau ymarferol yn y labordy. Hefyd, defnyddir Rhith Amgylchedd Dysgu Moodle i ddarparu gwybodaeth allweddol am fodiwlau rhaglen, cyngor a gwybodaeth am yrfaoedd a gwybodaeth weinyddol am raglen astudiaeth y myfyrwyr. Neilltuir tiwtor personol ar gyfer pob myfyriwr wrth iddyn nhw ymrestru ar y cychwyn a hwn/hon fydd eu tiwtor a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol eu hastudiaethau. Mae'r system diwtorial personol yn annog myfyrwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol a myfyriol trwy gydol eu hastudiaethau. Yn ogystal, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein ‘Polisi Drws Agored’ sy’n annog myfyrwyr i gysylltu â staff am gyngor a chyfarwyddyd pryd bynnag mae ei angen.
Asesu
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu myfyrwyr: mae rhai modiwlau yn defnyddio aseiniadau ysgrifenedig megis traethodau ac adolygiadau llenyddiaeth, eraill yn cynnwys arholiadau, adroddiadau ymarferol cyflwyniadau (grŵp ac unigolion), astudiaethau achos ac (yn y flwyddyn olaf) elfen bwysig ydy cwblhau prosiect ymchwil gwyddonol a phoster.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae Gwyddor Biofeddygol yn newid yn barhaus, yn ddisgyblaeth wyddonol ddeinamig yn ymwneud â deall sut mae clefydau yn datblygu a sut gallan nhw effeithio ar weithrediad arferol y corff. Nod y ddisgyblaeth hon ydy ymchwilio i broses y clefyd ac, yn y pen draw, datblygu dulliau ar gyfer monitro, diagnosio, trin ac atal clefydau.
Gallai graddedigion ddefnyddio’u gwybodaeth wyddonol arbenigol a’u sgiliau dadansoddiadol i ymchwilio i glefydau megis clefyd siwgr, canser, a chlefyd cardiofasgwlaidd. Byddan nhw’n gallu gwerthuso effeithiolrwydd triniaeth a chynorthwyo’r ymchwil i brofion diagnostig a chynnyrch fferyllol a’u datblygu.
Gall graddedigion gael eu cyflogi mewn amrywiaeth o gyd-destunau, yn cynnwys labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddorau fforensig, y diwydiant fferyllol, iechyd a diogelwch, masnach ac addysgu. Hefyd, mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio am raddau uwch yn cynnwys mynediad graddedigion i raddau meddygaeth a deintyddiaeth ac i gymwysterau proffesiynol pellach.
Mae achrediad y radd hon gan yr IBMS yn golygu bod ein graddedigion yn bodloni'r gofynion academaidd i gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol. Mae hyn yn golygu y gallant wneud cais am swydd fel Gwyddonydd Biofeddygol dan hyfforddiant ac yna, ar ôl hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith a chyflawni Tystysgrif Cymhwysedd IBMS, ddod yn Wyddonydd Biofeddygol cofrestredig (gweler ibms.org am ragor o wybodaeth).
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 120-128
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A i gynnwys graddau BB mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol.
-
Pynciau perthnasol: Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DDM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
-
Lefel T: Ystyrir Teilyngdod mewn pwnc Gwyddoniaeth.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: O fewn pwnc Gwyddoniaeth sy'n cwmpasu Bioleg ddigonol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dwy Radd 5 mewn Bioleg Lefel Uwch a Gwyddoniaeth gyfatebol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: H2 mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir pynciau lefel uwch gyda gradd H4 o leiaf yn unig.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau CC mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni